Welsh

Job

34

1 Dywedodd Elihu: 2 "Gwrandewch ar fy ngeiriau, chwi ddoethion; clustfeiniwch arnaf, chwi rai deallus. 3 Oherwydd y glust sydd yn profi geiriau, fel y profir bwyd gan daflod y genau. 4 Gadewch i ni ddewis yr hyn sy'n iawn, a phenderfynu gyda'n gilydd beth sy'n dda. 5 Dywedodd Job, 'Yr wyf yn gyfiawn, ond trodd Duw farn oddi wrthyf. 6 Er fy mod yn iawn, fe'm gwneir yn gelwyddog; y mae fy archoll yn ffyrnig, a minnau heb droseddu.' 7 Pwy sydd fel Job, yn drachtio dirmyg fel du373?r, 8 yn cadw cwmni � rhai ofer, ac yn gwag-symera gyda'r drygionus? 9 Oherwydd dywedodd, 'Nid yw o werth i neb ymhyfrydu yn Nuw.' 10 "Am hyn, chwi bobl ddeallus, gwrandewch arnaf. Pell y bo oddi wrth Dduw wneud drygioni, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu'n anghyfiawn. 11 Oherwydd fe d�l ef i bob un yn �l ei weithred, a'i wobrwyo yn �l ei ffordd o fyw. 12 Yn wir, nid yw Duw byth yn gwneud drwg, ac nid yw'r Hollalluog yn gwyrdroi barn. 13 Pwy a'i gosododd ef mewn awdurdod ar y ddaear, a rhoi'r byd cyfan iddo? 14 Pe byddai ef yn rhoi ei fryd ar ddwyn ei ysbryd a'i anadl yn �l ato'i hun, 15 yna byddai pob cnawd yn marw, a phawb yn dychwelyd i'r pridd. 16 "Os oes gennyt ti ddeall, gwrando hyn, a rho sylw i'm geiriau. 17 A all un sy'n cas�u barn lywodraethu? A gondemni di'r un cyfiawn cadarn? 18 Gall ef ddweud wrth frenin, 'Y dihiryn', ac wrth lywodraethwyr, 'Y cnafon'; 19 nid yw'n dangos ffafr at swyddogion, nac yn rhoi'r cyfoethog o flaen y tlawd, oherwydd gwaith ei ddwylo yw pob un ohonynt. 20 Mewn moment byddant farw, yng nghanol nos; trenga'r cyfoethog, a diflannu; symudir ymaith y cryf heb ymdrech. 21 "Y mae ei lygaid yn gwylio ffyrdd pob un, a gw�l ei holl gamau. 22 Nid oes tywyllwch na chaddug lle y gall drwgweithredwyr guddio. 23 Nid oes amser wedi ei drefnu i neb ddod i farn o flaen Duw; 24 y mae ef yn dryllio'r cryfion heb eu profi, ac yn gosod eraill yn eu lle. 25 Y mae'n adnabod eu gweithredoedd, ac yn eu dymchwel a'u dryllio mewn noson. 26 Y mae'n eu taro o achos eu drygioni, a hynny yng ngu373?ydd pawb, 27 am eu bod yn troi oddi wrtho, ac yn gwrthod ystyried yr un o'i ffyrdd. 28 Gwn�nt i gri'r tlawd ddod ato, ac iddo glywed gwaedd yr anghenus. 29 Ond y mae ef yn dawel, pwy bynnag a wna ddrwg; y mae'n cuddio'i wyneb, pwy bynnag a'i cais � boed genedl neu unigolyn � 30 rhag i neb annuwiol lywodraethu, a maglu pobl. 31 "Os dywed un wrth Dduw, 'Euthum ar gyfeiliorn, ni wnaf ddrwg eto; 32 am na allaf fi weld, hyffordda di fi; os gwneuthum ddrygioni, ni chwanegaf ato' � 33 a wyt ti, sydd wedi ei wrthod, yn tybio y bydd ef yn fodlon ar hynny? Ti sydd i ddewis, nid fi; traetha yr hyn a wyddost. 34 Y mae pobl ddeallus yn siarad � mi, a rhai doeth yn gwrando arnaf. 35 Ond y mae Job yn llefaru heb ystyried, ac nid yw ei eiriau yn ddeallus. 36 O na phrofid Job i'r eithaf, gan fod ei atebion fel rhai pobl ddrwg! 37 Y mae'n ychwanegu gwrthryfel at ei bechod, yn codi amheuaeth ynghylch ei drosedd yn ein plith, ac yn amlhau geiriau yn erbyn Duw."