Welsh

Genesis

27

1 Pan oedd Isaac yn hen a'i lygaid wedi pylu fel nad oedd yn gweld, galwodd ar Esau ei fab hynaf, a dweud wrtho, "Fy mab." Atebodd yntau, "Dyma fi." 2 A dywedodd Isaac, "Yr wyf wedi mynd yn hen, ac ni wn pa ddiwrnod y byddaf farw. 3 Cymer yn awr dy arfau, dy gawell saethau a'th fwa, a dos i'r maes i hela bwyd i mi, 4 a gwna i mi y lluniaeth blasus sy'n hoff gennyf, a thyrd ag ef imi i'w fwyta; yna bendithiaf di cyn imi farw." 5 Yr oedd Rebeca yn gwrando ar Isaac yn siarad �'i fab Esau. A phan aeth Esau i'r maes i hela bwyd i ddod ag ef i'w dad, 6 dywedodd Rebeca wrth ei mab Jacob, "Clywais dy dad yn siarad �'th frawd Esau ac yn dweud, 7 'Tyrd � helfa imi, a gwna luniaeth blasus imi i'w fwyta; yna bendithiaf di gerbron yr ARGLWYDD cyn imi farw.' 8 Gwrando'n awr, fy mab, ar yr hyn a orchmynnaf i ti. 9 Dos i blith y praidd, a thyrd � dau fyn gafr da i mi, a gwnaf finnau hwy yn lluniaeth blasus i'th dad, o'r math y mae'n ei hoffi, 10 a chei dithau fynd ag ef i'th dad i'w fwyta, er mwyn iddo dy fendithio di cyn iddo farw." 11 Ond dywedodd Jacob wrth ei fam Rebeca, "Ond y mae Esau yn u373?r blewog, a minnau'n u373?r llyfn. 12 Efallai y bydd fy nhad yn fy nheimlo, a byddaf fel twyllwr yn ei olwg, a dof � melltith arnaf fy hun yn lle bendith." 13 Meddai ei fam wrtho, "Arnaf fi y bo dy felltith, fy mab; gwrando arnaf, dos a thyrd �'r geifr ataf." 14 Felly aeth, a dod � hwy at ei fam; a gwnaeth ei fam luniaeth blasus, o'r math yr oedd ei dad yn ei hoffi. 15 Yna cymerodd Rebeca ddillad gorau ei mab hynaf Esau, dillad oedd gyda hi yn y tu375?, a'u gwisgo am Jacob ei mab ieuengaf; 16 a gwisgodd hefyd grwyn y geifr am ei ddwylo ac am ei wegil llyfn; 17 yna rhoddodd i'w mab Jacob y lluniaeth blasus a'r bara yr oedd wedi eu paratoi. 18 Aeth yntau i mewn at ei dad a dweud, "Fy nhad." Atebodd yntau, "Dyma fi, fy mab, pwy wyt ti?" 19 Dywedodd Jacob wrth ei dad, "Esau dy gyntafanedig wyf fi. Gwneuthum fel y dywedaist wrthyf; cod ar dy eistedd a bwyta o'm helfa, a bendithia fi." 20 A dywedodd Isaac wrth ei fab, "Sut y cefaist hyd iddo mor fuan, fy mab?" Atebodd yntau, "Yr ARGLWYDD dy Dduw a'i trefnodd ar fy nghyfer." 21 Yna dywedodd Isaac wrth Jacob, "Tyrd yn nes, er mwyn imi dy deimlo, fy mab, a gwybod ai ti yw fy mab Esau ai peidio." 22 Nesaodd Jacob at Isaac ei dad, a theimlodd yntau ef a dweud, "Llais Jacob yw'r llais, ond dwylo Esau yw'r dwylo." 23 Ond nid adnabu mohono, am fod ei ddwylo'n flewog fel dwylo Esau ei frawd; felly bendithiodd ef. 24 A dywedodd, "Ai ti yn wir yw fy mab Esau?" Atebodd yntau, "Myfi yw." 25 Dywedodd yntau, "Tyrd �'r helfa ataf, fy mab, imi gael bwyta a'th fendithio." Daeth ag ef ato, a bwytaodd yntau; a daeth � gwin iddo, ac yfodd. 26 A dywedodd ei dad Isaac wrtho, "Tyrd yn nes a chusana fi, fy mab." 27 Felly nesaodd a chusanodd ef; clywodd yntau arogl ei wisgoedd, a bendithiodd ef, a dweud: "Dyma arogl fy mab, fel arogl maes a fendithiodd yr ARGLWYDD. 28 Rhodded Duw iti o wlith y nefoedd, o fraster y ddaear, a digon o u375?d a gwin. 29 Bydded i bobloedd dy wasanaethu di, ac i genhedloedd ymgrymu o'th flaen; bydd yn Arglwydd ar dy frodyr, ac ymgrymed meibion dy fam iti. Bydded melltith ar y rhai sy'n dy felltithio, a bendith ar y rhai sy'n dy fendithio." 30 Wedi i Isaac orffen bendithio Jacob, a Jacob ond prin wedi mynd allan o u373?ydd ei dad Isaac, daeth ei frawd Esau i mewn o'i hela. 31 Gwnaeth yntau luniaeth blasus, a mynd ag ef i'w dad, a dweud wrtho, "Cod, fy nhad, a bwyta o helfa dy fab, a bendithia fi." 32 Gofynnodd ei dad Isaac iddo, "Pwy wyt ti?" Atebodd yntau, "Dy fab Esau, dy gyntafanedig, wyf fi." 33 Yna cyffr�dd Isaac yn ddirfawr, a dywedodd, "Pwy ynteu a heliodd fwyd a'i ddwyn ataf, a minnau'n bwyta'r cwbl cyn iti ddod, ac yn rhoi'r fendith iddo ef? Ac yn wir, bendigedig fydd ef." 34 Pan glywodd Esau eiriau ei dad, gwaeddodd yn uchel a chwerw, a dweud wrth ei dad, "Bendithia fi, finnau hefyd, fy nhad." 35 Ond dywedodd ef, "Y mae dy frawd wedi dod trwy dwyll, a chymryd dy fendith." 36 Ac meddai Esau, "Onid Jacob yw'r enw priodol arno? Y mae wedi fy nisodli ddwywaith: dygodd fy ngenedigaeth-fraint, a dyma ef yn awr wedi dwyn fy mendith." Yna dywedodd, "Onid oes gennyt fendith ar �l i minnau?" 37 Atebodd Isaac a dweud wrth Esau, "Yr wyf wedi ei wneud ef yn arglwydd arnat, a rhoi ei holl berthnasau yn weision iddo, ac u375?d a gwin i'w gynnal. Beth, felly, a allaf ei wneud i ti, fy mab?" 38 A dywedodd Esau wrth ei dad, "Ai yr un fendith hon yn unig sydd gennyt, fy nhad? Bendithia fi, finnau hefyd, fy nhad." A chododd Esau ei lais ac wylo. 39 Yna atebodd ei dad Isaac a dweud wrtho: "Wele, bydd dy gartref heb fraster daear, a heb wlith y nef oddi uchod. 40 Wrth dy gleddyf y byddi fyw, ac fe wasanaethi dy frawd; ond pan ddoi'n rhydd, fe dorri ei iau oddi ar dy wddf." 41 A chasaodd Esau Jacob o achos y fendith yr oedd ei dad wedi ei rhoi iddo, a dywedodd Esau wrtho'i hun, "Daw yn amser i alaru am fy nhad cyn hir; yna lladdaf fy mrawd Jacob." 42 Ond cafodd Rebeca wybod am eiriau Esau ei mab hynaf; anfonodd hithau a galw am Jacob ei mab ieuengaf, a dweud wrtho, "Edrych, y mae dy frawd Esau yn ei gysuro ei hun wrth feddwl am dy ladd. 43 Yn awr, fy mab, gwrando arnaf; cod, a ffo i Haran at fy mrawd Laban, 44 ac aros dros dro gydag ef, nes bod llid dy frawd wedi cilio. 45 Yna pan fydd dicter dy frawd wedi cilio, ac yntau wedi anghofio'r hyn a wnaethost, mi anfonaf i'th gyrchu oddi yno. Pam y caf fy amddifadu ohonoch eich dau mewn un diwrnod?" 46 Dywedodd Rebeca wrth Isaac, "Yr wyf wedi blino byw o achos merched yr Hethiaid. Os prioda Jacob wraig o blith merched yr Hethiaid fel un o'r rhain, sef un o ferched y wlad, i beth y byddaf fyw?"