Welsh

Genesis

4

1 Cafodd Adda gyfathrach �'i wraig Efa, a beichiogodd ac esgor ar Cain, a dywedodd, "Dygais u373?r trwy yr ARGLWYDD." 2 Esgorodd wedyn ar ei frawd Abel. Bugail defaid oedd Abel, a Cain yn trin y tir. 3 Ymhen amser daeth Cain ag offrwm o gynnyrch y tir i'r ARGLWYDD, 4 a daeth Abel yntau � blaenffrwyth ei ddefaid, sef eu braster. 5 Edrychodd yr ARGLWYDD yn ffafriol ar Abel a'i offrwm, ond nid felly ar Cain a'i offrwm. Digiodd Cain yn ddirfawr, a bu'n wynepdrist. 6 Ac meddai'r ARGLWYDD wrth Cain, "Pam yr wyt wedi digio? Pam yr wyt yn wynepdrist? 7 Os gwnei yn dda, oni fyddi'n gymeradwy? Ac oni wnei yn dda, y mae pechod yn llercian wrth y drws; y mae ei wanc amdanat, ond rhaid i ti ei drechu." 8 A dywedodd Cain wrth Abel ei frawd, "Gad inni fynd i'r maes." A phan oeddent yn y maes, troes Cain ar Abel ei frawd, a'i ladd. 9 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Cain, "Ble mae dy frawd Abel?" Meddai yntau, "Ni wn i. Ai fi yw ceidwad fy mrawd?" 10 A dywedodd Duw, "Beth wyt wedi ei wneud? Y mae llef gwaed dy frawd yn gweiddi arnaf o'r pridd. 11 Yn awr, melltigedig fyddi gan y pridd a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o'th law. 12 Pan fyddi'n trin y pridd, ni fydd mwyach yn rhoi ei ffrwyth iti; ffoadur a chrwydryn fyddi ar y ddaear." 13 Yna meddai Cain wrth yr ARGLWYDD, "Y mae fy nghosb yn ormod i'w dwyn. 14 Dyma ti heddiw yn fy ngyrru ymaith o'r tir, ac fe'm cuddir o'th u373?ydd; ffoadur a chrwydryn fyddaf ar y ddaear, a bydd pwy bynnag a ddaw ar fy nhraws yn fy lladd." 15 Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Nid felly; os bydd i rywun ladd Cain, dielir arno seithwaith." A gosododd yr ARGLWYDD nod ar Cain, rhag i neb a dd�i ar ei draws ei ladd. 16 Yna aeth Cain ymaith o u373?ydd yr ARGLWYDD, a phreswylio yn nhir Nod, i'r dwyrain o Eden. 17 Cafodd Cain gyfathrach �'i wraig, a beichiogodd ac esgor ar Enoch; ac adeiladodd ddinas, a'i galw ar �l ei fab, Enoch. 18 Ac i Enoch ganwyd Irad; Irad oedd tad Mehwiael, Mehwiael oedd tad Methwsael, a Methwsael oedd tad Lamech. 19 Cymerodd Lamech ddwy wraig; Ada oedd enw'r gyntaf, a Sila oedd enw'r ail. 20 Esgorodd Ada ar Jabal; ef oedd tad pob preswylydd pabell a pherchen anifail. 21 Enw ei frawd oedd Jwbal; ef oedd tad pob canwr telyn a phib. 22 Esgorodd Sila, y wraig arall, ar Twbal-Cain, cyfarwyddwr pob un sy'n gwneud cywreinwaith pres a haearn. Naama oedd chwaer Twbal-Cain. 23 A dywedodd Lamech wrth ei wragedd: "Ada a Sila, clywch fy llais; chwi wragedd Lamech, gwrandewch fy lleferydd; lleddais u373?r am fy archolli, a llanc am fy nghleisio. 24 Os dielir am Cain seithwaith, yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith." 25 Cafodd Adda gyfathrach �'i wraig eto, ac esgorodd ar fab, a'i alw'n Seth, a dweud, "Darparodd Duw i mi fab arall yn lle Abel, am i Cain ei ladd." 26 I Seth hefyd fe anwyd mab, a galwodd ef yn Enos. Yr amser hwnnw y dechreuwyd galw ar enw yr ARGLWYDD.