1 Yr oedd Saul yn cydsynio �'i lofruddio. Y diwrnod hwnnw dechreuodd erlid mawr ar yr eglwys yn Jerwsalem. Gwasgarwyd hwy, pawb ond yr apostolion, trwy barthau Jwdea a Samaria. 2 Claddwyd Steffan gan wu375?r duwiol, ac yr oeddent yn galarnadu'n uchel amdano. 3 Ond anrheithio'r eglwys yr oedd Saul: mynd i mewn i du375? ar �l tu375?, a llusgo allan wu375?r a gwragedd, a'u traddodi i garchar. 4 Am y rhai a wasgarwyd, teithiasant gan bregethu'r Gair. 5 Aeth Philip i lawr i'r ddinas yn Samaria, a dechreuodd gyhoeddi'r Meseia iddynt. 6 Yr oedd y tyrfaoedd yn dal yn unfryd ar eiriau Philip, wrth glywed a gweld yr arwyddion yr oedd yn eu gwneud; 7 oherwydd yr oedd ysbrydion aflan yn dod allan o lawer oedd wedi eu meddiannu ganddynt, gan weiddi � llais uchel, ac iachawyd llawer o rai wedi eu parlysu ac o rai cloff. 8 A bu llawenydd mawr yn y ddinas honno. 9 Yr oedd rhyw u373?r o'r enw Simon eisoes yn y ddinas yn dewino ac yn synnu cenedl Samaria. Yr oedd yn dweud ei fod yn rhywun mawr, 10 ac yr oedd pawb, o fawr i f�n, yn dal sylw arno ac yn dweud, "Hwn yw'r gallu dwyfol a elwir Y Gallu Mawr." 11 Yr oeddent yn dal sylw arno am ei fod ers cryn amser yn eu synnu �'i ddewiniaeth. 12 Ond wedi iddynt gredu Philip a'i newydd da am deyrnas Dduw ac enw Iesu Grist, dechreuwyd eu bedyddio hwy, yn wu375?r a gwragedd. 13 Credodd Simon ei hun hefyd, ac wedi ei fedyddio yr oedd yn glynu'n ddyfal wrth Philip; wrth weld arwyddion a gweithredoedd nerthol yn cael eu cyflawni, yr oedd yn synnu. 14 Pan glywodd yr apostolion yn Jerwsalem fod Samaria wedi derbyn Gair Duw, anfonasant atynt Pedr ac Ioan, 15 ac wedi iddynt hwy ddod i lawr yno, gwedd�asant drostynt ar iddynt dderbyn yr Ysbryd Gl�n, 16 oherwydd nid oedd eto wedi disgyn ar neb ohonynt, dim ond eu bod wedi eu bedyddio i enw yr Arglwydd Iesu. 17 Yna rhoes Pedr ac Ioan eu dwylo arnynt, a derbyniasant yr Ysbryd Gl�n. 18 Pan welodd Simon mai trwy arddodiad dwylo'r apostolion y rhoddid yr Ysbryd, cynigiodd arian iddynt, 19 a dweud, "Rhowch yr awdurdod yma i minnau, fel y bydd i bwy bynnag y rhof fy nwylo arno dderbyn yr Ysbryd Gl�n." 20 Ond dywedodd Pedr wrtho, "Melltith arnat ti a'th arian, am iti feddwl meddiannu rhodd Duw trwy dalu amdani! 21 Nid oes iti ran na chyfran yn hyn o beth, oblegid nid yw dy galon yn uniawn yng ngolwg Duw. 22 Felly edifarha am y drygioni hwn o'r eiddot, ac erfyn ar yr Arglwydd, i weld a faddeuir i ti feddylfryd dy galon, 23 oherwydd 'rwy'n gweld dy fod yn llawn chwerwder ac yn gaeth i ddrygioni." 24 Atebodd Simon, "Gwedd�wch chwi drosof fi ar yr Arglwydd, fel na ddaw arnaf ddim o'r pethau a ddywedsoch." 25 Hwythau, wedi iddynt dystiolaethu a llefaru gair yr Arglwydd, cychwynasant yn �l i Jerwsalem, a chyhoeddi'r newydd da i lawer o bentrefi'r Samariaid. 26 Llefarodd angel yr Arglwydd wrth Philip: "Cod," meddai, "a chymer daith tua'r de, i'r ffordd sy'n mynd i lawr o Jerwsalem i Gasa." Ffordd anial yw hon. 27 Cododd yntau ac aeth. A dyma u373?r o Ethiop, eunuch, swyddog uchel i Candace brenhines yr Ethiopiaid, ac yn ben ar ei holl drysor hi; yr oedd hwn wedi dod i Jerwsalem i addoli, 28 ac yr oedd yn dychwelyd ac yn eistedd yn ei gerbyd, yn darllen y proffwyd Eseia. 29 Dywedodd yr Ysbryd wrth Philip, "Dos a glu375?n wrth y cerbyd yna." 30 Rhedodd Philip ato a chlywodd ef yn darllen y proffwyd Eseia, ac meddai, "A wyt ti'n deall, tybed, beth yr wyt yn ei ddarllen?" 31 Meddai yntau, "Wel, sut y gallwn i, heb i rywun fy nghyfarwyddo?" Gwahoddodd Philip i ddod i fyny ato ac eistedd gydag ef. 32 A hon oedd yr adran o'r Ysgrythur yr oedd yn ei darllen: "Arweiniwyd ef fel dafad i'r lladdfa, ac fel y bydd oen yn ddistaw yn llaw ei gneifiwr, felly nid yw'n agor ei enau. 33 Yn ei ddarostyngiad gomeddwyd iddo farn. Pwy all draethu am ei ddisgynyddion? Oherwydd cymerir ei fywyd oddi ar y ddaear." 34 Meddai'r eunuch wrth Philip, "Dywed i mi, am bwy y mae'r proffwyd yn dweud hyn? Ai amdano'i hun, ai am rywun arall?" 35 Yna agorodd Philip ei enau, a chan ddechrau o'r rhan hon o'r Ysgrythur traethodd y newydd da am Iesu iddo. 36 Fel yr oeddent yn mynd rhagddynt ar eu ffordd, daethant at ryw ddu373?r, ac ebe'r eunuch, "Dyma ddu373?r; beth sy'n rhwystro imi gael fy medyddio?" 37 [{cf15i Dywedodd Philip, "Os wyt yn credu �'th holl galon, fe elli." Atebodd yntau, "Yr wyf yn credu mai Mab Duw yw Iesu Grist."}] 38 A gorchmynnodd i'r cerbyd sefyll, ac aethant i lawr ill dau i'r du373?r, Philip a'r eunuch, ac fe'i bedyddiodd ef. 39 Pan ddaethant i fyny o'r du373?r, cipiwyd Philip ymaith gan Ysbryd yr Arglwydd; ni welodd yr eunuch mohono mwyach, ac aeth ymlaen ar ei ffordd yn llawen. 40 Cafodd Philip ei hun yn Asotus, ac aeth o gwmpas dan gyhoeddi'r newydd da yn yr holl ddinasoedd nes iddo ddod i Gesarea.