1 Os cyfyd yn eich plith broffwyd neu un yn cael breuddwydion, a rhoi ichwi arwydd neu argoel, 2 a hynny'n digwydd fel y dywedodd wrthych, ac yntau wedyn yn eich annog i fynd ac addoli duwiau estron nad ydych yn eu hadnabod, 3 nid ydych i wrando ar eiriau'r proffwyd neu'r breuddwydiwr hwnnw, oherwydd eich profi chwi y mae'r ARGLWYDD eich Duw i gael gwybod a ydych yn ei garu �'ch holl galon ac �'ch holl enaid. 4 Yr ydych i ddilyn yr ARGLWYDD eich Duw a'i ofni, gan gadw ei orchmynion a gwrando ar ei lais, a'i wasanaethu ef a glynu wrtho. 5 Rhaid rhoi'r proffwyd neu'r breu-ddwydiwr hwnnw i farwolaeth am iddo geisio'ch troi oddi ar y llwybr y gorchmynnodd yr ARGLWYDD eich Duw ichwi ei ddilyn, trwy lefaru gwrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw, a ddaeth � chwi allan o wlad yr Aifft a'ch gwaredu o du375? caethiwed. Rhaid ichwi ddileu'r drwg o'ch mysg. 6 Os bydd dy frawd agosaf, neu dy fab, neu dy ferch, neu wraig dy fynwes, neu dy gyfaill mynwesol, yn ceisio dy ddenu'n llechwraidd a'th annog i fynd ac addoli duwiau estron nad wyt ti na'th hynafiaid wedi eu hadnabod, 7 o blith duwiau'r cenhedloedd o'th amgylch, mewn un cwr o'r wlad neu'r llall, yn agos neu ymhell, 8 paid � chydsynio ag ef, na gwrando arno. Paid � thosturio wrtho, na'i arbed, na'i gelu. 9 Yn hytrach rhaid iti ei ladd; dy law di fydd y gyntaf i'w ddienyddio, a dwylo pawb o'r bobl wedyn. 10 Llabyddia ef yn gelain � cherrig, oherwydd fe geisiodd dy droi oddi wrth yr ARGLWYDD dy Dduw, a ddaeth � thi allan o wlad yr Aifft, o du375? caethiwed; 11 yna bydd Israel gyfan yn clywed ac yn ofni, ac ni fyddant yn gwneud y fath ddrygioni � hwn yn eich plith byth eto. 12 Pan glywch am un o'r trefi, a gewch gan yr ARGLWYDD eich Duw i fyw ynddynt, 13 fod dihirod o'ch plith wedi codi a gyrru trigolion y ddinas ar gyfeiliorn trwy eu hannog i fynd ac addoli duwiau estron nad ydych wedi eu hadnabod, 14 yna yr ydych i ymofyn a chwilio a holi'n fanwl; os yw'n wir ac yn sicr fod y peth ffiaidd hwn wedi ei wneud yn eich mysg, 15 yr ydych i daro trigolion y dref honno �'r cleddyf. Difrodwch hi'n llwyr �'r cleddyf, gyda phopeth sydd ynddi, gan gynnwys y gwartheg. 16 Casglwch y cwbl o'i hysbail i ganol maes y dref, a llosgwch y dref a'i hysbail � th�n, yn aberth llwyr i'r ARGLWYDD eich Duw, a bydd yn aros yn garnedd am byth heb ei hailadeiladu. 17 Paid � dal dy afael mewn dim sydd i'w ddifrodi, er mwyn i'r ARGLWYDD droi oddi wrth angerdd ei ddig a dangos trugaredd tuag atat; yna, wrth drugarhau, bydd yn eich lluosogi fel y tyngodd wrth eich hynafiaid, 18 os byddwch chwi'n gwrando ar lais yr ARGLWYDD eich Duw trwy gadw'r holl orchmynion a roddais ichwi heddiw, a gwneud yr hyn sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw.