1 Pan fyddi'n mynd allan i ryfel yn erbyn dy elynion, ac yn canfod meirch a cherbydau a byddin, a'r rheini'n gryfach na'th rai di, paid �'u hofni, oherwydd gyda thi y mae yr ARGLWYDD dy Dduw, a ddaeth � thi i fyny o wlad yr Aifft. 2 Wrth iti ddynesu i'r frwydr, y mae'r offeiriaid i ddod ymlaen ac annerch y fyddin, 3 a dweud wrthynt, "Gwrandewch, Israel, yr ydych ar fin ymladd brwydr yn erbyn eich gelynion; peidiwch � gwangalonni nac ofni, na dychryn nac arswydo rhagddynt, 4 oherwydd y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd gyda chwi, i frwydro trosoch yn erbyn eich gelynion, ac i'ch gwaredu." 5 Yna bydd y swyddogion yn annerch ac yn dweud wrth y fyddin, "Pwy bynnag sydd wedi adeiladu tu375? newydd ond heb ei gysegru, aed yn ei �l adref, rhag iddo farw yn y frwydr ac i rywun arall ei gysegru. 6 A phwy bynnag sydd wedi plannu gwinllan ond heb fwynhau ei ffrwyth, aed yn ei �l adref, rhag iddo farw yn y frwydr ac i rywun arall ei fwynhau. 7 A phwy bynnag sydd wedi dywedd�o � merch ond heb ei phriodi, aed yn ei �l adref, rhag iddo farw yn y frwydr ac i rywun arall ei phriodi." 8 Wedyn y mae'r swyddogion i ddweud ymhellach wrth y fyddin, "Pwy bynnag sy'n ofnus ac yn wangalon, aed yn ei �l adref, rhag iddo wanhau calonnau ei frodyr yr un modd." 9 Wedi i'r swyddogion orffen annerch y fyddin, byddant yn gosod capteiniaid dros luoedd y fyddin. 10 Pan fyddi ar fin brwydro yn erbyn tref, cynnig delerau heddwch iddi. 11 Os derbyniant y telerau heddwch ac agor y pyrth iti, yna bydd pawb a geir ynddi yn gweithio iti dan lafur gorfod. 12 Os na dderbyniant delerau heddwch, ond dechrau rhyfela yn dy erbyn, yna gwarchae ar y dref; 13 a phan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi ei rhoi yn dy law, lladd bob gwryw ynddi �'r cleddyf. 14 Ond cymer yn anrhaith y gwragedd, y plant, yr anifeiliaid a phopeth arall o ysbail sydd yn y dref; defnyddia i ti dy hun yr ysbail oddi wrth d'elynion y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi ei rhoi iti. 15 Dyna sut y gwnei i'r holl drefi sydd ymhellach oddi wrthyt na rhai'r cenhedloedd gerllaw. 16 Nid wyt i arbed unrhyw greadur byw yn ninasoedd y bobloedd hynny y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu rhoi iti'n etifeddiaeth. 17 Yr wyt i lwyr ddifodi'r Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy Dduw, 18 rhag iddynt dy ddysgu i wneud yr holl ffieidd-dra a wn�nt hwy er mwyn eu duwiau, ac i ti bechu yn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw. 19 Pan fydd tref dan warchae gennyt am amser maith, a thithau'n ymladd i'w hennill, paid � difa ei choed trwy eu torri � bwyell. Cei fwyta o'u ffrwyth, ond paid �'u torri i lawr. Ai pobl yw coed y maes, iti osod gwarchae yn eu herbyn? 20 Dim ond coeden y gwyddost nad yw'n dwyn ffrwyth y cei ei difa a'i thorri, er mwyn iti godi gwrthglawdd rhyngot a'r ddinas sy'n rhyfela yn dy erbyn, nes y bydd honno wedi ei gorchfygu.