1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 2 "Fab dyn, dywed wrth lywodraethwr Tyrus, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Ym malchder dy galon fe ddywedaist, "Yr wyf yn dduw, ac yn eistedd ar orsedd y duwiau yng nghanol y m�r." Ond dyn wyt, ac nid duw, er iti dybio dy fod fel duw � 3 yn ddoethach yn wir na Daniel, heb yr un gyfrinach yn guddiedig oddi wrthyt. 4 Trwy dy ddoethineb a'th ddeall enillaist iti gyfoeth, a chael aur ac arian i'th ystordai. 5 Trwy dy fedr mewn masnach cynyddaist dy gyfoeth, ac aeth dy galon i ymfalch�o ynddo.' 6 "Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: 'Oherwydd iti dybio dy fod fel duw, 7 fe ddygaf estroniaid yn dy erbyn, y fwyaf didostur o'r cenhedloedd; tynnant eu cleddyfau yn erbyn gwychder dy ddoethineb, a thrywanu d'ogoniant. 8 Bwriant di i lawr i'r pwll, a byddi farw o'th glwyfau yn nyfnderoedd y m�r. 9 A ddywedi, "Duw wyf fi," yng ngu373?ydd y rhai sy'n dy ladd? Dyn wyt, ac nid duw, yn nwylo'r rhai sy'n dy drywanu. 10 Byddi'n profi marwolaeth y dienwaededig trwy ddwylo estroniaid. Myfi a lefarodd,' medd yr Arglwydd DDUW." 11 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 12 "Fab dyn, cod alarnad am frenin Tyrus a dywed wrtho, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr oeddit yn esiampl o berffeithrwydd, yn llawn doethineb, a pherffaith dy brydferthwch. 13 Yr oeddit yn Eden, gardd Duw, a phob carreg werthfawr yn d'addurno � rhuddem, topas ac emrallt, eurfaen, onyx a iasbis, saffir, glasfaen a beryl, ac yr oedd dy fframiau a'th gerfiadau i gyd yn aur; ar ddydd dy eni y paratowyd hwy. 14 Fe'th osodais gyda cherwb gwarcheidiol wedi ei eneinio; yr oeddit ar fynydd sanctaidd Duw, ac yn cerdded ymysg y cerrig tanllyd. 15 Yr oeddit yn berffaith yn dy ffyrdd o ddydd dy eni, nes darganfod drygioni ynot. 16 Fel yr amlhaodd dy fasnach fe'th lanwyd � thrais, ac fe bechaist. Felly fe'th fwriais allan fel peth aflan o fynydd Duw, ac esgymunodd y cerwb gwarcheidiol di o fysg y cerrig tanllyd. 17 Ymfalch�odd dy galon yn dy brydferthwch, a halogaist dy ddoethineb er mwyn d'ogoniant; lluchiais di i'r llawr, a'th adael i'r brenhinoedd edrych arnat. 18 Trwy dy droseddau aml, ac anghyfiawnder dy fasnach, fe halogaist dy gysegrleoedd; felly gwneuthum i d�n ddod allan ohonot a'th ysu, a'th wneud yn lludw ar y ddaear yng ngu373?ydd pawb oedd yn edrych. 19 Y mae pob un ymhlith y bobloedd sy'n d'adnabod wedi ei syfrdanu; aethost yn ddychryn, ac ni cheir mohonot mwyach.'" 20 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 21 "Fab dyn, tro dy wyneb tua Sidon a phroffwyda yn ei herbyn, 22 a dywed, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf yn dy erbyn, O Sidon, ac amlygaf fy ngogoniant yn dy ganol. Byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan weithredaf fy nghosb arni ac amlygu fy sancteiddrwydd ynddi. 23 Anfonaf bla iddi, a thywallt gwaed ar ei heolydd; syrth y lladdedigion o'i mewn o achos y cleddyf sydd o'i hamgylch. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.' 24 "Ni fydd gan du375? Israel mwyach fieri i'w pigo na drain i'w poeni ymysg yr holl gymdogion a fu'n eu dilorni. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW. 25 "Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: 'Pan gasglaf du375? Israel o fysg y bobloedd lle gwasgarwyd hwy, ac amlygu fy sancteiddrwydd ynddynt yng ngu373?ydd y cenhedloedd, c�nt fyw yn eu tir eu hunain, a roddais i'm gwas Jacob. 26 Byddant yn byw'n ddiogel yno, yn codi tai ac yn plannu gwinllannoedd; byddant yn byw'n ddiogel pan fyddaf fi'n gweithredu barn ar yr holl gymdogion a fu'n eu dilorni. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw.'"