Welsh

Exodus

13

1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2 "Cysegra i mi bob cyntafanedig; eiddof fi yw'r cyntaf a ddaw o'r groth ymysg yr Israeliaid, yn ddyn ac anifail." 3 Yna dywedodd Moses wrth y bobl, "Cofiwch y dydd hwn, sef y dydd y daethoch allan o'r Aifft, o du375? caethiwed, oherwydd � llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD � chwi oddi yno; hefyd, peidiwch � bwyta bara lefeinllyd. 4 Ar y dydd hwn ym mis Abib yr ewch allan. 5 Pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod � thi i wlad y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Hefiaid a Jebusiaid, sef y wlad yr addawodd i'th hynafiaid y byddai'n ei rhoi i ti, gwlad yn llifeirio o laeth a m�l, yr wyt i gadw'r ddefod hon yn ystod y mis hwn. 6 Am saith diwrnod byddi'n bwyta bara croyw, ac ar y seithfed dydd bydd gu373?yl i'r ARGLWYDD. 7 Bara croyw a fwyteir am saith diwrnod, ac ni fydd bara lefeinllyd na surdoes i'w weld yn unman o fewn dy dir. 8 Ar y dydd hwnnw, fe ddywedir wrth dy blentyn, 'Gwneir hyn oherwydd y peth a wnaeth yr ARGLWYDD i mi pan ddeuthum allan o'r Aifft.' 9 Bydd hyn i ti yn arwydd ar dy law a rhwng dy lygaid, i'th atgoffa y dylai cyfraith yr ARGLWYDD fod yn dy enau; oherwydd � llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD � thi allan o'r Aifft. 10 Yr wyt i gadw'r ddeddf hon yn ei hamser penodedig o flwyddyn i flwyddyn. 11 "Pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod � thi i wlad y Canaaneaid a'i rhoi iti, fel y tyngodd i ti ac i'th hynafiaid, 12 yr wyt i neilltuo pob cyntafanedig iddo ef; bydd pob gwryw cyntafanedig o blith dy anifeiliaid yn eiddo i'r ARGLWYDD. 13 Ond yr wyt i roi oen yn gyfnewid am bob asyn cyntafanedig, ac os nad wyt am ei gyfnewid, yr wyt i dorri ei wddf. Yr wyt hefyd i gyfnewid pob cyntafanedig o blith dy feibion. 14 Yna pan fydd dy blentyn ymhen amser yn gofyn, 'Beth yw ystyr hyn?' dywed wrtho, '� llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD � ni o'r Aifft, o du375? caethiwed; 15 oherwydd pan wrthododd Pharo ein gollwng yn rhydd, lladdodd yr ARGLWYDD bob cyntafanedig, yn ddyn ac anifail, yng ngwlad yr Aifft. Dyna pam yr wyf yn aberthu i'r ARGLWYDD bob gwryw cyntafanedig, ond yn cyfnewid pob cyntafanedig o blith fy meibion.' 16 Bydd hyn yn arwydd ar dy law ac yn rhactalau rhwng dy lygaid; oherwydd � llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD � ni allan o'r Aifft." 17 Pan ollyngodd Pharo y bobl yn rhydd, nid arweiniodd Duw hwy ar hyd ffordd gwlad y Philistiaid, er bod honno'n agos. "Oherwydd," meddai, "gallai'r bobl newid eu meddwl pan welant ryfel, a dychwelyd i'r Aifft." 18 Felly arweiniodd hwy ar hyd ffordd yr anialwch i gyfeiriad y M�r Coch, ac aeth yr Israeliaid allan o wlad yr Aifft gan ddwyn eu harfau rhyfel. 19 Cymerodd Moses esgyrn Joseff gydag ef, oherwydd yr oedd Joseff wedi gosod yr Israeliaid dan lw, drwy ddweud, "Bydd Duw yn sicr o ymweld � chwi, a'r pryd hwnnw yr ydych i ddwyn fy esgyrn oddi yma gyda chwi." 20 Aethant ymaith o Succoth a gwersyllu yn Etham, ar gwr yr anialwch. 21 Yr oedd yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaen mewn colofn o niwl yn ystod y dydd i'w harwain ar y ffordd, ac mewn colofn o d�n yn ystod y nos i'w goleuo; felly gallent deithio ddydd a nos. 22 Ni symudwyd y golofn niwl oedd o flaen y bobl yn ystod y dydd na'r golofn d�n oedd o'u blaen yn ystod y nos.