Welsh

Jeremiah

13

1 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf: "Dos a phryn wregys lliain, a'i roi am dy lwynau; paid �'i ddodi mewn du373?r." 2 Prynais wregys ar air yr ARGLWYDD, a'i roi am fy llwynau. 3 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf eilwaith, a dweud, 4 "Cymer y gwregys a brynaist, ac sydd am dy lwynau, a dos i ymyl afon Ewffrates a'i guddio yno mewn hollt yn y graig." 5 Felly euthum a'i guddio wrth ymyl afon Ewffrates, yn �l gorchymyn yr ARGLWYDD i mi. 6 Ar �l dyddiau lawer dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Dos i ymyl afon Ewffrates, a chymer oddi yno y gwregys y gorchmynnais iti ei guddio yno." 7 Euthum innau yno, a chloddio a chymryd y gwregys o'r lle y cuddiais ef; ac wele, yr oedd y gwregys wedi ei ddifetha, ac nid oedd yn dda i ddim. 8 Yna daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 9 "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Felly y difethaf finnau falchder Jwda a balchder mawr Jerwsalem. 10 Fel y gwregys yma, nad yw'n dda i ddim, y bydd y bobl ddrygionus hyn, sy'n gwrthod gwrando ar fy ngeiriau, ond yn rhodio yn ystyfnigrwydd eu calon, ac yn dilyn duwiau eraill i'w gwasanaethu a'u haddoli. 11 Oherwydd fel y gafael gwregys am lwynau rhywun, felly y perais i holl du375? Israel a holl du375? Jwda afael ynof fi," medd yr ARGLWYDD, "i fod yn bobl i mi, ac yn enw, ac yn foliant ac yn ogoniant; ond ni wrandawsant. 12 "Dywed wrthynt y gair yma: 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: Llenwir pob costrel � gwin.' A dywedant wrthyt, 'Oni wyddom ni'n iawn y llenwir pob costrel � gwin?' 13 Yna dywedi wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma fi'n llenwi'n feddw holl drigolion y tir hwn, yn frenhinoedd sy'n eistedd ar orseddfainc Dafydd, yn offeiriaid ac yn broffwydi, a holl drigolion Jerwsalem. 14 Drylliaf hwy y naill yn erbyn y llall, rhieni a phlant ynghyd, medd yr ARGLWYDD; nid arbedaf ac ni thosturiaf ac ni thrugarhaf, eithr difethaf hwy.'" 15 Clywch a gwrandewch; peidiwch ag ymfalch�o, canys llefarodd yr ARGLWYDD. 16 Rhowch ogoniant i'r ARGLWYDD eich Duw cyn iddo beri tywyllwch, a chyn i'ch traed faglu yn y gwyll ar y mynyddoedd; a thra byddwch yn disgwyl am olau, bydd yntau'n ei droi yn dywyllwch dudew, ac yn ei wneud yn nos ddu. 17 Ac os na wrandewch ar hyn, mi wylaf yn y dirgel am eich balchder; fe ffrydia fy llygaid ddagrau chwerw, oherwydd dwyn diadell yr ARGLWYDD i gaethiwed. 18 "Dywed wrth y brenin a'r fam frenhines, 'Eisteddwch yn ostyngedig, oherwydd syrthiodd eich coron anrhydeddus oddi ar eich pen.' 19 Caeir dinasoedd y Negef, heb neb i'w hagor; caethgludir Jwda gyfan, caethgludir hi yn llwyr." 20 Dyrchafwch eich llygaid, a gwelwch y rhai a ddaw o'r gogledd. Ple mae'r praidd a roddwyd i ti, dy ddiadell braf? 21 Beth a ddywedi pan roddir y rhai a ddysgaist yn feistri arnat, a'r rhai a fegaist yn ben arnat? Oni chydia ynot ofidiau, fel gwraig wrth esgor? 22 A phan feddyli, "Pam y digwyddodd hyn i mi?", yn �l amlder dy gamwedd y codwyd godre dy wisg, ac y dinoethwyd dy gorff. 23 A newidia'r Ethiopiad ei groen, neu'r llewpard ei frychni? A allwch chwithau wneud daioni, chwi a fagwyd mewn drygioni? 24 "Fe'u chwalaf hwy fel us a chwythir gan wynt y diffeithwch. 25 Hyn fydd dy ran, yr hyn a fesurais i ti," medd yr ARGLWYDD, "am i ti fy anghofio, ac ymddiried mewn celwydd. 26 Mi godaf odre dy wisg dros dy wyneb, ac amlygir dy warth. 27 Gwelais dy anlladrwydd, dy odineb, dy weryriad nwydus, a budreddi dy buteindra ar fryn a maes. Gwae di, Jerwsalem! Ni fyddi'n l�n! Pa hyd, eto, y pery hyn?"