Welsh

Ezekiel

41

1 Yna aeth � mi i mewn i'r deml a mesur y pileri; yr oedd y pileri bob ochr yn chwe chufydd o drwch. 2 Yr oedd y mynediad yn ddeg cufydd o led, a muriau'r mynediad bob ochr yn bum cufydd o drwch. Mesurodd hefyd hyd y deml; yr oedd yn ddeugain cufydd, a'i lled yn ugain cufydd. 3 Yna aeth i'r cysegr nesaf i mewn a mesur pileri'r mynediad, ac yr oeddent yn ddau gufydd o drwch; yr oedd y mynediad yn chwe chufydd o led, a muriau'r mynediad yn saith cufydd o drwch. 4 Mesurodd hefyd hyd y cysegr nesaf i mewn; yr oedd yn ugain cufydd, a'i led yn ugain cufydd ar draws y cysegr. Dywedodd wrthyf, "Dyma'r cysegr sancteiddiaf." 5 Yna mesurodd fur y deml; yr oedd yn chwe chufydd o drwch, ac yr oedd pob ystafell o amgylch y deml yn bedwar cufydd o led. 6 Yr oedd yr ystafelloedd ar dri uchder, y naill ar ben y llall, a deg ar hugain ym mhob uchder. Yr oedd bwtresi o amgylch mur y deml i gynnal yr ystafelloedd, fel nad oeddent yn cael eu cynnal gan fur y deml. 7 Yr oedd yr ystafelloedd o amgylch y deml yn lletach wrth godi o'r naill uchder i'r llall. Yr oedd yr adeiladwaith o amgylch y deml yn codi mewn esgynfeydd, fel bod yr ystafelloedd yn lletach wrth esgyn; ac yr oedd grisiau'n arwain o'r llawr isaf i'r llawr uchaf trwy'r llawr canol. 8 Gwelais fod o amgylch y deml balmant yn sylfaen i'r ystafelloedd, a'i led yr un maint � ffon fesur, sef chwe chufydd o hyd. 9 Pum cufydd oedd trwch mur nesaf allan yr ystafelloedd, ac yr oedd y lle agored rhwng ystafelloedd y deml 10 ac ystafelloedd yr offeiriaid yn ugain cufydd o led o amgylch y deml. 11 Yr oedd dau fynediad o'r lle agored i'r ystafelloedd ochr, y naill yn y gogledd a'r llall yn y de; ac yr oedd lled y lle agored yn bum cufydd oddi amgylch. 12 Yr oedd yr adeilad a wynebai gwrt y deml ar ochr y gorllewin yn ddeg cufydd a thrigain o led, a mur yr adeilad yn bum cufydd o drwch oddi amgylch, a hyd yr adeilad yn ddeg cufydd a phedwar ugain. 13 Yna mesurodd y deml; yr oedd yn gan cufydd o hyd, ac yr oedd y cwrt a'r adeilad gyda'i furiau hefyd yn gan cufydd o hyd. 14 Yr oedd lled wyneb y deml a'r cwrt ar ochr y dwyrain yn gan cufydd. 15 Yna mesurodd hyd yr adeilad a wynebai'r cwrt yng nghefn y deml, gyda'i orielau bob ochr, ac yr oedd yn gan cufydd. Yr oedd y deml, y cysegr nesaf i mewn a'r cyntedd yn wynebu'r cwrt, 16 yn ogystal �'r rhiniogau, y ffenestri bychain a'r orielau o amgylch y tri ohonynt, sef y cyfan o'r rhiniog ymlaen, wedi eu byrddio � choed; yr oedd y muriau o'r llawr at y ffenestri wedi eu byrddio. 17 Yn y lle uwchben y mynediad i'r cysegr nesaf i mewn, ar y tu allan, a hefyd ar y muriau o amgylch y cysegr mewnol a'r cysegr allanol, 18 yr oedd cerfiadau ar ffurf cerwbiaid a choed palmwydd, sef palmwydd a cherwbiaid bob yn ail. Yr oedd dau wyneb gan bob cerwb, 19 wyneb dyn at y balmwydden ar un ochr, a wyneb llew at y balmwydden ar yr ochr arall. Yr oeddent wedi eu cerfio o amgylch yr holl deml. 20 o'r llawr at y lle uwchben y drws, yr oedd cerwbiaid a phalmwydd wedi eu cerfio ar fur y deml. 21 Yr oedd pyst drws y deml yn sgw�r; ac o flaen y cysegr sancteiddiaf yr oedd rhywbeth tebyg 22 i allor o goed, tri chufydd o uchder a dau gufydd o hyd; yr oedd ei chornelau, ei sylfaen a'i hochrau o goed. Dywedodd y dyn wrthyf, "Dyma'r bwrdd sydd o flaen yr ARGLWYDD." 23 Yr oedd drysau dwbl i'r deml ac i'r cysegr sancteiddiaf; 24 yr oedd dwy ddalen i bob drws, a'r ddwy wedi eu bachu wrth ei gilydd. 25 Ar ddrysau'r deml yr oedd cerfiadau o gerwbiaid ac o balmwydd, fel ar y muriau, ac yr oedd cornis pren ar flaen y cyntedd o'r tu allan. 26 Ym muriau'r cyntedd yr oedd ffenestri bychain, a phalmwydd wedi eu cerfio bob ochr. Yr oedd cornis hefyd ar bob un o ystafelloedd ochr y deml.