Welsh

Job

12

1 Atebodd Job: 2 "Yn wir, chwi yw'r bobl, a chyda chwi y derfydd doethineb! 3 Ond y mae gennyf finnau ddeall fel chwithau, ac nid wyf yn salach na chwi; yn wir, pwy sydd heb wybod hyn? 4 "Yr wyf yn gyff gwawd i'm cyfeillion, er imi alw ar Dduw ac iddo yntau ateb; y cyfiawn a'r perffaith yn gyff gwawd! 5 Dirmygir dinistr gan y rhai sydd mewn esmwythyd, a sefydlogrwydd gan y rhai y mae eu traed yn llithro. 6 Llwyddiant sydd ym mhebyll yr anrheithwyr, a diogelwch i'r rhai sy'n blino Duw � rhai wedi cael Duw dan eu bawd! 7 "Ond yn awr gofyn i'r anifeiliaid dy ddysgu, ac i adar y nefoedd fynegi i ti, 8 neu i blanhigion y tir dy hyfforddi, ac i bysgod y m�r dy gyfarwyddo. 9 Pwy na ddealla oddi wrth hyn i gyd mai llaw'r ARGLWYDD a'u gwnaeth? 10 Yn ei law ef y mae einioes pob peth byw, ac anadl pob un meidrol. 11 Onid yw'r glust yn profi geiriau, fel y mae taflod y genau yn blasu bwyd? 12 "Ai ymhlith yr oedrannus y ceir doethineb, a deall gyda'r rhai sydd ymlaen mewn dyddiau? 13 Gan Dduw y mae doethineb a chryfder, a chyngor a deall sydd eiddo iddo. 14 Os dinistria, nid adeiledir: os carchara neb, nid oes rhyddhad. 15 Os atal ef y dyfroedd, yna y mae sychder; a phan ollwng hwy, yna gorlifant y ddaear. 16 Ganddo ef y mae nerth a gwir ddoethineb; ef biau'r sawl a dwyllir a'r sawl sy'n twyllo. 17 Gwna i gynghorwyr gerdded yn droednoeth, a gwawdia farnwyr. 18 Y mae'n datod gwregys brenhinoedd, ac yn rhwymo carpiau am eu llwynau. 19 Gwna i offeiriaid gerdded yn droednoeth, a lloria'r rhai sefydledig. 20 Diddyma ymadrodd y rhai y credir ynddynt, a chymer graffter yr henuriaid oddi wrthynt. 21 Fe dywallt ddirmyg ar bendefigion, a gwanhau nerth y cryfion. 22 Y mae'n datguddio cyfrinachau o'r tywyllwch, ac yn troi'r fagddu yn oleuni. 23 Fe amlha genhedloedd, ac yna fe'u dinistria; fe ehanga genhedloedd, ac yna fe'u dwg ymaith. 24 Diddyma farn penaethiaid y ddaear, a pheri iddynt grwydro mewn diffeithwch di-ffordd; 25 ymbalfalant yn y tywyllwch heb oleuni; fe wna iddynt simsanu fel meddwon.