Welsh

Genesis

35

1 Dywedodd Duw wrth Jacob, "Cod, dos i fyny i Fethel, ac aros yno; a gwna yno allor i'r Duw a ymddangosodd iti pan oeddit yn ffoi rhag dy frawd Esau." 2 Yna dywedodd Jacob wrth ei deulu a phawb oedd gydag ef, "Bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich mysg, ac ymlanhau, a newid eich dillad. 3 Codwn ac awn i fyny i Fethel, er mwyn imi wneud allor yno i'r Duw a'm gwrandawodd yn nydd fy nghyfyngder, ac a fu gyda mi ar fy nhaith." 4 Felly rhoesant i Jacob yr holl dduwiau dieithr oedd yn eu meddiant a'r modrwyau oedd yn eu clustiau, a chuddiodd Jacob hwy dan y dderwen ger Sichem. 5 Fel yr oeddent yn teithio, daeth arswyd mawr ar y dinasoedd o amgylch, fel na fu iddynt ymlid meibion Jacob. 6 A daeth Jacob a'r holl bobl oedd gydag ef i Lus, hynny yw Bethel, yng ngwlad Canaan, 7 ac adeiladodd allor yno, ac enwi'r lle El-bethel, am mai yno yr ymddangosodd Duw iddo pan oedd yn ffoi rhag ei frawd. 8 A bu farw Debora, mamaeth Rebeca, a chladdwyd hi dan dderwen islaw Bethel; ac enwyd honno Alon-bacuth. 9 Ymddangosodd Duw eto i Jacob, ar �l iddo ddod o Padan Aram, a'i fendithio. 10 Dywedodd Duw wrtho, "Jacob yw dy enw, ond nid Jacob y gelwir di o hyn allan; Israel fydd dy enw." Ac enwyd ef Israel. 11 A dywedodd Duw wrtho, "Myfi yw Duw Hollalluog. Bydd ffrwythlon ac amlha; daw ohonot genedl a chynulliad o genhedloedd, a daw brenhinoedd o'th lwynau. 12 Rhof i ti y wlad a roddais i Abraham ac Isaac, a bydd y wlad i'th hil ar dy �l." 13 Yna aeth Duw i fyny o'r man lle bu'n llefaru wrtho. 14 A gosododd Jacob golofn, sef colofn garreg, yn y lle y llefarodd wrtho; tywalltodd arni ddiodoffrwm, ac arllwys olew arni. 15 Felly enwodd Jacob y lle y llefarodd Duw wrtho, Bethel. 16 Yna aethant o Fethel. Pan oedd eto beth ffordd o Effrath, esgorodd Rachel, a bu'n galed arni wrth esgor. 17 A phan oedd yn ei gwewyr, dywedodd y fydwraig wrthi, "Paid ag ofni, oherwydd mab arall sydd gennyt." 18 Ac fel yr oedd yn gwanychu wrth farw, rhoes iddo'r enw Ben-oni; ond galwodd ei dad ef Benjamin. 19 Yna bu farw Rachel, a chladdwyd hi ar y ffordd i Effrath, hynny yw Bethlehem, 20 a gosododd Jacob golofn ar ei bedd; hon yw colofn bedd Rachel, sydd yno hyd heddiw. 21 Teithiodd Israel yn ei flaen, a gosod ei babell y tu draw i Migdal-eder. 22 Tra oedd Israel yn byw yn y wlad honno, aeth Reuben a gorwedd gyda Bilha gwraig ordderch ei dad; a chlywodd Israel am hyn. Yr oedd deuddeg o feibion gan Jacob. 23 Meibion Lea: Reuben cyntafanedig Jacob, Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon. 24 Meibion Rachel: Joseff a Benjamin. 25 Meibion Bilha morwyn Rachel: Dan a Nafftali. 26 Meibion Silpa morwyn Lea: Gad ac Aser. Dyma'r meibion a anwyd iddo yn Padan Aram. 27 Daeth Jacob at ei dad Isaac i Mamre, neu Ciriath-arba, hynny yw Hebron, lle bu Abraham ac Isaac yn aros dros dro. 28 Cant a phedwar ugain oedd oed Isaac. 29 Yna anadlodd Isaac ei anadl olaf, a bu farw, a'i gasglu at ei bobl yn hen ac oedrannus. Claddwyd ef gan ei feibion Esau a Jacob.