Welsh

Genesis

1

1 Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a'r ddaear. 2 Yr oedd y ddaear yn afluniaidd a gwag, ac yr oedd tywyllwch ar wyneb y dyfnder, ac ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd. 3 A dywedodd Duw, "Bydded goleuni." A bu goleuni. 4 Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch. 5 Galwodd Duw y goleuni yn ddydd a'r tywyllwch yn nos. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf. 6 Yna dywedodd Duw, "Bydded ffurfafen yng nghanol y dyfroedd yn gwahanu dyfroedd oddi wrth ddyfroedd." 7 A gwnaeth Duw y ffurfafen, a gwahanodd y dyfroedd odani oddi wrth y dyfroedd uwchlaw iddi. A bu felly. 8 Galwodd Duw y ffurfafen yn nefoedd. A bu hwyr a bu bore, yr ail ddydd. 9 Yna dywedodd Duw, "Casgler ynghyd y dyfroedd dan y nefoedd i un lle, ac ymddangosed tir sych." A bu felly. 10 Galwodd Duw y tir sych yn ddaear, a chronfa'r dyfroedd yn foroedd. A gwelodd Duw fod hyn yn dda. 11 Dywedodd Duw, "Dyged y ddaear dyfiant, llysiau yn dwyn had, a choed ir ar y ddaear yn dwyn ffrwyth � had ynddo, yn �l eu rhywogaeth." A bu felly. 12 Dygodd y ddaear dyfiant, llysiau yn dwyn had yn �l eu rhywogaeth, a choed yn dwyn ffrwyth � had ynddo, yn �l eu rhywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda. 13 A bu hwyr a bu bore, y trydydd dydd. 14 Yna dywedodd Duw, "Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd i wahanu'r dydd oddi wrth y nos, ac i fod yn arwyddion i'r tymhorau, a hefyd i'r dyddiau a'r blynyddoedd. 15 Bydded iddynt fod yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd i oleuo ar y ddaear." A bu felly. 16 Gwnaeth Duw y ddau olau mawr, y golau mwyaf i reoli'r dydd, a'r golau lleiaf y nos; a gwnaeth y s�r hefyd. 17 A gosododd Duw hwy yn ffurfafen y nefoedd i oleuo ar y ddaear, 18 i reoli'r dydd a'r nos ac i wahanu'r goleuni oddi wrth y tywyllwch. A gwelodd Duw fod hyn yn dda. 19 A bu hwyr a bu bore, y pedwerydd dydd. 20 Yna dywedodd Duw, "Heigied y dyfroedd o greaduriaid byw, ac uwchlaw'r ddaear eheded adar ar draws ffurfafen y nefoedd." 21 A chreodd Duw y morfilod mawr, a'r holl greaduriaid byw sy'n heigio yn y dyfroedd yn �l eu rhywogaeth, a phob aderyn asgellog yn �l ei rywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda. 22 Bendithiodd Duw hwy a dweud, "Byddwch ffrwythlon ac amlhewch a llanwch ddyfroedd y moroedd, a lluosoged yr adar ar y ddaear." 23 A bu hwyr a bu bore, y pumed dydd. 24 Yna dywedodd Duw, "Dyged y ddaear greaduriaid byw yn �l eu rhywogaeth: anifeiliaid, ymlusgiaid a bwystfilod gwyllt yn �l eu rhywogaeth." A bu felly. 25 Gwnaeth Duw y bwystfilod gwyllt yn �l eu rhywogaeth, a'r anifeiliaid yn �l eu rhywogaeth, a holl ymlusgiaid y tir yn �l eu rhywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda. 26 Dywedodd Duw, "Gwnawn ddyn ar ein delw, yn �l ein llun ni, i lywodraethu ar bysgod y m�r, ar adar yr awyr, ar yr anifeiliaid gwyllt, ar yr holl ddaear, ac ar bopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear." 27 Felly creodd Duw ddyn ar ei ddelw ei hun; ar ddelw Duw y creodd ef; yn wryw ac yn fenyw y creodd hwy. 28 Bendithiodd Duw hwy a dweud, "Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi; llywodraethwch ar bysgod y m�r, ar adar yr awyr, ac ar bopeth byw sy'n ymlusgo ar y ddaear." 29 A dywedodd Duw, "Yr wyf yn rhoi i chwi bob llysieuyn sy'n dwyn had ar wyneb y ddaear, a phob coeden � had yn ei ffrwyth; byddant yn fwyd i chwi. 30 Ac i bob bwystfil gwyllt, i holl adar yr awyr, ac i bopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear, popeth ag anadl einioes ynddo, bydd pob llysieuyn glas yn fwyd." A bu felly. 31 Gwelodd Duw y cwbl a wnaeth, ac yr oedd yn dda iawn. A bu hwyr a bu bore, y chweched dydd.