Welsh

Exodus

24

1 Yna fe ddywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Tyrd i fyny at yr ARGLWYDD, ti ac Aaron, Nadab, Abihu, a deg a thrigain o henuriaid Israel, ac addolwch o bell. 2 Moses yn unig sydd i nes�u at yr ARGLWYDD; nid yw'r lleill i ddod yn agos, ac nid yw'r bobl i fynd i fyny gydag ef." 3 Pan ddaeth Moses, a mynegi i'r bobl holl eiriau'r ARGLWYDD a'r holl ddeddfau, atebodd y bobl i gyd yn unfryd, "Fe wnawn y cyfan a ddywedodd yr ARGLWYDD." 4 Yna ysgrifennodd Moses holl eiriau'r ARGLWYDD. Cododd yn gynnar yn y bore, ac wrth droed y mynydd adeiladodd allor a deuddeg colofn yn cyfateb i ddeuddeg llwyth Israel. 5 Anfonodd lanciau o blith yr Israeliaid i offrymu poethoffrymau ac aberthu bustych yn heddoffrymau i'r ARGLWYDD. 6 Yna cymerodd Moses hanner y gwaed a'i roi mewn cawgiau, a thywallt yr hanner arall dros yr allor. 7 Cymerodd lyfr y cyfamod, ac ar �l iddo'i ddarllen yng nghlyw'r bobl, dywedasant, 8 "Fe wnawn y cyfan a ddywedodd yr ARGLWYDD, a byddwn yn ufudd iddo." Yna cymerodd Moses y gwaed a'i daenellu dros y bobl, a dweud, "Dyma waed y cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD � chwi yn unol �'r holl eiriau hyn." 9 Yna aeth Moses i fyny gydag Aaron, Nadab, Abihu a'r deg a thrigain o henuriaid Israel, 10 a gwelsant Dduw Israel; o dan ei draed yr oedd rhywbeth tebyg i balmant o faen saffir, yn ddisglair fel y nefoedd ei hun. 11 Ni osododd ei law ar benaethiaid pobl Israel; ond cawsant weld Duw a bwyta ac yfed. 12 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Tyrd i fyny ataf i'r mynydd, ac aros yno; yna fe roddaf iti lechau o garreg, gyda'r gyfraith a'r gorchymyn a ysgrifennais ar eu cyfer i'w hyfforddi." 13 Felly cododd Moses a'i was, Josua, ac aeth Moses i fyny i fynydd Duw. 14 Dywedodd wrth yr henuriaid, "Arhoswch yma amdanom nes inni ddod yn �l atoch; bydd Aaron a Hur gyda chwi, ac os bydd gan rywun gu373?yn, aed atynt hwy." 15 Aeth Moses i fyny i'r mynydd, a gorchuddiwyd y mynydd gan gwmwl. 16 Arhosodd gogoniant yr ARGLWYDD ar Fynydd Sinai, a gorchuddiodd y cwmwl y mynydd am chwe diwrnod; yna ar y seithfed dydd, galwodd Duw ar Moses o ganol y cwmwl. 17 Yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn ymddangos yng ngolwg pobl Israel fel t�n yn difa ar ben y mynydd. 18 Aeth Moses i ganol y cwmwl, a dringodd i fyny'r mynydd, a bu yno am ddeugain diwrnod a deugain nos.