Welsh

Exodus

28

1 "Galw atat o blith pobl Israel dy frawd Aaron a'i feibion er mwyn iddynt fy ngwasanaethu fel offeiriaid: Aaron a'i feibion, Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar. 2 Gwna wisgoedd cysegredig ar gyfer dy frawd Aaron, er gogoniant a harddwch. 3 Dywed wrth bawb sy'n fedrus, pob un yr wyf wedi ei ddonio � gallu, am wneud dillad i Aaron er mwyn ei gysegru'n offeiriad i mi. 4 Dyma'r dillad y maent i'w gwneud: dwyfronneg, effod, mantell, siaced wau, penwisg a gwregys; y maent i wneud y gwisgoedd cysegredig i'th frawd Aaron ac i'w feibion, iddynt fy ngwasanaethu fel offeiriaid. 5 "Y maent i gymryd aur, a sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main, 6 a gwneud yr effod o'r aur, y sidan glas, porffor ac ysgarlad, a'r lliain main wedi ei nyddu a'i wn�o'n gywrain. 7 Bydd iddi ddwy ysgwydd wedi eu cydio ynghyd ar y ddwy ochr er mwyn ei chau. 8 Bydd y gwregys arni wedi ei wn�o'n gywrain, ac o'r un deunydd �'r effod, sef aur, a sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main wedi ei nyddu. 9 Cymer ddau faen onyx a naddu arnynt enwau meibion Israel 10 yn nhrefn eu geni, chwe enw ar un maen, a chwech ar y llall. 11 Yr wyt i naddu enwau meibion Israel ar y ddau faen fel y bydd gemydd yn naddu s�l, ac yna eu gosod mewn edafwaith o aur. 12 Rho'r ddau faen ar ysgwyddau'r effod, iddynt fod yn feini coffadwriaeth i feibion Israel, a bod Aaron yn dwyn eu henwau ar ei ysgwyddau yn goffadwriaeth gerbron yr ARGLWYDD. 13 Gwna edafwaith o aur, 14 a dwy gadwyn o aur pur wedi eu plethu ynghyd; gosod y cadwynau wedi eu plethu yn yr edafwaith. 15 "Gwna ddwyfronneg o grefftwaith cywrain ar gyfer barnu; gwna hi, fel yr effod, o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad ac o liain main wedi ei nyddu. 16 Bydd yn sgw�r ac yn ddwbl, rhychwant o hyd a rhychwant o led. 17 Gosod ynddi bedair rhes o feini: yn y rhes gyntaf, rhuddem, topas a charbwncl; 18 yn yr ail res, emrallt, saffir a diemwnt; 19 yn y drydedd res, lygur, agat ac amethyst; 20 yn y bedwaredd res, beryl, onyx a iasbis; byddant i gyd wedi eu gosod mewn edafwaith o aur. 21 Enwir y deuddeg maen ar �l meibion Israel, a bydd pob un fel s�l ac enw un o'r deuddeg llwyth wedi ei argraffu arno. 22 Ar gyfer y ddwyfronneg gwna gadwynau o aur pur wedi eu plethu ynghyd, 23 a hefyd ddau fach aur i'w rhoi ar ddwy ochr y ddwyfronneg. 24 Rho'r ddwy gadwyn aur ar y ddau fach ar ochrau'r ddwyfronneg, 25 a dau ben arall y ddwy gadwyn ar y ddau edafwaith, a'u cysylltu ag ysgwyddau'r effod o'r tu blaen. 26 Gwna hefyd ddau fach aur a'u gosod yn nau ben y ddwyfronneg ar yr ochr fewnol, nesaf at yr effod. 27 Yna, gwna ddau fach aur a'u gosod yn rhan isaf dwy ysgwydd yr effod ar y tu blaen, yn y cydiad uwchben y gwregys. 28 Y mae bachau'r ddwyfronneg i'w rhwymo wrth fachau'r effod � llinyn glas uwchben y gwregys, rhag i'r ddwyfronneg ymddatod oddi wrth yr effod. 29 Felly, pan fydd Aaron yn mynd i mewn i'r cysegr, bydd yn dwyn enwau meibion Israel ar ei galon yn y ddwyfronneg barn, yn goffadwriaeth wastadol gerbron yr ARGLWYDD. 30 Rho'r Wrim a'r Twmim yn y ddwyfronneg barn, iddynt fod ar galon Aaron pan fydd yn mynd gerbron yr ARGLWYDD; felly, bydd Aaron yn dwyn barnedigaeth pobl Israel ar ei galon gerbron yr ARGLWYDD yn wastadol. 31 "Gwna fantell yr effod i gyd o sidan glas, 32 a thwll yn ei chanol ar gyfer y pen, a gwn�ad o'i amgylch fel y twll a geir mewn llurig, rhag iddo rwygo. 33 O amgylch godre'r fantell gwna bomgranadau o sidan glas, porffor ac ysgarlad, a chlychau aur rhyngddynt; 34 bydd clychau aur a phomgranadau bob yn ail o amgylch godre'r fantell. 35 Bydd Aaron yn ei gwisgo wrth wasanaethu, ac fe glywir su373?n y clychau pan � Aaron i mewn i'r cysegr gerbron yr ARGLWYDD, a phan ddaw allan; felly ni bydd farw. 36 "Gwna hefyd bl�t o aur pur, ac argraffa arno, fel ar s�l, 'Sanctaidd i'r ARGLWYDD', 37 a chlyma ef ar flaen y benwisg � llinyn glas. 38 Bydd ar dalcen Aaron, ac yntau'n cymryd arno'i hun euogrwydd pobl Israel wrth iddynt gysegru eu rhoddion sanctaidd; bydd ar ei dalcen bob amser, er mwyn iddynt gael ffafr gerbron yr ARGLWYDD. 39 "Yr wyt i wau siaced o liain main, a gwneud penwisg hefyd o liain main, a gwregys wedi ei wn�o. 40 Gwna hefyd siacedau, gwregysau a chapiau i feibion Aaron; gwna hwy er gogoniant a harddwch. 41 Yr wyt i'w gwisgo am Aaron dy frawd a'i feibion, a'u heneinio, eu hordeinio a'u cysegru, er mwyn iddynt fy ngwasanaethu fel offeiriaid. 42 Gwna iddynt hefyd lodrau o liain i guddio'u cnawd noeth, o'u llwynau at y glun. 43 Bydd Aaron a'i feibion yn eu gwisgo wrth iddynt fynd i mewn i babell y cyfarfod ac wrth iddynt agos�u at yr allor i wasanaethu yn y cysegr, rhag iddynt fod yn euog a marw. Bydd hyn yn ddeddf i'w chadw am byth ganddo ef a'i ddisgynyddion.