1 Y Galatiaid dwl! Pwy sydd wedi eich rheibio chwi, chwi y darluniwyd ar goedd o flaen eich llygaid, Iesu Grist wedi'i groeshoelio? 2 Y cwbl yr wyf am ei wybod gennych yw hyn: ai trwy gadw gofynion cyfraith y derbyniasoch yr Ysbryd, ynteu trwy wrando mewn ffydd? 3 A ydych mor ddwl � hyn? Wedi ichwi ddechrau trwy'r Ysbryd, a ydych yn awr yn ceisio pen y daith trwy'r cnawd? 4 Ai yn ofer y cawsoch brofiadau mor fawr (os gallant, yn wir, fod yn ofer)? 5 Beth, ynteu, am yr hwn sy'n cyfrannu ichwi yr Ysbryd ac yn gweithio gwyrthiau yn eich plith? Ai ar gyfrif cadw gofynion cyfraith, ynteu ar gyfrif gwrando mewn ffydd, y mae'n gwneud hyn oll? 6 Y mae fel yn achos Abraham: "Credodd yn Nuw, ac fe'i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder." 7 Gwyddoch, gan hynny, am bobl ffydd, mai hwy yw plant Abraham. 8 Ac y mae'r Ysgrythur, wrth ragweld mai trwy ffydd y byddai Duw yn cyfiawnhau'r Cenhedloedd, wedi pregethu'r Efengyl ymlaen llaw wrth Abraham fel hyn: "Bendithir yr holl genhedloedd ynot ti." 9 Am hynny, y mae pobl ffydd yn cael eu bendithio ynghyd ag Abraham, un llawn ffydd. 10 Oherwydd y mae pawb sy'n dibynnu ar gadw gofynion cyfraith dan felltith, achos y mae'n ysgrifenedig: "Melltith ar bob un nad yw'n cadw at bob peth sy'n ysgrifenedig yn llyfr y Gyfraith, a'i wneud!" 11 Y mae'n amlwg na chaiff neb ei gyfiawnhau gerbron Duw ar dir cyfraith, oherwydd, "Y sawl sydd trwy ffydd yn gyfiawn a gaiff fyw." 12 Eithr nid "trwy ffydd" yw egwyddor y Gyfraith; dweud y mae hi yn hytrach, "Y sawl sy'n cadw ei gofynion a gaiff fyw trwyddynt hwy." 13 Prynodd Crist ryddid i ni oddi wrth felltith y Gyfraith pan ddaeth, er ein mwyn, yn wrthrych melltith, oherwydd y mae'n ysgrifenedig: "Melltith ar bob un a grogir ar bren!" 14 Y bwriad oedd cael bendith Abraham i ymledu i'r Cenhedloedd yng Nghrist Iesu, er mwyn i ni dderbyn, trwy ffydd, yr Ysbryd a addawyd. 15 Gyfeillion, i gymryd enghraifft o'r byd dynol, pan fydd ewyllys, sef cyfamod olaf rhywun, wedi ei chadarnhau, ni chaiff neb ei dirymu nac ychwanegu ati. 16 Yn awr, i Abraham y rhoddwyd addewidion y cyfamod, ac i'w had ef. Ni ddywedir, "ac i'th hadau", yn y lluosog, ond, "ac i'th had di", yn yr unigol, a'r un hwnnw yw Crist. 17 Dyma yr wyf yn ei olygu: yn achos cyfamod oedd eisoes wedi ei gadarnhau gan Dduw, nid yw cyfraith, sydd bedwar cant tri deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn ei ddirymu, nes gwneud yr addewid yn ddiddim. 18 Oherwydd, os trwy gyfraith y mae'r etifeddiaeth, yna nid yw mwyach trwy addewid; ond trwy addewid y mae Duw o'i ras wedi ei rhoi i Abraham. 19 Beth, ynteu, am y Gyfraith? Ar gyfrif troseddau yr ychwanegwyd hi, i aros hyd nes y byddai'r had, yr un y gwnaed yr addewid iddo, yn dod. Fe'i gorchmynnwyd trwy angylion, gyda chymorth canolwr. 20 Ond nid oes angen canolwr lle nad oes ond un; ac un yw Duw. 21 A yw'r Gyfraith, ynteu, yn groes i addewidion Duw? Nac ydyw, ddim o gwbl! Oherwydd pe bai cyfraith wedi ei rhoi �'r gallu ganddi i gyfrannu bywyd, yna, yn wir, fe fyddai cyfiawnder trwy gyfraith. 22 Ond nid felly y mae; yn �l dyfarniad yr Ysgrythur, y mae'r byd i gyd wedi ei gaethiwo gan bechod, er mwyn peri mai trwy ffydd yn Iesu Grist, ac i'r rhai sy'n meddu'r ffydd honno, y rhoddid yr hyn a addawyd. 23 Cyn i'r ffydd hon ddod, yr oeddem dan warchodaeth gaeth cyfraith, yn disgwyl am y ffydd oedd i gael ei datguddio. 24 Felly, bu'r Gyfraith yn was i warchod trosom hyd nes i Grist ddod, ac inni gael ein cyfiawnhau trwy ffydd. 25 Ond gan fod y ffydd hon bellach wedi dod, nid ydym mwyach dan warchodaeth gwas. 26 Oblegid yr ydych bawb, trwy ffydd, yn blant Duw yng Nghrist Iesu. 27 Oherwydd y mae pob un ohonoch sydd wedi ei fedyddio i Grist wedi gwisgo Crist amdano. 28 Nid oes rhagor rhwng Iddewon a Groegiaid, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw, oherwydd un person ydych chwi oll yng Nghrist Iesu. 29 Ac os ydych yn eiddo Crist, yna had Abraham ydych, etifeddion yn �l yr addewid.