1 Yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, er mwyn cyflawni gair yr ARGLWYDD a ddaeth trwy Jeremeia, cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd Cyrus, a chyhoeddodd ddatganaid trwy ei holl deyrnas ac ysgrifennu: 2 "Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia: Y mae'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, wedi rhoi holl deyrnasoedd y byd i mi, ac wedi gorchymyn i mi adeiladu tu375? iddo yn Jerwsalem yn Jwda. 3 Pob un o'ch plith sy'n perthyn i'w bobl, bydded ei Dduw gydag ef, ac aed i fyny i Jerwsalem yn Jwda i ailadeiladu tu375? ARGLWYDD Dduw Israel, y Duw sydd yn Jerwsalem. 4 Pob un a arbedwyd, ple bynnag y mae'n byw, bydded iddo gael cymorth gan ei gymdogion mewn arian ac aur ac offer ac anifeiliaid, yn ogystal ag offrwm gwirfoddol i du375? Dduw yn Jerwsalem." 5 Yna dechreuodd pennau-teuluoedd Jwda a Benjamin, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, pob un a symbylwyd gan Dduw, baratoi i fynd i ailadeiladu tu375?'r ARGLWYDD yn Jerwsalem. 6 Cawsant gefnogaeth eu holl gymdogion gyda llestri arian ac aur, ac offer ac anifeiliaid ac anrhegion gwerthfawr, at y cwbl a roed yn wirfoddol. 7 Cyflwynodd y Brenin Cyrus lestri tu375?'r ARGLWYDD a ddygwyd gan Nebuchadnesar o Jerwsalem i'w gosod yn nheml ei dduwiau, a rhoddodd hwy i Mithredath y trysorydd; 8 rhestrodd yntau hwy ar gyfer Sesbassar, llywodraethwr Jwda. 9 A dyma'r rhestr: dysglau aur, tri deg; dysglau arian, mil; thuserau, dau ddeg a naw; 10 cawgiau aur, tri deg; cawgiau arian, pedwar cant a deg; llestri eraill, mil. 11 Cyfanswm y llestri aur ac arian, pum mil a phedwar cant. A daeth Sesbassar �'r cwbl gydag ef pan ddychwelodd y gaethglud o Fabilon i Jerwsalem.