Welsh

Isaiah

42

1 "Dyma fy ngwas, yr wyf yn ei gynnal, f'etholedig, yr wyf yn ymhyfrydu ynddo. Rhoddais fy ysbryd ynddo, i gyhoeddi barn i'r cenhedloedd. 2 Ni fydd yn gweiddi nac yn codi ei lais, na pheri ei glywed yn yr heol. 3 Ni fydd yn dryllio corsen ysig, nac yn diffodd llin yn mygu; bydd yn cyhoeddi barn gywir. 4 Ni fydd yn diffodd, ac ni chaiff ei ddryllio, nes iddo osod barn ar y ddaear; y mae'r ynysoedd yn disgwyl am ei gyfraith." 5 Fel hyn y dywed Duw, yr ARGLWYDD, a greodd y nefoedd a'i thaenu allan, a luniodd y ddaear a'i chynnyrch, a roddodd anadl i'r bobl sydd arni, ac ysbryd i'r rhai sy'n rhodio ynddi: 6 "Myfi yw'r ARGLWYDD; gelwais di mewn cyfiawnder, a gafael yn dy law; lluniais di a'th osod yn gyfamod pobl, yn oleuni cenhedloedd; 7 i agor llygaid y deillion, i arwain caethion allan o'r carchar, a'r rhai sy'n byw mewn tywyllwch o'u cell. 8 Myfi yw'r ARGLWYDD, dyna fy enw; ni roddaf fy ngogoniant i neb arall, na'm clod i ddelwau cerfiedig. 9 Wele, y mae'r pethau cyntaf wedi digwydd, a mynegaf yn awr bethau newydd; cyn iddynt darddu 'rwy'n eu hysbysu ichwi." 10 Canwch i'r ARGLWYDD g�n newydd, canwch ei glod o eithaf y ddaear; bydded i'r m�r a'i gyflawnder ei ganmol, yr ynysoedd a'r rhai sy'n trigo ynddynt. 11 Bydded i'r diffeithwch a'i ddinasoedd godi llef, y pentrefi lle mae Cedar yn trigo; bydded i drigolion Sela ganu a bloeddio o ben y mynyddoedd. 12 Bydded iddynt roi clod i'r ARGLWYDD, a mynegi ei fawl yn yr ynysoedd. 13 Y mae'r ARGLWYDD yn mynd allan fel arwr, fel rhyfelwr yn cyffroi mewn llid; y mae'n bloeddio, yn codi ei lais, ac yn trechu ei elynion. 14 "B�m dawel dros amser hir, yn ddistaw, ac yn ymatal; yn awr llefaf fel gwraig yn esgor, a gwingo a griddfan. 15 Gwnaf fynyddoedd a bryniau yn ddiffaith, a pheri i'w holl lysiau gleision wywo; gwnaf afonydd yn ynysoedd, a llynnau yn sychdir. 16 Yna arweiniaf y deillion ar hyd ffordd ddieithr, a'u tywys mewn llwybrau nad adnabuant; paraf i'r tywyllwch fod yn oleuni o'u blaen, ac unionaf ffyrdd troellog. Dyma a wnaf iddynt, ac ni adawaf hwy. 17 Ond cilio mewn cywilydd a wna'r rhai sy'n ymddiried mewn eilunod ac yn dweud wrth ddelwau tawdd, 'Chwi yw ein duwiau ni.' 18 "Chwi sy'n fyddar, clywch; chwi sy'n ddall, edrychwch a gwelwch. 19 'Does neb mor ddall �'m gwas, nac mor fyddar �'r negesydd a anfonaf; 'does neb mor ddall �'r un ymroddedig, mor ddall � gwas yr ARGLWYDD. 20 Er iddo weld llawer, nid yw'n eu hystyried; er bod ei glustiau'n agored, nid yw'n gwrando." 21 Dymunodd yr ARGLWYDD, er mwyn ei gyfiawnder, fawrhau'r gyfraith, a'i gwneud yn anrhydeddus; 22 ond ysbeiliwyd ac anrheithiwyd y bobl hyn; cawsant bawb eu dal mewn tyllau, a'u cuddio mewn celloedd, yn ysbail heb waredydd, yn anrhaith heb neb i ddweud, "Rho'n �l." 23 Pwy ohonoch a all wrando ar hyn, ac ystyried a gwrando i'r diwedd? 24 Pwy a wnaeth Jacob yn anrhaith, a rhoi Israel i'r ysbeilwyr? Onid yr ARGLWYDD, y pechasom yn ei erbyn? Nid oeddent am rodio yn ei ffyrdd na gwrando ar ei gyfraith; 25 felly tywalltodd ei lid a'i ddicter arnynt, a chynddaredd y frwydr. Caeodd y fflam amdano, ond ni ddysgodd ei wers; llosgodd, ond nid ystyriodd.