1 Yn yr un flwyddyn, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda, sef y bedwaredd flwyddyn a'r pumed mis, llefarodd Hananeia fab Assur, y proffwyd o Gibeon, wrthyf yn nhu375?'r ARGLWYDD, yng ngu373?ydd yr offeiriaid a'r holl bobl, gan ddweud, 2 "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Torraf iau brenin Babilon. 3 O fewn dwy flynedd adferaf i'r lle hwn holl lestri tu375?'r ARGLWYDD, a gymerodd Nebuchadnesar brenin Babilon o'r lle hwn a'u dwyn i Fabilon. 4 Adferaf hefyd i'r lle hwn Jechoneia fab Jehoiacim, brenin Jwda, a holl gaethglud Jwda a aeth i Fabilon,' medd yr ARGLWYDD, 'canys torraf iau brenin Babilon.'" 5 Yna llefarodd y proffwyd Jeremeia wrth Hananeia y proffwyd, yng ngu373?ydd yr offeiriaid a'r holl bobl a safai yn nhu375?'r ARGLWYDD, 6 gan ddweud, "Amen, gwnaed yr ARGLWYDD felly; cadarnhaed yr ARGLWYDD y geiriau a broffwydaist, ac adfer o Fabilon i'r lle hwn lestri tu375?'r ARGLWYDD, a'r holl gaethglud. 7 Ond gwrando yn awr ar y gair hwn a lefaraf yn dy glyw, ac yng nghlyw'r holl bobl: 8 bu'r proffwydi a fu o'm blaen i ac o'th flaen di, o'r amser gynt, yn proffwydo rhyfeloedd a newyn a haint yn erbyn gwledydd lawer a theyrnasoedd mawrion. 9 Am y sawl sy'n proffwydo heddwch, gwyddys am y proffwyd hwnnw, mai'r ARGLWYDD yn wir a'i hanfonodd, os daw ei air i ben." 10 Yna cymerodd Hananeia y barrau oddi ar war y proffwyd Jeremeia, a'u torri. 11 Dywedodd Hananeia yng ngu373?ydd yr holl bobl, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Felly, o fewn dwy flynedd, torraf iau Nebuchadnesar brenin Babilon oddi ar war yr holl genhedloedd.'" Yna aeth y proffwyd Jeremeia ymaith. 12 Wedi i Hananeia y proffwyd dorri'r iau oddi ar war y proffwyd Jeremeia, daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia, 13 "Dos, a dywed wrth Hananeia, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Fe dorraist farrau pren; mi wnaf yn eu lle farrau haearn. 14 Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Rhof iau haearn ar war yr holl genhedloedd hyn, i wasanaethu Nebuchadnesar brenin Babilon, ac fe'i gwasanaethant; a rhof iddo hyd yn oed yr anifeiliaid gwyllt.'" 15 Dywedodd y proffwyd Jeremeia wrth Hananeia y proffwyd, "Clyw yn awr, Hananeia! Nid anfonodd yr ARGLWYDD di; ond peraist i'r bobl hyn ymddiried mewn celwydd. 16 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Yr wyf yn dy yrru di oddi ar wyneb y ddaear; o fewn blwyddyn byddi farw, oherwydd dysgaist wrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.'" 17 Bu farw Hananeia y proffwyd y flwyddyn honno, yn y seithfed mis.