Welsh

Galatians

5

1 I ryddid y rhyddhaodd Crist ni. Safwch yn gadarn, felly, a pheidiwch � phlygu eto i iau caethiwed. 2 Dyma fy ngeiriau, i, Paul, wrthych chwi: os derbyniwch enwaediad, ni bydd Crist o ddim budd i chwi. 3 Yr wyf yn tystio unwaith eto wrth bob dyn a enwaedir, ei fod dan rwymedigaeth i gadw'r Gyfraith i gyd. 4 Chwi sy'n ceisio cyfiawnhad trwy gyfraith, y mae eich perthynas � Christ wedi ei thorri; yr ydych wedi syrthio oddi wrth ras. 5 Ond yr ydym ni, yn yr Ysbryd, trwy ffydd, yn disgwyl am y cyfiawnder yr ydym yn gobeithio amdano. 6 Oherwydd yng Nghrist Iesu nid enwaediad sy'n cyfrif, na dienwaediad, ond ffydd yn gweithredu trwy gariad. 7 Yr oeddech yn rhedeg yn dda. Pwy a'ch rhwystrodd chwi rhag canlyn y gwirionedd? 8 Nid oddi wrth yr hwn sy'n eich galw y daeth y persw�d yma. 9 Y mae ychydig surdoes yn suro'r holl does. 10 Yr wyf fi'n gwbl hyderus amdanoch yn yr Arglwydd, na fydd i chwi wyro yn eich barn; ond bydd rhaid i hwnnw sy'n aflonyddu arnoch ddwyn ei gosb, pwy bynnag ydyw. 11 Amdanaf fi, gyfeillion, os wyf yn parhau i bregethu'r enwaediad, pam y parheir i'm herlid? Petai hynny'n wir, byddai tramgwydd y groes wedi ei symud. 12 O na bai eich aflonyddwyr yn eu sbaddu eu hunain hefyd! 13 Fe'ch galwyd chwi, gyfeillion, i ryddid, ond yn unig peidiwch ag arfer eich rhyddid yn gyfle i'r cnawd; yn hytrach trwy gariad byddwch yn weision i'ch gilydd. 14 Oherwydd y mae'r holl Gyfraith wedi ei mynegi'n gyflawn mewn un gair, sef yn y gorchymyn, "C�r dy gymydog fel ti dy hun." 15 Ond os cnoi a darnio'ch gilydd yr ydych, gofalwch na chewch eich difa gan eich gilydd. 16 Dyma yr wyf yn ei olygu: rhodiwch yn yr Ysbryd, ac ni fyddwch fyth yn cyflawni chwantau'r cnawd. 17 Oherwydd y mae chwantau'r cnawd yn erbyn yr Ysbryd, a chwantau'r Ysbryd yn erbyn y cnawd. Y maent yn tynnu'n groes i'w gilydd, fel na allwch wneud yr hyn a fynnwch. 18 Ond os ydych yn cael eich arwain gan yr Ysbryd, nid ydych dan gyfraith. 19 Y mae gweithredoedd y cnawd yn amlwg, sef puteindra, amhurdeb, anlladrwydd, 20 eilunaddoliaeth, dewiniaeth, cweryla, cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, rhwygo, ymbleidio, 21 cenfigennu, meddwi, cyfeddach, a phethau tebyg. Yr wyf yn eich rhybuddio, fel y gwneuthum o'r blaen, na chaiff y rhai sy'n gwneud y fath bethau etifeddu teyrnas Dduw. 22 Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth. 23 Nid oes cyfraith yn erbyn rhinweddau fel y rhain. 24 Y mae pobl Crist Iesu wedi croeshoelio'r cnawd ynghyd �'i nwydau a'i chwantau. 25 Os yw ein bywyd yn yr Ysbryd, ynddo hefyd bydded ein buchedd. 26 Bydded inni ymgadw rhag gwag ymffrost, rhag herio ein gilydd, a rhag cenfigennu wrth ein gilydd.