Welsh

Isaiah

3

1 Wele, y mae'r Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd, yn symud ymaith o Jerwsalem a Jwda y gynhaliaeth a'r ffon � yr holl gynhaliaeth o fara ac o ddu373?r � 2 y gu373?r cadarn, y rhyfelwr, y barnwr a'r proffwyd, y dewinwr a'r henadur, 3 y capten a'r swyddog, y cynghorwr a'r swynwr celfydd, a'r sawl sy'n deall hudoliaeth. 4 Gosodaf fechgyn yn swyddogion arnynt a phlantos i'w rheoli; 5 a bydd y bobl yn gorthrymu ei gilydd, a phob un ei gymydog; bydd y llanc yn drahaus yn erbyn yr henwr, yn y parchus. 6 Pan gaiff rhywun afael ar ei frawd yn nhu375? ei dad, fe ddywed, "Y mae gennyt ti glogyn; bydd di'n bennaeth arnom; bydded y pentwr hwn o garnedd dan dy awdurdod di." 7 Ond yn y dydd hwnnw fe etyb, "Na, ni allaf fod yn arweinydd arnoch. Nid oes bara yn fy nhu375?, na chlogyn ychwaith; ni chewch fy ngosod i yn bennaeth y tylwyth." 8 Cwympodd Jerwsalem, syrthiodd Jwda; y mae eu geiriau a'u gweithredoedd yn erbyn yr ARGLWYDD, yn herio ei fawrhydi. 9 Y mae'r olwg ar eu hwynebau yn tystio yn eu herbyn, ac y maent yn cyhoeddi eu pechodau fel Sodom. Gwae hwy! Y maent yn dwyn drwg arnynt eu hunain. 10 Dywedwch y bydd yn dda ar y cyfiawn, canys c�nt fwyta ffrwyth eu gweithredoedd. 11 Gwae'r anwir! Bydd yn ddrwg arno, canys fe gaiff yr hyn a haedda. 12 Plant sy'n gorthrymu fy mhobl, a gwragedd sy'n eu rheoli. O fy mhobl, y mae dy arweinwyr yn dy gamarwain, ac yn drysu trywydd dy lwybrau. 13 Y mae'r ARGLWYDD yn sefyll i ddadlau ei achos, ac yn barod i farnu ei bobl. 14 Y mae'r ARGLWYDD yn dod i farn yn erbyn henuriaid y bobl a'u swyddogion: "Yr ydych wedi lloffa'r winllan yn llwyr; y mae cyfran y tlawd yn eich tai. 15 Beth yw eich meddwl, yn ysigo fy mhobl ac yn mathru wyneb y tlawd?" medd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd. 16 Dywedodd yr ARGLWYDD, "Oherwydd i ferched Seion dorsythu, a cherdded o amgylch �'u gyddfau'n ymestyn allan, a'u llygaid yn cilwenu, a'u camau'n fursennaidd, a rhodio � fferledau am eu traed, 17 bydd yr ARGLWYDD yn rhoi clafr ar gorun merched Seion, bydd yr ARGLWYDD yn dinoethi eu gwarthle hwy." 18 Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn symud ymaith bob addurn � y fferledau, y coronigau, y cilgantiau, 19 y clustlysau, y breichledau, y gorchuddion, 20 y penwisgoedd, y cadwyni, y gwregys, y blychau perarogl, y m�n swyndlysau; 21 y fodrwy-s�l, y fodrwy trwyn; 22 y gwisgoedd hardd, y fantell, y glog a'r pyrsau; 23 y gwisgoedd sidan a'r gwisgoedd lliain, y twrban a'r gorchudd wyneb. 24 Yn lle perarogl bydd drewdod, yn lle gwregys bydd rhaff; yn lle tresi o wallt bydd moelni, yn lle mantell bydd sachliain, yn lle prydferthwch bydd marc llosg. 25 Syrth dy wu375?r gan gleddyf, a'th wu375?r nerthol mewn rhyfel; 26 bydd pyrth y ddinas yn gofidio a galaru, a hithau wedi ei gadael yn unig, yn eistedd ar y llawr.