Welsh

Exodus

17

1 Aeth holl gynulliad pobl Israel ymaith o anialwch Sin a symud o le i le fel yr oedd yr ARGLWYDD yn gorchymyn, a gwersyllu yn Reffidim; ond nid oedd yno ddu373?r i'w yfed. 2 Felly dechreuodd y bobl ymryson � Moses, a dweud, "Rho inni ddu373?r i'w yfed." Ond dywedodd Moses wrthynt, "Pam yr ydych yn ymryson � mi ac yn herio'r ARGLWYDD?" 3 Yr oedd y bobl yn sychedu yno am ddu373?r, a dechreuasant rwgnach yn erbyn Moses, a dweud, "Pam y daethost � ni i fyny o'r Aifft? Ai er mwyn ein lladd ni a'n plant a'n hanifeiliaid � syched?" 4 Felly galwodd Moses ar yr ARGLWYDD a dweud, "Beth a wnaf �'r bobl hyn? Y maent bron �'m llabyddio!" 5 Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Cerdda o flaen y bobl gyda rhai o henuriaid Israel, a chymer yn dy law y wialen y trewaist y Neil � hi, a dos ymlaen. 6 Pan weli fi'n sefyll o'th flaen ar graig yn Horeb, taro'r graig, a daw du373?r allan ohoni, a chaiff y bobl yfed." Gwnaeth Moses hyn ym mhresenoldeb henuriaid Israel. 7 Galwodd enw'r lle yn Massa a Meriba, oherwydd ymryson yr Israeliaid ac am iddynt herio'r ARGLWYDD trwy ofyn, "A yw'r ARGLWYDD yn ein plith, ai nac ydyw?" 8 Pan ddaeth Amalec i ymladd yn erbyn Israel yn Reffidim, 9 dywedodd Moses wrth Josua, "Dewis dy wu375?r, a dos ymaith i ymladd yn erbyn Amalec; yfory, fe gymeraf finnau fy lle ar ben y bryn, � gwialen Duw yn fy llaw." 10 Gwnaeth Josua fel yr oedd Moses wedi dweud wrtho, ac ymladdodd yn erbyn Amalec; yna aeth Moses, Aaron a Hur i fyny i ben y bryn. 11 Pan godai Moses ei law, byddai Israel yn trechu; a phan ostyngai ei law, byddai Amalec yn trechu. 12 Pan aeth ei ddwylo'n flinedig, cymerwyd carreg a'i gosod dano, ac eisteddodd Moses arni, gydag Aaron ar y naill ochr iddo a Hur ar y llall, yn cynnal ei ddwylo, fel eu bod yn gadarn hyd fachlud haul. 13 Felly, gorchfygodd Josua Amalec a'i bobl � min y cleddyf. 14 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Ysgrifenna hyn mewn llyfr yn goffadwriaeth, a mynega'r peth yng nghlyw Josua, sef fy mod am ddileu yn llwyr oddi tan y nefoedd bob atgof am Amalec." 15 Yna adeiladodd Moses allor a'i henwi'n Jehofa-nissi, 16 a dweud, "Llaw ar faner yr ARGLWYDD! Bydd rhyfel rhwng yr ARGLWYDD ac Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth."