Welsh

Genesis

25

1 Cymerodd Abraham wraig arall o'r enw Cetura. 2 Ohoni hi ganwyd iddo Simran, Jocsan, Medan, Midian, Isbac a Sua. 3 Jocsan oedd tad Seba a Dedan; a meibion Dedan oedd Assurim, Letusim a Lewmmim. 4 Meibion Midian oedd Effa, Effer, Hanoch, Abida ac Eldaa. Yr oedd y rhain i gyd yn blant Cetura. 5 Rhoddodd Abraham ei holl eiddo i Isaac. 6 Ond tra oedd eto'n fyw, yr oedd Abraham wedi rhoi anrhegion i feibion ei wragedd gordderch, ac wedi eu hanfon ymaith oddi wrth ei fab Isaac, draw i wlad ddwyreiniol. 7 Yr oedd oes gyfan Abraham yn gant saith deg a phump o flynyddoedd. 8 Anadlodd Abraham ei anadl olaf, a bu farw wedi oes hir, yn hen ac oedrannus; a chladdwyd ef gyda'i dylwyth. 9 Claddwyd ef gan ei feibion Isaac ac Ismael yn ogof Machpela, ym maes Effron fab Sohar yr Hethiad, i'r dwyrain o Mamre, 10 y maes yr oedd Abraham wedi ei brynu gan yr Hethiaid. Yno y claddwyd Abraham gyda'i wraig Sara. 11 Wedi marw Abraham bendithiodd Duw ei fab Isaac, ac arhosodd Isaac ger Beer-lahai-roi. 12 Dyma genedlaethau Ismael fab Abraham, a anwyd iddo o Hagar yr Eifftes, morwyn Sara. 13 Dyma enwau meibion Ismael, yn nhrefn eu geni: Nebaioth, cyntafanedig Ismael, a Cedar, Adbeel, Mibsam, 14 Misma, Duma, Massa, 15 Hadad, Tema, Jetur, Naffis a Cedema. 16 Dyna feibion Ismael, a dyna enwau deuddeg tywysog y llwythau yn �l eu trefi a'u gwersylloedd. 17 Hyd oes Ismael oedd cant tri deg a saith o flynyddoedd; anadlodd ei anadl olaf, a chladdwyd ef gyda'i dylwyth. 18 Yr oeddent yn trigo o Hafila hyd Sur, i'r dwyrain o'r Aifft, i gyfeiriad Asyria; yr oeddent yn erbyn eu holl frodyr. 19 Dyma genedlaethau Isaac fab Abraham: tad Isaac oedd Abraham, 20 ac yr oedd Isaac yn ddeugain mlwydd oed pan gymerodd yn wraig Rebeca ferch Bethuel yr Aramead o Padan Aram, chwaer Laban yr Aramead. 21 A gwedd�odd Isaac ar yr ARGLWYDD dros ei wraig, am ei bod heb eni plentyn. Atebodd yr ARGLWYDD ei weddi, a beichiogodd ei wraig Rebeca. 22 Aflonyddodd y plant ar ei gilydd yn ei chroth, a dywedodd hithau, "Pam y mae fel hyn arnaf?" Aeth i ymofyn �'r ARGLWYDD, 23 a dywedodd yr ARGLWYDD wrthi, "Dwy genedl sydd yn dy groth, a gwahenir dau lwyth o'th fru, bydd y naill yn gryfach na'r llall, a'r hynaf yn gwasanaethu'r ieuengaf." 24 Pan ddaeth ei dyddiau i esgor, yr oedd gefeilliaid yn ei chroth. 25 Daeth y cyntaf allan yn goch, a'i holl gorff fel mantell flewog; am hynny galwyd ef Esau. 26 Wedyn daeth ei frawd allan, a'i law yn gafael yn sawdl Esau; am hynny galwyd ef Jacob. Yr oedd Isaac yn drigain oed pan anwyd hwy. 27 Tyfodd y bechgyn, a daeth Esau yn heliwr medrus, yn u373?r y maes; ond yr oedd Jacob yn u373?r tawel, yn byw mewn pebyll. 28 Yr oedd Isaac yn hoffi Esau, am ei fod yn bwyta o'i helfa; ond yr oedd Rebeca yn hoffi Jacob. 29 Un tro pan oedd Jacob yn berwi cawl, daeth Esau o'r maes ar ddiffygio. 30 A dywedodd Esau wrth Jacob, "Gad imi fwyta o'r cawl coch yma, oherwydd yr wyf ar ddiffygio." Dyna pam y galwyd ef Edom. 31 Dywedodd Jacob, "Gwertha imi'n awr dy enedigaeth-fraint." 32 A dywedodd Esau, "Pa les yw genedigaeth-fraint i mi, a minnau ar fin marw?" 33 Dywedodd Jacob, "Dos ar dy lw i mi yn awr." Felly aeth ar ei lw, a gwerthu ei enedigaeth-fraint i Jacob. 34 Yna rhoddodd Jacob fara a chawl ffacbys i Esau; bwytaodd ac yfodd, ac yna codi a mynd ymaith. Fel hyn y diystyrodd Esau ei enedigaeth-fraint.