Welsh

Exodus

26

1 "Gwna'r tabernacl o ddeg llen o liain main wedi ei nyddu ac o sidan glas, porffor ac ysgarlad, a cherwbiaid wedi eu gwn�o'n gywrain arnynt. 2 Bydd pob llen yn wyth cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint. 3 Bydd pump o'r llenni wedi eu cydio wrth ei gilydd, a'r pump arall hefyd wedi eu cydio wrth ei gilydd. 4 Gwna ddolennau glas ar hyd ymyl y llen sydd ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall. 5 Gwna hanner cant o ddolennau ar un llen, a hanner cant ar hyd ymyl y llen ar ben yr ail gydiad, gyda'r dolennau gyferbyn �'i gilydd. 6 Gwna hefyd hanner cant o fachau aur, a chydia'r llenni wrth ei gilydd �'r bachau er mwyn i'r tabernacl fod yn gyfanwaith. 7 "Gwna un ar ddeg o lenni o flew geifr i fod yn babell dros y tabernacl. 8 Bydd pob llen yn ddeg cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint. 9 Cydia hwy wrth ei gilydd yn bum llen ac yn chwe llen, a gwna'r chweched yn ddwbl dros wyneb y babell. 10 Gwna hanner cant o ddolennau ar hyd ymyl y llen ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall. 11 "Gwna hanner cant o fachau pres a'u rhoi yn y dolennau i ddal y babell wrth ei gilydd yn gyfanwaith. 12 Bydd yr hyn sydd dros ben o lenni'r babell, sef yr hanner llen, yn hongian y tu �l i'r tabernacl. 13 Ar y ddwy ochr bydd y cufydd o lenni'r babell sydd dros ben yn hongian dros y tabernacl i'w orchuddio. 14 Gwna do i'r babell o grwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch ac o grwyn morfuchod. 15 "Gwna hefyd ar gyfer y tabernacl fframiau syth o goed acasia, 16 pob un ohonynt yn ddeg cufydd o hyd a chufydd a hanner o led, 17 a dau denon ym mhob ffr�m i'w cysylltu �'i gilydd; gwna hyn i holl fframiau'r tabernacl. 18 Yr wyt i wneud y fframiau ar gyfer y tabernacl fel hyn: ugain ffr�m ar yr ochr ddeheuol, 19 a deugain troed arian oddi tanynt, dau i bob ffr�m ar gyfer ei dau denon; 20 ar yr ail ochr i'r tabernacl, sef yr ochr ogleddol, bydd ugain ffr�m 21 a deugain troed arian, dau dan bob ffr�m; 22 yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol, gwna chwe ffr�m, 23 a dwy arall ar gyfer conglau cefn y tabernacl, 24 wedi eu cysylltu yn y pen a'r gwaelod � bach; bydd y ddwy ffr�m yr un fath, ac yn ffurfio'r ddwy gongl. 25 Felly bydd wyth ffr�m ac un ar bymtheg o draed arian, dau droed dan bob ffr�m. 26 "Gwna hefyd farrau o goed acasia, pump ar gyfer fframiau'r naill ochr i'r tabernacl, 27 pump ar gyfer fframiau'r ochr arall, a phump ar gyfer y fframiau yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol. 28 Bydd y bar sydd ar ganol y fframiau yn ymestyn o un pen i'r llall. 29 Yr wyt i oreuro'r fframiau, a gwneud bachau aur i osod y barrau trwyddynt; yr wyt hefyd i oreuro'r barrau. 30 Yr wyt i adeiladu'r tabernacl yn �l y cynllun a ddangoswyd iti ar y mynydd. 31 "Gwna orchudd o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu, a cherwbiaid wedi eu gwn�o'n gywrain arno. 32 Gosod ef � bachau aur ar bedair colofn o goed acasia, wedi eu goreuro ac yn sefyll ar bedwar troed arian. 33 Rho'r gorchudd ar y bachau, a chludo arch y dystiolaeth oddi tano; bydd y gorchudd yn gwahanu rhwng y cysegr a'r cysegr sancteiddiaf. 34 Rho'r drugareddfa ar arch y dystiolaeth yn y cysegr sancteiddiaf. 35 Gosod y bwrdd y tu allan i'r gorchudd, ar ochr ogleddol y tabernacl, a'r canhwyllbren gyferbyn �'r bwrdd, ar yr ochr ddeheuol. 36 "Ar gyfer drws y babell gwna len o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu a'i frodio. 37 Ar gyfer y llen gwna bum colofn o goed acasia wedi eu goreuro, a bachau aur, a llunia o bres bum troed ar eu cyfer.