Welsh

Jeremiah

26

1 Yn nechrau teyrnasiad Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, daeth y gair hwn oddi wrth yr ARGLWYDD: 2 "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Saf yng nghyntedd tu375?'r ARGLWYDD a phan ddaw holl ddinasoedd Jwda i addoli yn nhu375?'r ARGLWYDD, llefara wrthynt yr holl eiriau a orchmynnaf, heb atal gair. 3 Efallai y gwrandawant, a dychwelyd, pob un o'i ffordd ddrwg, a minnau'n newid fy meddwl am y drwg a fwriedais iddynt oherwydd eu gweithredoedd drygionus. 4 Dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Os na wrandewch arnaf, a rhodio yn �l fy nghyfraith a rois o'ch blaen, 5 a gwrando ar eiriau fy ngweision y proffwydi a anfonaf atoch � fel y gwnaed yn gyson, a chwithau heb wrando � 6 yna gwnaf y tu375? hwn fel Seilo, a'r ddinas hon yn felltith i holl genhedloedd y ddaear.'" 7 Clywodd yr offeiriaid a'r proffwydi a'r holl bobl Jeremeia yn llefaru'r geiriau hyn yn nhu375?'r ARGLWYDD. 8 Pan orffennodd fynegi'r cyfan a orch-mynnodd yr ARGLWYDD wrth yr holl bobl, daliodd yr offeiriaid a'r proffwydi a'r holl bobl ef, a dweud, "Rhaid iti farw; 9 pam y proffwydaist yn enw'r ARGLWYDD a dweud, 'Bydd y tu375? hwn fel Seilo, a gwneir y ddinas hon yn anghyfannedd, heb breswylydd'?" Yna ymgasglodd yr holl bobl o gwmpas Jeremeia yn nhu375?'r ARGLWYDD. 10 Pan glywodd tywysogion Jwda am hyn, daethant i fyny o du375?'r brenin i du375?'r ARGLWYDD, ac eistedd yn nrws porth newydd tu375?'r ARGLWYDD. 11 Dywedodd yr offeiriaid a'r proffwydi wrth y tywysogion ac wrth yr holl bobl, "Y mae'r gu373?r hwn yn haeddu cosb marwolaeth, oherwydd proffwydodd yn erbyn y ddinas hon, fel y clywsoch chwi eich hunain." 12 Yna llefarodd Jeremeia wrth yr holl dywysogion a'r holl bobl, gan ddweud, "Yr ARGLWYDD a'm hanfonodd i broffwydo yn erbyn y tu375? hwn a'r ddinas hon yr holl eiriau a glywsoch. 13 Yn awr, gwellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, a gwrandewch ar lais yr ARGLWYDD eich Duw, ac fe newidia'r ARGLWYDD ei feddwl am y drwg a lefarodd yn eich erbyn. 14 Amdanaf fi, dyma fi yn eich dwylo; gwnewch i mi fel y gwelwch yn dda ac uniawn. 15 Ond gwybyddwch yn sicr, os lladdwch fi, y byddwch yn dwyn arnoch eich hunain, ac ar y ddinas hon a'i thrigolion, waed dyn dieuog. Yn wir, yr ARGLWYDD sydd wedi fy anfon atoch i lefaru'r holl eiriau hyn yn eich clyw." 16 Dywedodd y tywysogion a'r holl bobl wrth yr offeiriaid a'r proffwydi, "Nid yw'r gu373?r hwn yn haeddu cosb marwolaeth, oherwydd yn enw'r ARGLWYDD ein Duw y llefarodd wrthym." 17 Yna cododd rhai o blith henuriaid y wlad a dweud wrth holl gynulleidfa'r bobl, 18 "Bu Micha o Moreseth yn proffwydo yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, a dywedodd wrth holl bobl Jwda, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Bydd Seion yn faes wedi ei aredig, a Jerwsalem yn garneddau, a mynydd y deml yn fynydd-dir coediog.' 19 A laddwyd ef gan Heseceia brenin Jwda a holl Jwda? Onid ofnodd ef yr ARGLWYDD a cheisio ffafr yr ARGLWYDD, ac oni newidiodd yr ARGLWYDD ei feddwl am y drwg a lefarodd yn eu herbyn? Ond dyma ni am wneud drwg mawr i ni ein hunain." 20 A bu gu373?r arall hefyd yn proffwydo yn enw'r ARGLWYDD, Ureia fab Semaia o Ciriath-jearim. Proffwydodd yn union yr un peth � Jeremeia yn erbyn y ddinas hon a'r wlad hon. 21 Clywodd y Brenin Jehoiacim a'i holl osgordd a'i dywysogion ei eiriau, a cheisiodd y brenin ei ladd. Pan glywodd Ureia, fe ofnodd a ffoi i'r Aifft. 22 Yna anfonodd Jehoiacim wu375?r i'r Aifft, sef Elnathan fab Achbor a gwu375?r eraill; 23 a daethant i'r Aifft, a chyrchu Ureia oddi yno a'i ddwyn at y Brenin Jehoiacim; lladdodd yntau ef �'r cleddyf, a thaflu ei gorff i fynwent y bobl gyffredin. 24 Yr oedd Ahicam fab Saffan o blaid Jeremeia, fel na roddwyd ef yng ngafael y bobl i'w ladd.