Welsh

Daniel

5

1 Gwnaeth y Brenin Belsassar wledd fawr i fil o'i dywysogion, ac yfodd win gyda hwy. 2 Wedi cael blas y gwin, gorchmynnodd Belsassar ddwyn y llestri aur ac arian a ladrataodd ei dad Nebuchadnesar o'r deml yn Jerwsalem, er mwyn i'r brenin a'i dywysogion a'i wragedd a'i ordderchwragedd yfed ohonynt. 3 Felly dygwyd y llestri aur a ladratawyd o'r deml yn Jerwsalem, ac yfodd y brenin a'i dywysogion a'i wragedd a'i ordderchwragedd ohonynt. 4 Wrth yfed y gwin, yr oeddent yn moliannu duwiau o aur ac arian, o bres a haearn, o bren a charreg. 5 Yn sydyn, ymddangosodd bysedd llaw ddynol yn ysgrifennu ar blastr y pared gyferbyn �'r canhwyllbren yn llys y brenin, a gwelai'r brenin y llaw ddynol yn ysgrifennu. 6 Yna gwelwodd y brenin mewn dychryn, ac aeth ei gymalau'n llipa a'i liniau'n grynedig. 7 Galwodd y brenin am y swynwyr a'r Caldeaid a'r s�r-ddewiniaid, ac meddai wrth ddoethion Babilon, "Os medr unrhyw un ddarllen yr ysgrifen hon a'i dehongli i mi, caiff hwnnw wisg borffor, a chadwyn aur am ei wddf, a llywodraethu'n drydydd yn y deyrnas." 8 Yna daeth doethion y brenin ato, ond ni fedrent ddarllen yr ysgrifen na'i dehongli i'r brenin. 9 Felly cynhyrfodd y Brenin Belsassar yn enbyd, a gwelwi, ac yr oedd ei dywysogion yn yr un dryswch. 10 Wrth glywed su373?n y brenin a'i dywysogion, daeth y frenhines i'r ystafell fwyta a dweud, "O frenin, bydd fyw byth! Paid ag edrych mor gynhyrfus a gwelw. 11 Y mae gu373?r yn dy deyrnas sy'n llawn o ysbryd y duwiau sanctaidd, ac yn amser dy dad dangosodd oleuni a deall, a doethineb fel doethineb y duwiau; a gwnaed ef gan dy dad, y Brenin Nebuchadnesar, yn ben ar y dewiniaid a'r swynwyr a'r Caldeaid a'r s�r-ddewiniaid. 12 Gan fod yn Daniel, a alwodd y brenin yn Beltesassar, ysbryd ardderchog, a deall a dirnadaeth, a'r gallu i ddehongli breuddwydion ac esbonio dirgelion a datrys problemau, anfon yn awr am Daniel; gall ef roi dehongliad." 13 Yna daethpwyd � Daniel at y brenin, a gofynnodd y brenin iddo, "Ai ti yw Daniel, un o'r caethgludion a ddug fy nhad, y brenin, o Jwda? 14 Rwy'n clywed fod ysbryd y duwiau ynot a'th fod yn llawn o oleuni a deall a doethineb ragorol. 15 Er i'r doethion a'r swynwyr ddod yma i ddarllen yr ysgrifen hon a'i dehongli i mi, nid ydynt yn medru rhoi dehongliad ohoni. 16 Ond rwy'n clywed dy fod ti'n gallu rhoi deongliadau a datrys problemau. Yn awr os medri ddarllen yr ysgrifen a'i dehongli i mi, cei wisg borffor, a chadwyn aur am dy wddf, a llywodraethu'n drydydd yn y deyrnas." 17 Yna atebodd Daniel y brenin, "Cei gadw d'anrhegion, a rhoi dy wobrwyon i eraill, ond fe ddarllenaf yr ysgrifen a'i dehongli i'r brenin. 18 Rhoes y Duw Goruchaf frenhiniaeth a mawredd a gogoniant ac urddas i'th dad Nebuchadnesar. 19 Ac oherwydd y mawredd a roed iddo, yr oedd yr holl bobloedd, cenhedloedd ac ieithoedd yn crynu mewn ofn o'i flaen. Gallai ladd neu gadw'n fyw, dyrchafu neu ddarostwng y neb a fynnai. 20 Ond pan ymffrostiodd a mynd yn falch, fe'i diorseddwyd a chymerwyd ei ogoniant oddi arno. 21 Gyrrwyd ef o u373?ydd pobl, rhoddwyd iddo galon anifail, ac yr oedd ei gartref gyda'r asynnod gwylltion. Yr oedd yn bwyta gwellt fel ych, ac yr oedd ei gorff yn wlyb gan wlith y nefoedd, nes iddo wybod mai'r Duw Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn. 22 Ond amdanat ti, ei fab Belsassar, er iti wybod hyn oll, ni ddarostyngaist dy hun. 23 Yr wyt wedi herio Arglwydd y Nefoedd trwy ddod � llestri ei du375? ef o'th flaen, a thithau a'th dywysogion a'th wragedd a'th ordderchwragedd yn yfed gwin ohonynt. Yr wyt wedi moliannu duwiau o arian ac aur, o bres a haearn, o bren a charreg, nad ydynt yn clywed dim, nac yn gweld nac yn gwybod; ac nid wyt wedi mawrhau'r Duw y mae d'einioes a'th ffyrdd yn ei law. 24 Dyna pam yr anfonwyd y llaw i ysgrifennu'r geiriau hyn. 25 Fel hyn y mae'r ysgrifen yn darllen: 'Mene, Mene, Tecel, Wparsin.' 26 A dyma'r dehongliad. 'Mene': rhifodd Duw flynyddoedd dy deyrnasiad, a daeth ag ef i ben. 27 'Tecel': pwyswyd di yn y glorian, a'th gael yn brin. 28 'Peres': rhannwyd dy deyrnas, a'i rhoi i'r Mediaid a'r Persiaid." 29 Yna, ar orchymyn Belsassar, cafodd Daniel wisg borffor, a chadwyn o aur am ei wddf, a'i benodi yn drydydd llywodraethwr yn y deyrnas. 30 A'r noson honno lladdwyd Belsassar, brenin y Caldeaid. 31 A derbyniodd Dareius y Mediad y deyrnas, yn u373?r dwy a thrigain oed.