Welsh

Jeremiah

18

1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD: 2 "Cod a dos i lawr i du375?'r crochenydd; yno y paraf i ti glywed fy ngeiriau." 3 Euthum i lawr i du375?'r crochenydd, a'i gael yn gweithio ar y droell. 4 A difwynwyd yn llaw'r crochenydd y llestr pridd yr oedd yn ei lunio, a gwnaeth ef yr eildro yn llestr gwahanol, fel y gwelai'n dda. 5 Yna daeth gair yr ARGLWYDD ataf, 6 "Oni allaf fi eich trafod chwi, tu375? Israel, fel y mae'r crochenydd hwn yn ei wneud �'r clai?" medd yr ARGLWYDD. "Fel clai yn llaw'r crochenydd, felly yr ydych chwi yn fy llaw i, tu375? Israel. 7 Ar unrhyw funud gallaf benderfynu diwreiddio a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu deyrnas. 8 Ac os bydd y genedl honno y lleferais yn ei herbyn yn troi oddi wrth ei drygioni, gallaf ailfeddwl am y drwg a fwriedais iddi. 9 Ar unrhyw funud gallaf benderfynu adeiladu a phlannu cenedl neu deyrnas, 10 ond os gwna'r genedl honno ddrygioni yn fy ngolwg, a gwrthod gwrando arnaf, gallaf ailfeddwl am y da a addewais iddi. 11 Yn awr dywed wrth bobl Jwda ac wrth breswylwyr Jerwsalem, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Wele fi'n llunio drwg yn eich erbyn, ac yn cynllunio yn eich erbyn. Dychwelwch, yn wir, bob un o'i ffordd ddrwg, a gwella'ch ffyrdd a'ch gweithredoedd.' 12 Ond dywedant hwy, 'Y mae pethau wedi mynd yn rhy bell. Dilynwn ein bwriadau ein hunain, a gweithredwn bob un yn �l ystyfnigrwydd ei galon ddrygionus.'" 13 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Ymofynnwch ymhlith y cenhedloedd, pwy a glywodd ddim tebyg i hyn. Gwnaeth y forwyn Israel beth erchyll iawn. 14 A gilia eira Lebanon oddi ar greigiau'r llethrau? A sychir dyfroedd yr ucheldir, sy'n ffrydiau oerion? 15 Ond mae fy mhobl wedi f'anghofio, ac wedi arogldarthu i dduwiau gau a barodd iddynt dramgwyddo yn eu ffyrdd, yr hen rodfeydd, a cherdded llwybrau mewn ffyrdd heb eu trin. 16 Gwnaethant eu tir yn anghyfannedd, i rai chwibanu drosto hyd byth; bydd pob un sy'n mynd heibio iddo yn synnu, ac yn ysgwyd ei ben. 17 Fel gwynt y dwyrain y chwalaf hwy o flaen y gelyn; yn nydd eu trychineb dangosaf iddynt fy ngwegil, nid fy wyneb." 18 A dywedodd y bobl, "Dewch, gwnawn gynllwyn yn erbyn Jeremeia; ni chiliodd cyfarwyddyd oddi wrth yr offeiriad, na chyngor oddi wrth y doeth, na gair oddi wrth y proffwyd; dewch, gadewch inni ei faeddu �'r tafod, a pheidio ag ystyried yr un o'i eiriau." 19 Ystyria fi, O ARGLWYDD, a chlyw beth y mae f'achwynwyr yn ei ddweud. 20 A ad-delir drwg am dda? Cloddiasant bwll ar fy nghyfer. Cofia imi sefyll o'th flaen, i lefaru'n dda amdanynt ac i droi ymaith dy ddig oddi wrthynt. 21 Am hynny rho'u plant i'r newyn, lladder hwy trwy rym y cleddyf; bydded eu gwragedd yn weddwon di-blant, a'u gwu375?r yn farw gelain, a'u gwu375?r ifainc wedi eu taro �'r cleddyf mewn rhyfel. 22 Bydded i waedd godi o'u tai, am i'r ysbeiliwr ddod yn ddisymwth ar eu gwarthaf; canys cloddiasant bwll i'm dal, a chuddio maglau i'm traed. 23 Ond yr wyt ti, O ARGLWYDD, yn gwybod am eu holl gynllwyn yn f'erbyn, i'm lladd. Paid � maddau iddynt eu camwedd, na dileu eu pechod o'th u373?ydd. Bydded iddynt faglu o'th flaen; delia � hwy yn awr dy ddigofaint.