Welsh

Deuteronomy

32

1 Gwrandewch, chwi nefoedd, a llefaraf; clyw, di ddaear, eiriau fy ngenau. 2 Bydd fy nysgeidiaeth yn disgyn fel glaw, a'm hymadrodd yn diferu fel gwlith, fel glaw m�n ar borfa, megis cawodydd ar laswellt. 3 Pan gyhoeddaf enw yr ARGLWYDD, cyffeswch fawredd ein Duw. 4 Ef yw'r Graig; perffaith yw ei waith, a chyfiawn yw ei ffyrdd bob un. Duw ffyddlon heb dwyll yw; un cyfiawn ac uniawn yw ef. 5 Y genhedlaeth wyrgam a throfaus, sy'n ymddwyn mor llygredig tuag ato, nid ei blant ef ydynt o gwbl! 6 Ai dyma eich t�l i'r ARGLWYDD, O bobl ynfyd ac angall? Onid ef yw dy dad, a'th luniodd, yr un a'th wnaeth ac a'th sefydlodd? 7 Cofia'r dyddiau gynt, ystyria flynyddoedd y cenedlaethau a fu; gofyn i'th dad, ac fe fynega ef iti; neu i'th hynafgwyr, ac fe ddywedant hwy wrthyt. 8 Pan roddodd y Goruchaf eu hetifeddiaeth i'r cenhedloedd, a gwasgaru'r ddynoliaeth ar led, fe bennodd derfynau'r bobloedd yn �l rhifedi plant Duw. 9 Ei bobl ei hun oedd rhan yr ARGLWYDD, Jacob oedd ei etifeddiaeth ef. 10 Fe'i cafodd ef mewn gwlad anial, mewn gwagle erchyll, diffaith; amgylchodd ef a'i feithrin, amddiffynnodd ef fel cannwyll ei lygad. 11 Fel eryr yn cyffroi ei nyth ac yn hofran uwch ei gywion, lledai ei adenydd a'u cymryd ato, a'u cludo ar ei esgyll. 12 Yr ARGLWYDD ei hunan fu'n ei arwain, heb un duw estron gydag ef. 13 Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelderau'r ddaear, a bwyta cnwd y maes; parodd iddo sugno m�l o'r clogwyn, ac olew o'r graig gallestr. 14 Cafodd ymenyn o'r fuches, llaeth y ddafad a braster u373?yn, hyrddod o frid Basan, a bychod, braster gronynnau gwenith hefyd, a gwin o sudd grawnwin i'w yfed. 15 Bwytaodd Jacob, a'i ddigoni; pesgodd Jesurun, a chiciodd; pesgodd, a thewychu'n wancus. Gwrthododd y Duw a'i creodd, a diystyru Craig ei iachawdwriaeth. 16 Gwnaethant ef yn eiddigeddus � duwiau dieithr, a'i ddigio ag arferion ffiaidd. 17 Yr oeddent yn aberthu i ddemoniaid nad oeddent dduwiau, ac i dduwiau nad oeddent yn eu hadnabod, duwiau newydd yn dod oddi wrth eu cymdogion, nad oedd eu hynafiaid wedi eu parchu. 18 Anghofiaist y Graig a'th genhedlodd, a gollwng dros gof y Duw a ddaeth � thi i'r byd. 19 Pan welodd yr ARGLWYDD hyn, fe'u ffieiddiodd hwy, oherwydd i'w feibion a'i ferched ei gythruddo. 20 Dywedodd, "Cuddiaf fy wyneb rhagddynt, edrychaf beth fydd eu diwedd; oherwydd cenhedlaeth wrthryfelgar ydynt, plant heb ffyddlondeb ynddynt. 21 Gwnaethant fi'n eiddigeddus wrth un nad yw'n dduw, a'm digio �'u heilunod; gwnaf finnau hwy'n eiddigeddus wrth bobl nad yw'n bobl, a'u digio � chenedl ynfyd. 22 "Yn ddiau, cyneuwyd t�n gan fy nig, ac fe lysg hyd waelod Sheol; bydd yn ysu'r tir a'i gynnyrch, ac yn ffaglu seiliau'r mynyddoedd. 23 Pentyrraf ddrygau arnynt, saethaf atynt bob saeth sydd gennyf: 24 nychdod newyn, anrheithiau twymyn, a dinistr chwerw. Anfonaf ddannedd bwystfilod yn eu herbyn a gwenwyn ymlusgiaid y llwch. 25 Oddi allan bydd y cleddyf yn creu amddifaid, ac yn y cartref bydd arswyd; trewir y gwu375?r ifainc a'r gwyryfon fel ei gilydd, y baban sugno yn ogystal �'r hynafgwr. 26 "Fy mwriad oedd eu gwasgaru, a pheri i bob coffa amdanynt ddarfod, 27 oni bai imi ofni y byddai'r gelyn yn eu gwawdio, a'u gwrthwynebwyr yn camddeall a dweud, 'Ein llaw ni sydd wedi trechu; nid yr ARGLWYDD a wnaeth hyn oll.'" 28 Cenedl brin o gyngor ydynt, heb ddealltwriaeth ganddynt; 29 gresyn na fyddent yn ddigon doeth i sylweddoli hyn ac i amgyffred beth fydd eu diwedd! 30 Sut y gall un ymlid mil, neu ddau yrru myrdd ar ffo, oni bai fod eu Craig wedi eu gwerthu, a'r ARGLWYDD wedi eu caethiwo? 31 Oherwydd nid yw eu craig hwy yn debyg i'n Craig ni, fel y mae ein gelynion yn cydnabod. 32 Daw eu gwinwydd o Sodom ac o feysydd Gomorra; grawnwin gwenwynig sydd arnynt, yn sypiau chwerw. 33 Gwenwyn seirff yw eu gwin, poeryn angheuol asbiaid. 34 Onid yw hyn gennyf wrth gefn, wedi ei selio yn fy st�r, 35 mai i mi y perthyn dial a thalu'r pwyth, pan fydd eu troed yn llithro? Yn wir, y mae dydd eu trychineb yn agos, a'u distryw yn brysio atynt. 36 Rhydd yr ARGLWYDD gyfiawnder i'w bobl a bydd yn trugarhau wrth ei weision, pan w�l fod eu nerth wedi darfod, ac nad oes ar �l na chaeth na rhydd. 37 Yna fe ddywed, "Ble mae eu duwiau, y graig y buont yn ceisio lloches dani, 38 y duwiau oedd yn bwyta braster eu hebyrth ac yn yfed gwin eu diodoffrwm? Bydded iddynt hwy godi a'ch helpu, a bod yn lloches ichwi! 39 Gwelwch yn awr mai myfi, myfi yw Ef, ac nad oes Duw ond myfi. Myfi sy'n lladd, a gwneud yn fyw, myfi sy'n archolli, ac yn iach�u; ni all neb achub o'm gafael i. 40 "Codaf fy llaw tua'r nef, a dweud: Cyn sicred �'m bod yn byw'n dragywydd, 41 os hogaf fy nghleddyf disglair, a chydio ynddo �'m llaw mewn barn, byddaf yn dial ar fy ngwrthwynebwyr ac yn talu'r pwyth i'r rhai sy'n fy nghas�u. 42 Gwnaf fy saethau yn feddw � gwaed, a bydd fy nghleddyf yn bwyta cnawd, sef gwaed y clwyfedig a'r carcharorion, a phennau arweinwyr y gelyn." 43 Bloeddiwch fawl ei bobl, O genhedloedd, oherwydd y mae'n dial gwaed ei weision! Daw � dial ar ei wrthwynebwyr, ac arbed ei dir a'i bobl ei hun. 44 Wedi i Moses ddod gyda Josua fab Nun, llefarodd holl eiriau'r gerdd hon yng nghlyw'r bobl. 45 Pan orffennodd Moses lefaru'r holl eiriau hyn wrth Israel gyfan, 46 meddai wrthynt, "Ystyriwch yn eich calon yr holl eiriau yr wyf yn eu hargymell ichwi heddiw, er mwyn ichwi eu gorchymyn i'ch plant, ac iddynt hwythau ofalu cadw holl eiriau'r gyfraith hon. 47 Oherwydd nid gair dibwys yw hwn i chwi, ond dyma eich bywyd; trwy'r gair hwn yr estynnwch eich dyddiau yn y wlad yr ydych ar fynd dros yr Iorddonen i'w meddiannu." 48 Yn ystod yr un diwrnod llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dweud, 49 "Dos i fyny yma i fynydd-dir Abarim, i Fynydd Nebo yng ngwlad Moab, gyferbyn � Jericho; ac yna edrych ar wlad Canaan, y wlad yr wyf yn ei rhoi i'r Israeliaid yn etifeddiaeth. 50 Yno, ar y mynydd y byddi'n ei ddringo, y byddi farw, ac y cesglir di at dy bobl, fel y bu i'th frawd Aaron farw ym Mynydd Hor, a'i gasglu at ei bobl, 51 am ichwi fod yn anffyddlon imi yng nghanol yr Israeliaid wrth ddyfroedd Meriba-cades yn anialwch Sin, trwy beidio � mynegi fy sancteiddrwydd ymysg yr Israeliaid. 52 Fe gei weld y wlad yn y pellter, ond ni chei ddod drosodd i'r wlad yr wyf yn ei rhoi i'r Israeliaid."