Welsh

Exodus

8

1 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses: "Dos at Pharo a dywed wrtho, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gollwng fy mhobl yn rhydd er mwyn iddynt fy addoli; 2 os gwrthodi eu rhyddhau, byddaf yn taro dy holl dir � phla o lyffaint. 3 Bydd y Neil yn heigio o lyffaint, a byddant yn dringo i fyny i'th du375? ac i'th ystafell wely; byddant yn dringo ar dy wely ac i gartrefi dy weision a'th bobl, i'th boptai ac i'th gafnau tylino. 4 Bydd y llyffaint yn dringo drosot ti a thros dy bobl a'th weision i gyd.'" 5 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Dywed wrth Aaron, 'Estyn dy law a'th wialen dros y ffrydiau, yr afonydd a'r llynnoedd, a gwna i lyffaint ddringo i fyny dros dir yr Aifft.'" 6 Felly estynnodd Aaron ei law dros ddyfroedd yr Aifft, a dringodd y llyffaint i fyny nes gorchuddio'r tir. 7 Ond trwy eu gallu cyfrin yr oedd y swynwyr hefyd yn medru gwneud i lyffaint ddringo i fyny dros dir yr Aifft. 8 Yna galwodd Pharo am Moses ac Aaron, a dweud, "Gwedd�wch ar i'r ARGLWYDD gymryd y llyffaint ymaith oddi wrthyf fi a'm pobl, ac fe ryddhaf finnau eich pobl er mwyn iddynt aberthu i'r ARGLWYDD." 9 Dywedodd Moses wrth Pharo, "Gad imi wybod pryd yr wyf i wedd�o drosot ti a'th weision a'th bobl er mwyn symud y llyffaint oddi wrthyt ti ac o'th dai, a'u gadael yn y Neil yn unig." Meddai yntau, "Yfory." 10 Dywedodd Moses, "Fel y mynni di; cei wybod wedyn nad oes neb fel yr ARGLWYDD ein Duw ni. 11 Bydd y llyffaint yn ymadael � thi a'th dai, ac �'th weision a'th bobl, ac ni cheir hwy yn unman ond yn y Neil." 12 Yna aeth Moses ac Aaron allan oddi wrth Pharo, a galwodd Moses ar yr ARGLWYDD ynglu375?n �'r llyffaint a ddygodd ar Pharo. 13 Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn yr oedd Moses yn ei ddymuno, a bu farw'r llyffaint yn y tai a'r ffermydd a'r meysydd. 14 Yna casglwyd hwy ynghyd yn bentyrrau, nes bod y wlad yn drewi. 15 Pan welodd Pharo ei fod wedi cael ymwared ohonynt, caledodd ei galon a gwrthododd wrando ar Moses ac Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud. 16 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Dywed wrth Aaron, 'Estyn dy wialen a tharo llwch y ddaear, ac fe dry'n llau trwy holl wlad yr Aifft.'" 17 Gwnaethant hynny; estynnodd Aaron ei law allan, a tharo llwch y ddaear �'i wialen, a throes y llwch yn llau ar ddyn ac anifail; trodd holl lwch y ddaear yn llau trwy wlad yr Aifft i gyd. 18 Ceisiodd y swynwyr hefyd ddwyn llau allan trwy eu gallu cyfrin, ond nid oeddent yn medru. Yr oedd y llau ar ddyn ac anifail. 19 Dywedodd y swynwyr wrth Pharo, "Trwy fys Duw y digwyddodd hyn." Ond yr oedd calon Pharo wedi caledu, ac nid oedd am wrando ar Moses ac Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud. 20 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Cod yn gynnar yn y bore i gyfarfod � Pharo wrth iddo fynd tua'r afon, a dywed wrtho, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli; 21 oherwydd, os gwrthodi eu rhyddhau, byddaf yn anfon haid o bryfed arnat ti, dy weision, dy bobl a'th dai. Bydd tai'r Eifftiaid a'r tir danynt yn orlawn o bryfed. 22 Ond ar y dydd hwnnw byddaf yn neilltuo gwlad Gosen, lle mae fy mhobl yn byw, ac ni fydd haid o bryfed yno; felly, byddi'n gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, yma yn y wlad. 23 Gan hynny, byddaf yn gwahaniaethu rhwng fy mhobl i a'th bobl di. Bydd yr arwydd hwn yn ymddangos yfory.'" 24 Gwnaeth yr ARGLWYDD hynny; daeth haid enfawr o bryfed i du375? Pharo ac i dai ei weision, a difethwyd holl dir gwlad yr Aifft gan y pryfed. 25 Yna galwodd Pharo am Moses ac Aaron a dweud, "Ewch i aberthu i'ch Duw yma yn y wlad." 26 Ond dywedodd Moses, "Ni fyddai'n briodol inni wneud hynny, oherwydd byddwn yn aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw bethau sy'n ffiaidd i'r Eifftiaid; ac os aberthwn yn eu gu373?ydd bethau sy'n ffiaidd i'r Eifftiaid, oni fyddant yn ein llabyddio? 27 Rhaid inni fynd daith dridiau i'r anialwch i aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw, fel y mae ef yn gorchymyn inni." 28 Atebodd Pharo, "Fe adawaf i chwi fynd i aberthu i'r ARGLWYDD eich Duw yn yr anialwch, ond peidiwch � mynd yn rhy bell. Yn awr, gwedd�wch drosof." 29 Yna dywedodd Moses, "Fe af allan oddi wrthyt a gwedd�o ar yr ARGLWYDD i'r haid o bryfed symud yfory oddi wrth Pharo a'i weision a'i bobl; ond peidied Pharo � cheisio twyllo eto trwy wrthod rhyddhau'r bobl i aberthu i'r ARGLWYDD." 30 Felly aeth Moses ymaith o u373?ydd Pharo i wedd�o ar yr ARGLWYDD. 31 Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn yr oedd Moses yn ei ddymuno, a symudodd yr haid o bryfed oddi wrth Pharo ac oddi wrth ei weision a'i bobl; ni adawyd yr un ar �l. 32 Ond caledodd Pharo ei galon y tro hwn eto, ac ni ollyngodd y bobl yn rhydd.