1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 2 "Yn awr, fab dyn, a ferni di? A ferni di y ddinas waedlyd, a pheri iddi wybod ei holl ffieidd-dra? 3 Dywed wrthi, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: O ddinas, sy'n dwyn ei thynged arni ei hun trwy dywallt gwaed o'i mewn, ac yn ei halogi ei hun �'i heilunod, 4 yr wyt yn euog oherwydd y gwaed a dywelltaist, ac yn halogedig oherwydd yr eilunod a wnaethost. Daethost �'th ddyddiau i ben, a daeth diwedd ar dy flynyddoedd. Am hynny, gwnaf di'n warth i'r cenhedloedd ac yn gyff gwawd i'r holl wledydd. 5 Bydd y rhai agos a'r rhai pell yn dy wawdio di, yr un enwog am dy ddrygioni a'r un llawn cythrwfl. 6 Ynot ti y mae holl dywysogion Israel yn defnyddio'u nerth i dywallt gwaed. 7 O'th fewn di y maent yn dirmygu tad a mam, yn gorthrymu'r dieithr sydd ynot, ac yn cam-drin yr amddifad a'r weddw. 8 Yr wyt wedi diystyru fy mhethau sanctaidd ac wedi halogi fy Sabothau. 9 Y mae ynot bobl sy'n enllibio er mwyn tywallt gwaed, yn bwyta yng nghysegrfeydd y mynyddoedd ac yn gweithredu'n anllad o'th fewn. 10 Y mae ynot rai sy'n datguddio noethni eu tadau, ac yn treisio merched yn ystod eu misglwyf; 11 y mae un yn gwneud ffieidd-dra gyda gwraig ei gymydog, un arall yn halogi'n anllad ei ferch-yng-nghyfraith, ac un arall yn treisio ei chwaer, merch ei dad ei hun. 12 Y mae ynot rai sy'n derbyn llwgrwobr am dywallt gwaed; yr wyt yn cymryd llog ac elw, ac yn elwa ar dy gymdogion trwy drais. Anghofiaist fi, medd yr Arglwydd DDUW. 13 "'Yn wir, byddaf yn dyrnu yn erbyn yr elw a wnaethost ac yn erbyn y gwaed sydd o'th fewn. 14 A ddeil dy ddewrder, ac a fydd dy ddwylo'n gryf yn y dydd y byddaf fi'n ymwneud � thi? Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd, a myfi a fydd yn gweithredu. 15 Fe'th wasgaraf ymysg y cenhedloedd a'th chwalu trwy'r gwledydd, a rhof ddiwedd ar dy aflendid. 16 Pan fyddi'n halogedig yng ngolwg y cenhedloedd, byddi'n gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'" 17 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 18 "Fab dyn, fe aeth tu375? Israel yn amhur gennyf; y maent i gyd yn gymysg o bres, alcam, haearn a phlwm mewn ffwrnais; arian amhur ydynt. 19 Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i chwi oll fynd yn amhur, fe'ch casglaf ynghyd i Jerwsalem. 20 Fel y cesglir arian, pres, haearn, plwm ac alcam i ffwrnais � th�n dani i'w toddi, felly y casglaf finnau chwi yn fy nicter a'm llid, a'ch rhoi yno a'ch toddi. 21 Fe'ch casglaf, a chwythu arnoch �'m dig tanllyd, ac fe'ch toddir ynddi. 22 Fel y toddir arian mewn ffwrnais, felly y toddir chwithau ynddi, a byddwch yn gwybod mai myfi'r ARGLWYDD a dywalltodd fy llid arnoch." 23 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 24 "Fab dyn, dywed wrthi, 'Gwlad heb gael cawodydd na glaw fuost yn nydd dicter.' 25 Y mae brad ei thywysogion o'i mewn fel rhu llew yn llarpio'i ysglyfaeth; y maent yn traflyncu pobl, yn cymryd eu cyfoeth a'u trysor, ac yn gwneud llawer yn weddwon o'i mewn. 26 Y mae ei hoffeiriaid yn treisio fy nghyfraith ac yn halogi fy mhethau sanctaidd; nid ydynt yn gwahaniaethu rhwng sanctaidd a chyffredin, nac yn cydnabod gwahaniaeth rhwng gl�n ac aflan; y maent yn anwybyddu fy Sabothau, ac fe'm halogir yn eu mysg. 27 Y mae ei swyddogion o'i mewn fel bleiddiaid yn llarpio ysglyfaeth; y maent yn tywallt gwaed ac yn lladd pobl er mwyn gwneud elw. 28 Y mae ei phroffwydi'n gwyngalchu drostynt � gweledigaethau gau ac argoelion twyllodrus, ac yn dweud, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW', a'r ARGLWYDD heb ddweud. 29 Y mae pobl y wlad yn arfer trais ac yn lladrata; y maent yn gorthrymu'r tlawd a'r anghenog, ac yn treisio'r dieithryn gan atal cyfiawnder. 30 Chwiliais am rywun yn eu mysg a allai adeiladu mur, a sefyll o'm blaen yn y bwlch, i amddiffyn y wlad rhag dinistr, ond ni chefais yr un. 31 Tywelltais fy llid arnynt a'u dinistrio �'m dicter tanllyd, a dwyn ar eu pennau eu hunain yr hyn a wnaethant," medd yr Arglwydd DDUW.