1 "Gwrandewch hyn, du375? Jacob, y rhai a elwir ar enw Israel, sy'n tarddu o had Jwda, sy'n tyngu yn enw'r ARGLWYDD ac yn galw ar Dduw Israel, heb fod yn onest na didwyll. 2 Galwant eu hunain yn bobl y ddinas sanctaidd, a phwyso ar Dduw Israel; ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw. 3 "Mynegais y pethau cyntaf erstalwm, eu cyhoeddi �'m genau fy hun a'u gwneud yn hysbys; ar drawiad gweithredais, a pheri iddynt ddigwydd. 4 Gwyddwn dy fod yn ystyfnig, a'th war fel gewyn haearn, a'th dalcen fel pres; 5 am hynny rhois wybod i ti erstalwm, a'th hysbysu cyn iddynt ddigwydd, rhag i ti ddweud, 'Fy nelw a'u gwnaeth, fy eilun a'm cerfddelw a'u trefnodd.' 6 Clywaist a gwelaist hyn i gyd; onid ydych am ei gydnabod? Ac yn awr 'rwyf am fynegi i chwi bethau newydd, pethau cudd na wyddoch ddim amdanynt. 7 Yn awr y cr�wyd hwy, ac nid erstalwm, ac ni chlywaist ddim amdanynt cyn heddiw, rhag i ti ddweud, ''Roeddwn i'n gwybod.' 8 Nid oeddit wedi clywed na gwybod; erstalwm 'roedd dy glust heb agor; oherwydd gwyddwn dy fod yn dwyllodrus i'r eithaf, ac iti o'r bru gael yr enw o fod yn droseddwr. 9 "Er mwyn fy enw ateliais fy llid, er mewn fy moliant ymateliais rhag dy ddifa. 10 Purais di, ond nid fel arian; profais di ym mhair cystudd. 11 Er fy mwyn fy hun y gwneuthum hyn; a g�nt halogi fy enw? Ni roddaf fy anrhydedd i arall. 12 "Clyw fi, Jacob, ac Israel, yr un a elwais: Myfi yw; myfi yw'r cyntaf, a'r olaf hefyd. 13 Fy llaw a sylfaenodd y ddaear, a'm deheulaw a daenodd y nefoedd; pan alwaf arnynt, ufuddh�nt ar unwaith. 14 "Dewch bawb at eich gilydd a gwrando; pwy ohonynt a fynegodd hyn? Yr un y mae'r ARGLWYDD yn ei hoffi fydd yn cyflawni ei fwriad ar Fabilon ac ar had y Caldeaid. 15 Myfi fy hun a lefarodd, myfi a'i galwodd; dygais ef allan, a llwyddo ei ffordd. 16 Dewch ataf, clywch hyn: o'r dechrau ni leferais yn ddirgel; o'r amser y digwyddodd, yr oeddwn i yno." Ac yn awr ysbryd yr Arglwydd DDUW a'm hanfonodd i. 17 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, dy Waredydd, Sanct Israel: "Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, sy'n dy ddysgu er dy les, ac yn dy arwain yn y ffordd y dylit ei cherdded. 18 Pe bait wedi gwrando ar fy ngorchymyn, byddai dy heddwch fel yr afon, a'th gyfiawnder fel tonnau'r m�r; 19 a byddai dy had fel y tywod, a'th epil fel ei raean, a'u henw heb ei dorri ymaith na'i ddileu o'm gu373?ydd." 20 Ewch allan o Fabilon, ffowch oddi wrth y Caldeaid; mynegwch hyn gyda bloedd gorfoledd, cyhoeddwch ef, a'i hysbysu hyd gyrrau'r ddaear; dywedwch, "Yr ARGLWYDD a waredodd ei was Jacob." 21 Nid oedd arnynt syched pan arweiniodd hwy yn y lleoedd anial; gwnaeth i ddu373?r lifo iddynt o'r graig; holltodd y graig a phistyllodd y du373?r. 22 "Nid oes llwyddiant i'r annuwiol," medd yr ARGLWYDD.