Welsh

Isaiah

64

1 O na fuaset wedi rhwygo'r nefoedd, a dod i lawr, a'r mynyddoedd yn toddi o'th flaen, 2 fel t�n yn llosgi prysgwydd, fel du373?r yn berwi ar d�n, er mwyn i'th enw ddod yn hysbys i'th gaseion, ac i'r cenhedloedd grynu yn dy u373?ydd! 3 Pan wnaethost bethau ofnadwy heb i ni eu disgwyl, daethost i lawr, a thoddodd y mynyddoedd o'th flaen. 4 Ni chlywodd neb erioed, ni ddaliodd clust, ni chanfu llygad unrhyw Dduw ond tydi, a wn�i ddim dros y rhai sy'n disgwyl wrtho. 5 'Rwyt yn cyfarfod �'r rhai sy'n hoffi gwneud cyfiawnder, y rhai sy'n cofio am dy ffyrdd. Er dy fod yn digio pan oeddem ni'n pechu, eto 'roeddem yn dal i droseddu yn dy erbyn. 6 Aethom i gyd fel peth aflan, a'n holl gyfiawnderau fel clytiau budron; yr ydym i gyd wedi crino fel deilen, a'n camweddau yn ein chwythu i ffwrdd fel y gwynt. 7 Ac nid oes neb yn galw ar dy enw, nac yn trafferthu i afael ynot; cuddiaist dy wyneb oddi wrthym, a'n traddodi i afael ein camweddau. 8 Ond tydi, O ARGLWYDD, yw ein tad; ni yw'r clai a thi yw'r crochenydd; gwaith dy ddwylo ydym i gyd. 9 Paid � digio'n llwyr, ARGLWYDD, na chofio camwedd am byth. Edrych, yn awr, dy bobl ydym ni i gyd. 10 Aeth dy ddinasoedd sanctaidd yn anialwch; y mae Seion yn anialwch a Jerwsalem yn anghyfannedd. 11 Y mae ein tu375? sanctaidd a hardd, lle y byddai'n hynafiaid yn dy foliannu, wedi mynd yn lludw, a phob peth annwyl gennym yn anrhaith. 12 A ymateli di, ARGLWYDD, oherwydd y pethau hyn? A dewi di, a'n cystuddio'n llwyr?