Welsh

Ecclesiastes

10

1 Fel y mae pryfed meirw yn gwneud i ennaint y peraroglydd ddrewi, felly y mae ychydig ffolineb yn tynnu oddi wrth ddoethineb ac anrhydedd. 2 Y mae calon y doeth yn ei arwain i'r dde, ond calon y ff�l yn ei droi i'r chwith. 3 Pan yw'r ff�l yn cerdded ar y ffordd, nid oes synnwyr ganddo, ac y mae'n dweud wrth bawb ei fod yn ynfyd. 4 Os enynnir llid y llywodraethwr yn dy erbyn, paid ag ymddiswyddo; y mae pwyll yn tymheru troseddau mawr. 5 Gwelais beth drwg dan yr haul, sef camgymeriad yn deillio oddi wrth y llywodraethwr: 6 ffu373?l wedi ei osod mewn safleoedd pwysig, a'r cyfoethog wedi eu gosod yn israddol. 7 Gwelais weision ar geffylau, a thywysogion yn cerdded fel gweision. 8 Y mae'r un sy'n cloddio pwll yn syrthio iddo, a'r sawl sy'n chwalu clawdd yn cael ei frathu gan neidr. 9 Y mae'r un sy'n symud cerrig yn cael niwed ganddynt, a'r sawl sy'n hollti coed yn cael dolur ganddynt. 10 Os yw bwyell yn ddi-fin, a heb ei hogi, yna rhaid defnyddio mwy o nerth; ond y mae medr yn dod � llwyddiant. 11 Os na swynir neidr cyn iddi frathu, nid oes mantais o gael swynwr. 12 Y mae geiriau'r doeth yn ennill ffafr, ond geiriau'r ff�l yn ei ddinistrio. 13 Y mae ei eiriau'n dechrau yn ff�l, ac yn diweddu mewn ynfydrwydd llwyr, 14 a'r ffu373?l yn amlhau geiriau. Nid oes neb yn gwybod beth a ddaw, a phwy a all ddweud wrth neb beth fydd ar ei �l? 15 Y mae llafur y ff�l yn ei wneud yn lluddedig, ac ni u373?yr sut i fynd i'r ddinas. 16 Gwae di, wlad, pan fydd gwas yn frenin arnat, a'th dywysogion yn gwledda yn y bore! 17 Gwyn dy fyd, wlad, pan fydd dy frenin yn fab pendefig, a'th dywysogion yn gwledda ar yr amser priodol, a hynny i gryfhau ac nid i feddwi! 18 Y mae'r trawstiau'n dadfeilio o ganlyniad i ddiogi, a'r tu375?'n gollwng o achos llaesu dwylo. 19 I gael llawenydd y paratoir gwledd, ac y mae gwin yn llonni bywyd, ac arian yn ateb i bopeth. 20 Paid � melltithio'r brenin yn dy feddwl, na'r cyfoethog yn dy ystafell wely, oherwydd gall adar yr awyr gario dy lais, a pherchen adain fynegi'r hyn a ddywedi.