1 Cysurwch, cysurwch fy mhobl � dyna a ddywed eich Duw. 2 Siaradwch yn dyner wrth Jerwsalem, a dywedwch wrthi ei bod wedi cwblhau ei thymor gwasanaeth a bod ei chosb wedi ei thalu, ei bod wedi derbyn yn ddwbl oddi ar law'r ARGLWYDD am ei holl bechodau. 3 Llais un yn galw, "Paratowch yn yr anialwch ffordd yr ARGLWYDD, unionwch yn y diffeithwch briffordd i'n Duw ni. 4 Caiff pob pant ei godi, pob mynydd a bryn ei ostwng; gwneir y tir ysgythrog yn llyfn, a'r tir anwastad yn wastadedd. 5 Datguddir gogoniant yr ARGLWYDD, a phawb ynghyd yn ei weld. Genau'r ARGLWYDD a lefarodd." 6 Llais un yn dweud, "Galw"; a daw'r ateb, "Beth a alwaf? Y mae pob un meidrol fel glaswellt, a'i holl nerth fel blodeuyn y maes. 7 Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo pan chwyth anadl yr ARGLWYDD arno. Yn wir, glaswellt yw'r bobl. 8 Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo; ond y mae gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth." 9 Dring i fynydd uchel; ti, Seion, sy'n cyhoeddi newyddion da, cod dy lais yn gryf; ti, Jerwsalem, sy'n cyhoeddi newyddion da, gwaedda, paid ag ofni. Dywed wrth ddinasoedd Jwda, "Dyma eich Duw chwi." 10 Wele'r Arglwydd DDUW yn dod mewn nerth, yn rheoli �'i fraich. Wele, y mae ei wobr ganddo, a'i d�l gydag ef. 11 Y mae'n porthi ei braidd fel bugail, ac �'i fraich yn eu casglu ynghyd; y mae'n cludo'r u373?yn yn ei g�l, ac yn coleddu'r mamogiaid. 12 Pwy a fesurodd y dyfroedd yng nghledr ei law, a gosod terfyn y nefoedd �'i rychwant? Pwy a roes holl bridd y ddaear mewn mantol, a phwyso'r mynyddoedd mewn tafol, a'r bryniau mewn clorian? 13 Pwy a gyfarwydda ysbryd yr ARGLWYDD, a bod yn gynghorwr i'w ddysgu? 14 � phwy yr ymgynghora ef i ennill deall, a phwy a ddysg iddo lwybrau barn? Pwy a ddysg iddo wybodaeth, a'i gyfarwyddo yn llwybrau deall? 15 Y mae'r cenhedloedd fel defnyn allan o gelwrn, i'w hystyried fel m�n lwch y cloriannau; y mae'r ynysoedd mor ddibwys �'r llwch ar y llawr. 16 Nid oes yn Lebanon ddigon o goed i roi tanwydd, na digon o anifeiliaid ar gyfer poethoffrwm. 17 Nid yw'r holl genhedloedd yn ddim ger ei fron ef; y maent yn llai na dim, ac i'w hystyried yn ddiddim. 18 I bwy, ynteu, y cyffelybwch Dduw? Pa lun a dynnwch ohono? 19 Ai delw? Crefftwr sy'n llunio honno, ac eurych yn ei goreuro ac yn gwneud cadwyni arian iddi. 20 Y mae un sy'n rhy dlawd i wneud hynny yn dewis darn o bren na phydra, ac yn ceisio crefftwr cywrain i'w osod i fyny'n ddelw na ellir ei syflyd. 21 Oni wyddoch? Oni chlywsoch? Oni fynegwyd i chwi o'r dechreuad? Onid ydych wedi amgyffred er sylfaenu'r ddaear? 22 Y mae ef yn eistedd ar gromen y ddaear, a'i thrigolion yn ymddangos fel locustiaid. Y mae'n taenu'r nefoedd fel llen, ac yn ei lledu fel pabell i drigo ynddi. 23 Y mae'n gwneud y mawrion yn ddiddim, a rheolwyr y ddaear yn dryblith. 24 Prin eu bod wedi eu plannu na'u hau, prin bod eu gwraidd wedi cydio yn y pridd, nag y bydd ef yn chwythu arnynt, a hwythau'n gwywo, a chorwynt yn eu dwyn ymaith fel us. 25 "I bwy, ynteu, y cyffelybwch fi? Tebyg i bwy?" meddai'r Sanct. 26 Codwch eich llygaid i fyny; edrychwch, pwy a fu'n creu'r pethau hyn? Pwy a fu'n galw allan eu llu fesul un ac yn rhoi enw i bob un ohonynt? Gan faint ei nerth, a'i fod mor eithriadol gryf, nid oes yr un ar �l. 27 Pam y dywedi, O Jacob, ac y lleferi, O Israel, "Cuddiwyd fy nghyflwr oddi wrth yr ARGLWYDD, ac aeth fy hawliau o olwg fy Nuw"? 28 Oni wyddost, oni chlywaist? Duw tragwyddol yw'r ARGLWYDD a greodd gyrrau'r ddaear; ni ddiffygia ac ni flina, ac y mae ei ddeall yn anchwiliadwy. 29 Y mae'n rhoi nerth i'r diffygiol, ac yn ychwanegu cryfder i'r di�rym. 30 Y mae'r ifainc yn diffygio ac yn blino, a'r cryfion yn syrthio'n llipa; 31 ond y mae'r rhai sy'n disgwyl wrth yr ARGLWYDD yn adennill eu nerth; y maent yn magu adenydd fel eryr, yn rhedeg heb flino, ac yn rhodio heb ddiffygio.