Welsh

Ezekiel

35

1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 2 "Fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn Mynydd Seir; proffwyda yn ei erbyn 3 a dywed, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele fi yn dy erbyn, Fynydd Seir; estynnaf fy llaw yn dy erbyn, a'th wneud yn ddiffeithwch anial. 4 Gwnaf dy ddinasoedd yn adfeilion a byddi dithau'n ddiffaith; yna byddi'n gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD. 5 Oherwydd iti goleddu hen elyniaeth a darostwng pobl Israel i'r cleddyf yn nydd eu trallod, yn nydd eu cosb derfynol, 6 felly, cyn wired �'m bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, fe'th ddedfrydaf i waed, a bydd gwaed yn dy ymlid; am na chaseaist ti waed, gwaed fydd yn dy ymlid. 7 Gwnaf Fynydd Seir yn ddiffeithwch anial, a thorraf ymaith oddi yno bawb sy'n mynd a dod. 8 Llanwaf dy fynyddoedd � chel-aneddau; bydd y rhai a laddwyd �'r cleddyf yn syrthio ar dy fryniau, yn dy ddyffrynnoedd ac yn dy holl nentydd. 9 Gwnaf di yn ddiffeithwch am byth, ac ni fydd neb yn byw yn dy ddinasoedd. Yna byddi'n gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD. 10 "'Oherwydd iti ddweud, "Eiddof fi fydd y ddwy genedl hyn a'r ddwy wlad hyn, a chymeraf feddiant ohonynt", er bod yr ARGLWYDD yno, 11 felly, cyn wired �'m bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, fe wnaf � thi yn �l y dig a'r eiddigedd a ddangosaist ti yn dy gasineb tuag atynt; gwnaf fy hunan yn wybyddus yn eu mysg pan farnaf di. 12 Yna, byddi'n gwybod i mi, yr ARGLWYDD, glywed yr holl bethau gwaradwyddus a leferaist yn erbyn mynyddoedd Israel pan ddywedaist, "Y maent yn ddiffeithwch; fe'u rhoddwyd i ni i'w difa." 13 Ym-ddyrchefaist yn f'erbyn �'th enau ac amlhau geiriau yn f'erbyn, a chlywais innau. 14 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Tra bydd yr holl ddaear yn llawenhau, fe'th wnaf di'n ddiffeithwch. 15 Oherwydd iti lawenhau pan wnaed etifeddiaeth tu375? Israel yn ddiffeithwch, fel hyn y gwnaf i tithau: byddi di'n ddiffeithwch, o Fynydd Seir, ti a'r cyfan o Edom. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'