Welsh

Job

32

1 Peidiodd y tri gu373?r � dadlau rhagor � Job, am fod Job yn ei ystyried ei hun yn fwy cyfiawn na Duw. 2 Ond yr oedd Elihu fab Barachel y Busiad, o dylwyth Ram, wedi ei gythruddo yn erbyn Job. Yr oedd yn ddig am ei fod yn ei ystyried ei hun yn gyfiawn gerbron Duw, 3 a'r un mor ddig wrth ei dri chyfaill am eu bod yn methu ateb Job er iddynt ei gondemnio. 4 Tra oeddent hwy'n llefaru wrth Job, yr oedd Elihu wedi cadw'n dawel am eu bod yn hu375?n nag ef. 5 Ond digiodd pan welodd nad oedd gan y tri gu373?r ateb i Job. 6 Yna dywedodd Elihu fab Barachel y Busiad: "Dyn ifanc wyf fi, a chwithau'n hen; am hyn yr oeddwn yn ymatal, ac yn swil i ddweud fy marn wrthych. 7 Dywedais, 'Caiff profiad maith siarad, ac amlder blynyddoedd draethu doethineb.' 8 Ond yr ysbryd oddi mewn i rywun, ac anadl yr Hollalluog, sy'n ei wneud yn ddeallus. 9 Nid yr oedrannus yn unig sydd ddoeth, ac nid yr hen yn unig sy'n deall beth sydd iawn. 10 Am hyn yr wyf yn dweud, 'Gwrando arnaf; gad i minnau ddweud fy marn.' 11 "B�m yn disgwyl am eich geiriau, ac yn gwrando am eich deallusrwydd; tra oeddech yn dewis eich geiriau, 12 sylwais yn fanwl arnoch, ond nid oedd yr un ohonoch yn gallu gwrthbrofi Job, nac ateb ei ddadleuon. 13 Peidiwch � dweud, 'Fe gawsom ni ddoethineb'; Duw ac nid dyn a'i trecha. 14 Nid yn f'erbyn i y trefnodd ei ddadleuon; ac nid �'ch geiriau chwi yr atebaf fi ef. 15 "Y maent hwy wedi eu syfrdanu, ac yn methu ateb mwyach; pallodd geiriau ganddynt. 16 A oedaf fi am na lefarant hwy, ac am eu bod hwy wedi peidio ag ateb? 17 Gwnaf finnau fy rhan trwy ateb, a dywedaf fy marn. 18 Yr wyf yn llawn o eiriau, ac ysbryd ynof sy'n fy nghymell. 19 O'm mewn yr wyf fel petai gwin yn methu arllwys allan, a minnau fel costrelau newydd ar fin rhwygo. 20 Rhaid i mi lefaru er mwyn cael gollyngdod, rhaid i mi agor fy ngenau i ateb. 21 Ni ddangosaf ffafr at neb, ac ni wenieithiaf i neb; 22 oherwydd ni wn i sut i wenieithio; pe gwnawn hynny, byddai fy nghreawdwr ar fyr dro yn fy symud.