1 Gan hynny, gyfeillion sanctaidd, chwychwi sy'n cyfranogi o alwad nefol, ystyriwch Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni, sef Iesu, 2 a fu'n ffyddlon i'r hwn a'i penododd, fel y bu Moses hefyd yn ffyddlon yn holl du375? Dduw. 3 Oherwydd y mae Iesu wedi ei gyfrif yn deilwng o ogoniant mwy na Moses, yn gymaint � bod adeiladydd tu375? yn derbyn mwy o anrhydedd na'r tu375?. 4 Y mae pob tu375? yn cael ei adeiladu gan rywun, ond Duw yw adeiladydd pob peth. 5 Bu Moses yn ffyddlon yn holl du375? Dduw fel gwas, i ddwyn tystiolaeth i'r pethau yr oedd Duw yn mynd i'w llefaru; 6 ond y mae Crist yn ffyddlon fel Mab sydd � rheolaeth ar du375? Dduw. A ni yw ei du375? ef, os daliwn ein gafael yn y gobaith yr ydym yn hyderu ac yn ymffrostio ynddo. 7 Gan hynny, fel y mae'r Ysbryd Gl�n yn dweud: "Heddiw, os gwrandewch ar ei lais, 8 peidiwch � chaledu'ch calonnau fel yn y gwrthryfel, yn nydd y profi yn yr anialwch, 9 lle y gosododd eich hynafiaid fi ar brawf, a'm profi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd am ddeugain mlynedd. 10 Dyna pam y digiais wrth y genhedlaeth honno, a dweud, 'Y maent yn wastad yn cyfeiliorni yn eu calonnau, ac nid ydynt yn gwybod fy ffyrdd.' 11 Felly tyngais yn fy nig, 'Ni ch�nt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa.'" 12 Gwyliwch, gyfeillion, na fydd yn neb ohonoch byth galon ddrwg anghrediniol, i beri iddo gefnu ar y Duw byw. 13 Yn hytrach, calonogwch eich gilydd bob dydd, tra gelwir hi'n "heddiw", rhag i neb ohonoch gael ei galedu gan dwyll pechod. 14 Oherwydd yr ydym ni bellach yn gydgyfranogion � Christ, os glynwn yn dynn hyd y diwedd wrth ein hyder cyntaf. 15 Dyma'r hyn y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud: "Heddiw, os gwrandewch ar ei lais, peidiwch � chaledu'ch calonnau fel yn y gwrthryfel." 16 Pwy, felly, a glywodd, ac a wrthryfelodd wedyn? Onid pawb oedd wedi dod allan o'r Aifft dan arweiniad Moses? 17 Ac wrth bwy y digiodd ef am ddeugain mlynedd? Onid wrth y rhai a bechodd, y rhai y syrthiodd eu cyrff yn farw yn yr anialwch? 18 Wrth bwy y tyngodd na chaent fyth ddod i mewn i'w orffwysfa, os nad wrth y rhai a fu'n anufudd? 19 Ac yr ydym yn gweld mai o achos anghrediniaeth y methasant ddod i mewn.