1 "Pan oedd Israel yn fachgen fe'i cerais, ac o'r Aifft y gelwais fy mab. 2 Fel y galwn arnynt, aent ymaith oddi wrthyf; aberthent i Baal ac arogldarthu i eilunod. 3 "Myfi a fu'n dysgu Effraim i gerdded, a'u cymryd erbyn eu breichiau; ond ni fynnent gydnabod i mi eu hiach�u. 4 Tywysais hwy � rheffynnau caredig ac � rhwymau cariad; b�m iddynt fel un yn codi'r iau, yn llacio'r ffrwyn, ac yn plygu atynt i'w porthi. 5 "Ni ddychwelant i wlad yr Aifft, ond Asyria fydd yn frenin arnynt, am iddynt wrthod dychwelyd ataf. 6 Chwyrl�a cleddyf yn erbyn eu dinasoedd, a difa byst eu pyrth a'u difetha am eu cynllwynion. 7 Y mae fy mhobl yn mynnu cilio oddi wrthyf; er iddynt alw ar dduw goruchel, ni fydd yn eu dyrchafu o gwbl. 8 "Pa fodd y'th roddaf i fyny, Effraim, a'th roi ymaith, Israel? Pa fodd y'th wnaf fel Adma, a'th osod fel Seboim? Newidiodd fy meddwl ynof; enynnodd fy nhosturi hefyd. 9 Ni chyflawnaf angerdd fy llid, ni ddinistriaf Effraim eto; canys Duw wyf fi, ac nid meidrolyn, y Sanct yn dy ganol; ac ni ddof i ddinistrio. 10 "�nt ar �l yr ARGLWYDD; fe rua fel llew. Pan rua ef, daw ei blant dan grynu o'r gorllewin; 11 d�nt dan grynu fel aderyn o'r Aifft, ac fel colomen o wlad Asyria, a gosodaf hwy eto yn eu cartrefi," medd yr ARGLWYDD. 12 Amgylchodd Effraim fi � chelwydd, a thu375? Israel � thwyll; ond y mae Jwda'n ymwneud � Duw, ac yn ffyddlon i'r Sanct.