1 Oherwydd hyn, yr wyf fi, Paul, carcharor Crist Iesu er eich mwyn chwi'r Cenhedloedd, yn offrymu fy ngweddi. 2 Y mae'n rhaid eich bod wedi clywed am gynllun gras Duw, y gras sydd wedi ei roi i mi er eich lles chwi: 3 sef i'r dirgelwch gael ei hysbysu i mi trwy ddatguddiad. Yr wyf eisoes wedi ysgrifennu'n fyr am hyn, 4 ac o'i ddarllen gallwch ddeall fy nirnadaeth o ddirgelwch Crist. 5 Yn y cenedlaethau gynt, ni chafodd y dirgelwch hwn mo'i hysbysu i blant dynion, fel y mae yn awr wedi ei ddatguddio gan Ysbryd Duw i'w apostolion sanctaidd a'i broffwydi. 6 Dyma'r dirgelwch: bod y Cenhedloedd, ynghyd �'r Iddewon, yn gydetifeddion, yn gydaelodau o'r corff, ac yn gydgyfranogion o'r addewid yng Nghrist Iesu trwy'r Efengyl. 7 Dyma'r Efengyl y deuthum i yn weinidog iddi yn �l rhodd gras Duw, a roddwyd i mi trwy weithrediad ei allu ef. 8 I mi, y llai na'r lleiaf o'r holl saint, y rhoddwyd y rhodd raslon hon, i bregethu i'r Cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist, 9 ac i ddwyn i'r golau gynllun y dirgelwch a fu'n guddiedig ers oesoedd yn Nuw, Creawdwr pob peth, 10 er mwyn i ysblander amryfal ddoethineb Duw gael ei hysbysu yn awr, trwy'r eglwys, i'r tywysogaethau a'r awdurdodau yn y nefolion leoedd. 11 Y mae hyn yn unol �'r arfaeth dragwyddol a gyflawnodd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. 12 Ynddo ef, a thrwy ffydd ynddo, yr ydym yn cael dod at Dduw yn eofn a hyderus. 13 Yr wyf yn erfyn, felly, ar ichwi beidio � digalonni o achos fy nioddefiadau drosoch; hwy, yn wir, yw eich gogoniant chwi. 14 Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau gerbron y Tad, 15 yr hwn y mae pob teulu yn y nefoedd ac ar y ddaear yn cymryd ei enw oddi wrtho, 16 ac yn gwedd�o ar iddo ganiat�u i chwi, yn �l cyfoeth ei ogoniant, gryfder a nerth mewnol trwy'r Ysbryd, 17 ac ar i Grist breswylio yn eich calonnau drwy ffydd. 18 Boed i chwi, sydd � chariad yn wreiddyn a sylfaen eich bywyd, gael eich galluogi i amgyffred ynghyd �'r holl saint beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist, 19 a gwybod am y cariad hwnnw, er ei fod uwchlaw gwybodaeth. Felly dygir chwi i gyflawnder, hyd at holl gyflawnder Duw. 20 Iddo ef, sydd �'r gallu ganddo i wneud yn anhraethol well na dim y gallwn ni ei ddeisyfu na'i ddychmygu, trwy'r gallu sydd ar waith ynom ni, 21 iddo ef y bo'r gogoniant yn yr eglwys ac yng Nghrist Iesu, o genhedlaeth i genhedlaeth, byth bythoedd! Amen.