Welsh

Ezra

5

1 Ond wedi i'r proffwydi, Haggai a Sechareia fab Ido, broffwydo yn enw Duw Israel i'r Iddewon yn Jwda a Jerwsalem, 2 dechreuodd Sorobabel fab Salathiel a Jesua fab Josadac ailadeiladu tu375? Dduw yn Jerwsalem; ac yr oedd proffwydi Duw gyda hwy yn eu cefnogi. 3 Ond ar unwaith daeth Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Setharbosnai a'u cefnogwyr atynt a gofyn, "Pwy a roes ganiat�d i chwi ailadeiladu'r tu375? hwn a gorffen ei goedio?" 4 Gofynasant hefyd, "Beth yw enwau'r rhai sy'n codi'r adeilad hwn?" 5 Ond yr oedd eu Duw yn gofalu am henuriaid yr Iddewon, ac ni chawsant eu rhwystro nes i adroddiad fynd at Dareius ac iddynt gael ateb ar y mater. 6 Dyma gopi o'r llythyr a anfonodd Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Setharbosnai a'u cefnogwyr, penaethiaid Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, at y Brenin Dareius. 7 A dyma'r adroddiad ysgrifenedig a anfonwyd: "I'r Brenin Dareius, cyfarchion! 8 Bydded hysbys i'r brenin i ni fynd i dalaith Jwda, a gweld tu375?'r Duw mawr yn cael ei adeiladu � cherrig enfawr, gyda choed yn y muriau; y mae'r gwaith yn mynd rhagddo ac yn llwyddo dan ofal henuriaid yr Iddewon. 9 Yna gofynasom i'r henuriaid, 'Pwy a roes ganiat�d i chwi ailadeiladu'r tu375? hwn a gorffen ei goedio?' 10 Gofynasom hefyd iddynt am eu henwau fel y medrem gofnodi enwau eu harweinwyr a rhoi gwybod i ti. 11 A dyma'r ateb a gawsom: 'Gweision Duw nef a daear ydym ni, ac yr ydym yn ailadeiladu tu375? a godwyd lawer o flynyddoedd yn �l; un o frenhinoedd enwog Israel a'i cododd a'i orffen. 12 Ond am i'n hynafiaid ddigio Duw'r nefoedd, rhoddodd ef hwy i Nebuchadnesar y Caldead, brenin Babilon; dinistriodd yntau'r tu375? hwn a chaethgludo'r bobl i Fabilon. 13 Ond ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad, rhoes Cyrus brenin Babilon orchymyn i ailadeiladu'r tu375? hwn. 14 Yr oedd llestri aur ac arian yn perthyn i du375? Dduw; dygodd Nebuchadnesar hwy o'r deml yn Jerwsalem a'u rhoi yn nheml Babilon, ond cymerodd y Brenin Cyrus hwy o'r deml ym Mabilon a'u rhoi i u373?r o'r enw Sesbassar, a oedd wedi ei benodi'n llywodraethwr. 15 Dywedodd wrtho, "Cymer y llestri yma, a dos � hwy i'r deml sydd yn Jerwsalem, a bydded i du375? Dduw gael ei adeiladu ar ei hen safle." 16 Yna daeth Sesbassar a gosod sylfeini tu375? Dduw yn Jerwsalem; a bu adeiladu o'r amser hwnnw hyd yn awr, ond nid yw wedi ei orffen.' 17 Felly, os cytuna'r brenin, chwilier yn yr archifau brenhinol ym Mabilon i weld a roes y Brenin Cyrus orchymyn i ailadeiladu'r deml hon yn Jerwsalem. Anfoner i ni ddyfarniad y brenin ynglu375?n �'r mater."