Welsh

Isaiah

62

1 Er mwyn Seion ni thawaf, er mwyn Jerwsalem ni fyddaf ddistaw, hyd oni ddisgleiria'i chyfiawnder yn llachar, a'i hiachawdwriaeth fel ffagl yn llosgi. 2 Bydd y cenhedloedd yn gweld dy gyfiawnder, a'r holl frenhinoedd dy ogoniant; gelwir arnat enw newydd, a roddir i ti o enau'r ARGLWYDD. 3 Byddi'n goron odidog yn llaw'r ARGLWYDD, ac yn dorch frenhinol yn llaw dy Dduw. 4 Ni'th enwir mwyach, Gwrthodedig, ac ni ddywedir drachefn am dy wlad, Anghyfannedd; eithr enwir di, Heffsiba, a'th wlad, Beula, oherwydd ymhyfryda'r ARGLWYDD ynot, a phriodir dy wlad. 5 Fel y bydd llanc yn priodi merch ifanc, bydd dy adeiladydd yn dy briodi di; fel y bydd priodfab yn llawen yn ei briod, felly y bydd dy Dduw yn llawen ynot ti. 6 Ar dy furiau di, O Jerwsalem, gosodais wylwyr nad ydynt yn tewi ddydd na nos; chwi sy'n galw ar yr ARGLWYDD, peidiwch � distewi, 7 na rhoi llonydd iddo, nes iddo sefydlu Jerwsalem, a'i gwneud yn destun moliant trwy'r byd. 8 Tyngodd yr ARGLWYDD i'w ddeheulaw ac i'w fraich nerthol, "Ni roddaf dy u375?d byth eto'n ymborth i'th elyn, ac ni chaiff dieithriaid yfed y gwin y llafuriaist amdano; 9 ond y rhai a'i casgla fydd yn bwyta, ac yn diolch i'r ARGLWYDD amdano; y rhai a'i cynnull fydd yn yfed oddi mewn i gynteddau fy nghysegr." 10 Ewch i mewn, ewch i mewn drwy'r pyrth, paratowch ffordd i'r bobloedd; codwch briffordd a symudwch y cerrig, dyrchafwch arwydd i'r bobloedd. 11 Clywch, cyhoeddodd yr ARGLWYDD i bellafoedd y ddaear, "Dywedwch wrth ferch Seion, 'Y mae dy achubydd yn dyfod; y mae ei wobr yn ei law, ac y mae ei d�l ganddo.'" 12 Fe'u gelwir hwy yn Bobl Sanctaidd, Gwaredigion yr ARGLWYDD, ac fe'th elwir di, Yr un a geisiwyd, Dinas nas gwrthodwyd.