Welsh

Exodus

15

1 Yna canodd Moses a'r Israeliaid y g�n hon i'r ARGLWYDD: "Canaf i'r ARGLWYDD am iddo weithredu'n fuddugoliaethus; bwriodd y ceffyl a'i farchog i'r m�r. 2 Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm c�n, ac ef yw'r un a'm hachubodd; ef yw fy Nuw, ac fe'i gogoneddaf, Duw fy nhad, ac fe'i dyrchafaf. 3 Y mae'r ARGLWYDD yn rhyfelwr; yr ARGLWYDD yw ei enw. 4 Taflodd gerbydau Pharo a'i fyddin i'r m�r, a boddwyd ei gapteiniaid dethol yn y M�r Coch. 5 Daeth llifogydd i'w gorchuddio, a disgynasant i'r dyfnderoedd fel carreg. 6 Y mae nerth dy ddeheulaw, O ARGLWYDD, yn ogoneddus; dy ddeheulaw, O ARGLWYDD, a ddryllia'r gelyn. 7 Trwy dy fawrhydi aruchel darostyngaist dy wrthwynebwyr; gollyngaist dy ddigofaint, ac fe'u difaodd hwy fel sofl. 8 Trwy chwythiad dy ffroenau casglwyd y dyfroedd ynghyd; safodd y ffrydiau yn bentwr, a cheulodd y dyfnderoedd yng nghanol y m�r. 9 Dywedodd y gelyn, 'Byddaf yn erlid ac yn goddiweddyd; rhannaf yr ysbail, a chaf fy nigoni ganddo; tynnaf fy nghleddyf, a'u dinistrio �'m llaw.' 10 Ond pan chwythaist ti �'th anadl, gorchuddiodd y m�r hwy, nes iddynt suddo fel plwm i'r dyfroedd mawrion. 11 Pwy ymhlith y duwiau sy'n debyg i ti, O ARGLWYDD? Pwy sydd fel tydi, yn ogoneddus ei sancteiddrwydd, yn teilyngu parch a mawl, ac yn gwneud rhyfeddodau? 12 Pan estynnaist dy ddeheulaw, llyncodd y ddaear hwy. 13 "Yn dy drugaredd, arweini'r bobl a waredaist, a thrwy dy nerth eu tywys i'th drigfan sanctaidd. 14 Fe glyw y bobloedd, a dychryn, a daw gwewyr ar drigolion Philistia. 15 Bydd penaethiaid Edom yn brawychu, ac arweinwyr Moab yn arswydo, a holl drigolion Canaan yn toddi. 16 Daw ofn a braw arnynt; oherwydd mawredd dy fraich byddant mor llonydd � charreg, nes i'th bobl di, O ARGLWYDD, fynd heibio, nes i'r bobl a brynaist ti fynd heibio. 17 Fe'u dygi i mewn a'u plannu ar y mynydd sy'n eiddo i ti, y man, O ARGLWYDD, a wnei yn drigfan i ti dy hun, y cysegr, O ARGLWYDD, a godi �'th ddwylo. 18 Bydd yr ARGLWYDD yn teyrnasu byth bythoedd." 19 Pan aeth meirch Pharo a'i gerbydau a'i farchogion i mewn i'r m�r, gwnaeth yr ARGLWYDD i ddyfroedd y m�r ddychwelyd drostynt; ond cerddodd yr Israeliaid trwy ganol y m�r ar dir sych. 20 Yna cymerodd Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, dympan yn ei llaw, ac aeth yr holl wragedd allan ar ei h�l a dawnsio gyda thympanau. 21 Canodd Miriam g�n iddynt: "Canwch i'r ARGLWYDD am iddo weithredu'n fuddugoliaethus; bwriodd y ceffyl a'i farchog i'r m�r." 22 Yna arweiniodd Moses yr Israeliaid oddi wrth y M�r Coch, ac aethant ymaith i anialwch Sur; buont yn teithio'r anialwch am dridiau heb gael du373?r. 23 Pan ddaethant i Mara, ni allent yfed y du373?r yno am ei fod yn chwerw; dyna pam y galwyd y lle yn Mara. 24 Dechreuodd y bobl rwgnach yn erbyn Moses, a gofyn, "Beth ydym i'w yfed?" 25 Galwodd yntau ar yr ARGLWYDD, a dangosodd yr ARGLWYDD iddo bren; pan daflodd Moses y pren i'r du373?r, trodd y du373?r yn felys. Yno y sefydlodd yr ARGLWYDD ddeddf a chyfraith, ac yno hefyd y profodd hwy, 26 a dweud, "Os gwrandewi'n astud ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, a gwneud yr hyn sy'n iawn yn ei olwg, gan wrando ar ei orchmynion a chadw ei holl ddeddfau, ni rof arnat yr un o'r clefydau a rois ar yr Eifftiaid; oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD, sy'n dy iach�u." 27 Yna daethant i Elim, lle'r oedd deuddeg ffynnon ddu373?r, a deg a thrigain o balmwydd; a buont yn gwersyllu yno wrth y du373?r.