Welsh

James

5

1 Ac yn awr, chwi'r cyfoethogion, wylwch ac udwch o achos y trallodion sydd yn dod arnoch. 2 Y mae eich golud wedi pydru, ac y mae'r gwyfyn wedi difa eich dillad. 3 Y mae eich aur a'ch arian wedi rhydu, a bydd eu rhwd yn dystiolaeth yn eich erbyn, ac yn bwyta eich cnawd fel t�n. Casglu cyfoeth a wnaethoch yn y dyddiau olaf. 4 Clywch! Y mae'r cyflogau na thalasoch i'r gweithwyr a fedodd eich meysydd yn gweiddi allan; ac y mae llefain y medelwyr yng nghlustiau Arglwydd y Lluoedd. 5 Buoch yn byw yn foethus a glwth ar y ddaear; buoch yn eich pesgi'ch hunain ar gyfer dydd y lladdfa. 6 Yr ydych wedi condemnio a lladd y cyfiawn, heb iddo yntau eich gwrthsefyll. 7 Byddwch yn amyneddgar, gyfeillion, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Gwelwch fel y mae'r ffermwr yn aros am gynnyrch gwerthfawr y ddaear, yn fawr ei amynedd amdano nes i'r ddaear dderbyn y glaw cynnar a diweddar. 8 Byddwch chwithau hefyd yn amyneddgar, a'ch cadw eich hunain yn gadarn, oherwydd y mae dyfodiad yr Arglwydd wedi dod yn agos. 9 Peidiwch ag achwyn ar eich gilydd, fy nghyfeillion, rhag ichwi gael eich barnu. Gwelwch, y mae'r Barnwr yn sefyll wrth y drws. 10 Ystyriwch, gyfeillion, fel esiampl o rai'n dioddef yn amyneddgar, y proffwydi a lefarodd yn enw'r Arglwydd. 11 Ac yr ydym yn dweud mai gwyn eu byd y rhai a ddaliodd eu tir. Clywsoch am ddyfalbarhad Job, a gwelsoch y diwedd a gafodd ef gan yr Arglwydd; y mae'r Arglwydd mor dosturiol a thrugarog. 12 Ond yn anad dim, fy nghyfeillion, peidiwch � thyngu llw wrth y nef, nac wrth y ddaear, nac wrth ddim arall chwaith. I'r gwrthwyneb, bydded eich "ie" yn "ie" yn unig, a'ch "nage" yn "nage" yn unig, rhag ichwi syrthio dan farn. 13 A oes rhywun yn eich plith mewn adfyd? Dylai wedd�o. A oes rhywun yn llawen? Dylai ganu mawl. 14 A oes rhywun yn glaf yn eich plith? Galwed ato henuriaid yr eglwys, i wedd�o trosto a'i eneinio ag olew yn enw yr Arglwydd. 15 Bydd gweddi a offrymir mewn ffydd yn iach�u y sawl sy'n glaf, a bydd yr Arglwydd yn ei godi ar ei draed; ac os yw wedi pechu, fe gaiff faddeuant. 16 Felly, cyffeswch eich pechodau i'ch gilydd, a gwedd�wch dros eich gilydd, er mwyn ichwi gael iach�d. Peth grymus iawn ac effeithiol yw gweddi y cyfiawn. 17 Yr oedd Elias yn ddyn o'r un anian � ninnau, ac fe wedd�odd ef yn daer am iddi beidio � glawio; ac ni lawiodd ar y ddaear am dair blynedd a chwe mis. 18 Yna gwedd�odd eilwaith, a dyma'r nefoedd yn arllwys ei glaw, a'r ddaear yn dwyn ei ffrwyth. 19 Fy nghyfeillion, os digwydd i un ohonoch wyro oddi wrth y gwirionedd, ac i un arall ei droi'n �l, 20 boed iddo wybod hyn: bydd y sawl a drodd y pechadur o gyfeiliorni ei ffordd yn achub ei enaid rhag angau, ac yn dileu lliaws o bechodau.