1 O blith dynion y bydd pob archoffeiriad yn cael ei ddewis, ac ar ran pobl feidrol y caiff ei benodi i'w cynrychioli mewn materion yn ymwneud � Duw, i offrymu rhoddion ac aberthau dros bechodau. 2 Y mae'n gallu cydymddwyn �'r rhai anwybodus a chyfeiliornus, gan ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu � gwendid; 3 ac oherwydd y gwendid hwn, rhaid iddo offrymu dros bechodau ar ei ran ei hun, fel ar ran y bobl. 4 Nid oes neb yn cymryd yr anrhydedd iddo'i hun; Duw sydd yn ei alw, fel y galwodd Aaron. 5 Felly hefyd gyda Christ. Nid ei ogoneddu ei hun i fod yn archoffeiriad a wnaeth, ond Duw a ddywedodd wrtho: "Fy Mab wyt ti, myfi a'th genhedlodd di heddiw." 6 Fel y mae'n dweud mewn lle arall hefyd: "Yr wyt ti'n offeiriad am byth yn �l urdd Melchisedec." 7 Yn nyddiau ei gnawd, fe offrymodd Iesu wedd�au ac erfyniadau, gyda llef uchel a dagrau, i'r Un oedd yn abl i'w achub rhag marwolaeth, ac fe gafodd ei wrando o achos ei barchedig ofn. 8 Er mai Mab ydoedd, dysgodd ufudd-dod drwy'r hyn a ddioddefodd, 9 ac wedi ei berffeithio, daeth yn ffynhonnell iachawdwriaeth dragwyddol i bawb sydd yn ufuddhau iddo, 10 wedi ei enwi gan Dduw yn archoffeiriad yn �l urdd Melchisedec. 11 Am Melchisedec y mae gennym lawer i'w ddweud sydd yn anodd ei egluro, oherwydd eich bod chwi wedi mynd yn araf i ddeall. 12 Yn wir, er y dylech erbyn hyn fod yn athrawon, y mae arnoch angen rhywun i ailddysgu ichwi elfennau cyntaf oraclau Duw; angen llaeth sydd arnoch chwi, ac nid bwyd cryf. 13 Nid oes gan y sawl sy'n byw ar laeth ddim profiad o egwyddor cyfiawnder, am mai baban ydyw. 14 Pobl wedi cyrraedd eu llawn dwf sy'n cymryd bwyd cryf; y mae eu synhwyrau hwy, trwy ymarfer, wedi eu disgyblu i farnu rhwng da a drwg.