Welsh

Isaiah

17

1 Yr oracl am Ddamascus: "Wele fe beidia Damascus � bod yn ddinas; bydd yn bentwr o adfeilion. 2 Gwrthodir ei dinasoedd am byth, a byddant yn lle i ddiadelloedd orwedd ynddo heb neb i'w cyffroi. 3 Derfydd am y gaer yn Effraim, ac am y frenhiniaeth yn Namascus; bydd gweddill Syria fel gogoniant Israel," medd ARGLWYDD y Lluoedd. 4 "Ac yn y dydd hwnnw, bydd gogoniant Jacob yn cilio a braster ei gig yn darfod. 5 Pan fydd medelwr yn casglu'r cnwd u375?d, ac yn medi'r tywysennau �'i fraich, bydd fel lloffa tywysennau yn nyffryn Reffaim. 6 Ac ni chaiff ond gweddillion wrth guro'r olewydd, dim ond dau ffrwyth neu dri ar flaen y brigau, pedwar neu bump o ffrwythau ar ganghennau'r coed," medd yr ARGLWYDD, Duw Israel. 7 Yn y dydd hwnnw fe edrych pobl at eu Gwneuthurwr, a throi eu golwg at Sanct Israel. 8 Nid edrychant at yr allorau, gwaith eu dwylo, nac ychwaith at yr hyn a wnaeth eu bysedd � y pyst cysegredig a'r allorau arogldarthu. 9 Yn y dydd hwnnw y gadewir eu dinasoedd cadarn fel adfeilion dinasoedd yr Hefiaid a'r Amoriaid, a adawyd o achos yr Israeliaid; a byddant yn ddiffaith. 10 Oherwydd anghofiaist y Duw a'th achubodd; ni chofiaist graig dy gadernid; am hynny, er i ti blannu planhigion hyfryd a gosod impyn estron, 11 a'u cael i dyfu ar y dydd y plennaist hwy ac i flodeuo yn y bore yr heuaist hwy, bydd y cnwd wedi crino mewn dydd o ofid a gwendid nychlyd. 12 Och! Twrf pobloedd lawer yn taranu fel tonnau'r m�r; y mae rhuad y bobloedd fel rhuad dyfroedd cryfion. 13 Er bod y bobloedd yn rhuo fel rhuad dyfroedd mawrion, pan geryddir hwy, fe ffoant ymhell; erlidir hwy fel peiswyn ar fynydd o flaen y gwynt, fel plu ysgall o flaen corwynt. 14 Tua'r hwyrddydd wele drallod; cyn y bore aeth y cyfan. Dyma dynged ein hysbeilwyr, dyma ran ein rheibwyr.