Welsh

Jeremiah

47

1 Dyma air yr ARGLWYDD a ddaeth at y proffwyd Jeremeia ynghylch y Philistiaid, cyn i Pharo daro Gasa. 2 "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Wele , y mae dyfroedd yn tarddu o'r gogledd, ac yn llifeirio'n ffrwd gref; llifant dros y wlad a'i chynnwys, ei dinasoedd a'u preswylwyr. Y mae'r bobl yn gweiddi a holl breswylwyr y wlad yn udo, 3 oherwydd su373?n carnau ei feirch yn curo, ac oherwydd trwst ei gerbydau a thwrf yr olwynion. Ni thry'r rhieni'n �l i edrych am y plant; gwanychodd eu dwylo gymaint. 4 Daeth y dydd i ddinistrio yr holl Philistiaid, i dorri allan o Tyrus ac o Sidon bob un sy'n aros i'w cynorthwyo. Dinistria'r ARGLWYDD y Philistiaid, gweddill ynystir Cafftor. 5 Daeth moelni ar Gasa, a dinistriwyd Ascalon. Ti, weddill yr Anacim, pa hyd yr archolli dy hun? 6 O gleddyf yr ARGLWYDD, pa hyd y byddi heb ymlonyddu? Dychwel i'th wain; gorffwys, a bydd dawel. 7 Pa fodd yr ymlonydda, gan i'r ARGLWYDD ei orchymyn? Yn erbyn Ascalon, ac yn erbyn glan y m�r y gosododd ef.'"