1 Dychwel, Israel at yr ARGLWYDD dy Dduw, canys syrthiaist oherwydd dy ddrygioni. 2 Cymerwch eiriau gyda chwi, a dychwelwch at yr ARGLWYDD; dywedwch wrtho, "Maddau'r holl ddrygioni, derbyn ddaioni, a rhown i ti ffrwyth ein gwefusau. 3 Ni all Asyria ein hachub, ac ni farchogwn ar geffylau; ac wrth waith ein dwylo ni ddywedwn eto, 'Ein Duw'. Ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd." 4 "Iach�f eu hanffyddlondeb; fe'u caraf o'm bodd, oherwydd trodd fy llid oddi wrthynt. 5 Byddaf fel gwlith i Israel; blodeua fel lili a lleda'i wraidd fel pren poplys. 6 Lleda'i flagur, a bydd ei brydferthwch fel yr olewydden, a'i arogl fel Lebanon. 7 Dychwelant a thrigo yn fy nghysgod; cynhyrchant u375?d, ffrwythant fel y winwydden, bydd eu harogl fel gwin Lebanon. 8 "Beth sydd a wnelo Effraim mwy ag eilunod? Myfi sydd yn ei ateb ac yn ei arwain yn gywir. Yr wyf fi fel cypreswydden ddeiliog; oddi wrthyf y daw dy ffrwyth." 9 Pwy bynnag sydd ddoeth, dealled hyn; pwy bynnag sydd ddeallgar, gwybydded. Oherwydd y mae ffyrdd yr ARGLWYDD yn gywir; rhodia'r cyfiawn ynddynt, ond meglir y drygionus ynddynt.