Welsh

John

12

1 Chwe diwrnod cyn y Pasg, daeth Iesu i Fethania, lle'r oedd Lasarus yn byw, y dyn yr oedd wedi ei godi oddi wrth y meirw. 2 Yno gwnaethpwyd iddo swper; yr oedd Martha yn gweini, a Lasarus yn un o'r rhai oedd gydag ef wrth y bwrdd. 3 A chymerodd Mair fesur o ennaint costfawr, nard pur, ac eneiniodd draed Iesu a'u sychu �'i gwallt. A llanwyd y tu375? gan bersawr yr ennaint. 4 A dyma Jwdas Iscariot, un o'i ddisgyblion, yr un oedd yn mynd i'w fradychu, yn dweud, 5 "Pam na werthwyd yr ennaint hwn am dri chant o ddarnau arian, a'i roi i'r tlodion?" 6 Ond fe ddywedodd hyn, nid am fod gofal ganddo am y tlodion, ond am mai lleidr ydoedd, yn cymryd o'r cyfraniadau yn y god arian oedd yn ei ofal. 7 "Gad lonydd iddi," meddai Iesu, "er mwyn iddi gadw'r ddefod ar gyfer dydd fy nghladdedigaeth. 8 Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, ond nid wyf fi gyda chwi bob amser." 9 Daeth tyrfa fawr o'r Iddewon i wybod ei fod yno, a daethant ato, nid o achos Iesu yn unig, ond er mwyn gweld Lasarus hefyd, y dyn yr oedd ef wedi ei godi oddi wrth y meirw. 10 Ond gwnaeth y prif offeiriaid gynllwyn i ladd Lasarus hefyd, 11 gan fod llawer o'r Iddewon, o'i achos ef, yn gwrthgilio ac yn credu yn Iesu. 12 Trannoeth, clywodd y dyrfa fawr a oedd wedi dod i'r u373?yl fod Iesu'n dod i Jerwsalem. 13 Cymerasant ganghennau o'r palmwydd ac aethant allan i'w gyfarfod, gan weiddi: "Hosanna! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd, yn Frenin Israel." 14 Cafodd Iesu hyd i asyn ifanc ac eistedd arno, fel y mae'n ysgrifenedig: 15 "Paid ag ofni, ferch Seion; wele dy frenin yn dod, yn eistedd ar ebol asen." 16 Ar y cyntaf ni ddeallodd y disgyblion ystyr y pethau hyn, ond wedi i Iesu gael ei ogoneddu, cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig amdano, ac iddynt eu gwneud iddo. 17 Yr oedd y dyrfa, a oedd gydag ef pan alwodd Lasarus o'r bedd a'i godi o blith y meirw, yn tystiolaethu am hynny. 18 Dyna pam yr aeth tyrfa'r u373?yl i'w gyfarfod � yr oeddent wedi clywed am yr arwydd yma yr oedd wedi ei wneud. 19 Gan hynny, dywedodd y Phariseaid wrth ei gilydd, "Edrychwch, nid ydych yn llwyddo o gwbl. Aeth y byd i gyd ar ei �l ef." 20 Ymhlith y bobl oedd yn dod i fyny i addoli ar yr u373?yl, yr oedd rhyw Roegiaid. 21 Daeth y rhain at Philip, a oedd o Bethsaida yng Ngalilea, a gofyn iddo, "Syr, fe hoffem weld Iesu." 22 Aeth Philip i ddweud wrth Andreas; ac aeth Andreas a Philip i ddweud wrth Iesu. 23 A dyma Iesu'n eu hateb. "Y mae'r awr wedi dod," meddai, "i Fab y Dyn gael ei ogoneddu. 24 Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, os nad yw'r gronyn gwenith yn syrthio i'r ddaear ac yn marw, y mae'n aros ar ei ben ei hun; ond os yw'n marw, y mae'n dwyn llawer o ffrwyth. 25 Y mae'r sawl sy'n caru ei einioes yn ei cholli; a'r sawl sy'n cas�u ei einioes yn y byd hwn, bydd yn ei chadw i fywyd tragwyddol. 26 Os yw rhywun am fy ngwasanaethu i, rhaid iddo fy nghanlyn i; lle bynnag yr wyf fi, yno hefyd y bydd fy ngwasanaethwr. Os yw rhywun yn fy ngwasanaethu i, fe gaiff ei anrhydeddu gan y Tad. 27 "Yn awr y mae fy enaid mewn cynnwrf. Beth a ddywedaf? 'O Dad, gwared fi rhag yr awr hon'? Na, i'r diben hwn y deuthum i'r awr hon. 28 O Dad, gogonedda dy enw." Yna daeth llais o'r nef: "Yr wyf wedi ei ogoneddu, ac fe'i gogoneddaf eto." 29 Pan glywodd y dyrfa oedd yn sefyll gerllaw, dechreusant ddweud mai taran oedd; dywedodd eraill, "Angel sydd wedi llefaru wrtho." 30 Atebodd Iesu, "Nid er fy mwyn i, ond er eich mwyn chwi, y daeth y llais hwn. 31 Dyma awr barnu'r byd hwn; yn awr y mae tywysog y byd hwn i gael ei fwrw allan. 32 A minnau, os caf fy nyrchafu oddi ar y ddaear, fe dynnaf bawb ataf fy hun." 33 Dywedodd hyn i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth oedd yn ei aros. 34 Yna atebodd y dyrfa ef: "Yr ydym ni wedi dysgu o'r Gyfraith fod y Meseia i aros am byth. Sut yr wyt ti'n dweud, felly, bod yn rhaid i Fab y Dyn gael ei ddyrchafu? Pwy yw'r Mab y Dyn yma?" 35 Dywedodd Iesu wrthynt, "Am ychydig amser eto y bydd y goleuni yn eich plith. Rhodiwch tra bo'r goleuni gennych, rhag i'r tywyllwch eich goddiweddyd. Nid yw'r sawl sy'n rhodio yn y tywyllwch yn gwybod lle y mae'n mynd. 36 Tra bo'r goleuni gennych, credwch yn y goleuni, ac felly plant y goleuni fyddwch." Wedi iddo lefaru'r geiriau hyn, aeth Iesu i ffwrdd ac ymguddio rhagddynt. 37 Er iddo wneud cynifer o arwyddion yng ngu373?ydd y bobl, nid oeddent yn credu ynddo. 38 Cyflawnwyd felly y gair a ddywedodd y proffwyd Eseia: "Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym? I bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd?" 39 O achos hyn ni allent gredu, oherwydd dywedodd Eseia beth arall: 40 "Y mae ef wedi dallu eu llygaid, ac wedi tywyllu eu deall, rhag iddynt weld �'u llygaid, a deall �'u meddwl, a throi'n �l, i mi eu hiach�u." 41 Dywedodd Eseia hyn am iddo weld ei ogoniant; amdano ef yr oedd yn llefaru. 42 Eto i gyd fe gredodd llawer hyd yn oed o'r llywodraethwyr ynddo ef; ond o achos y Phariseaid ni fynnent ei arddel, rhag iddynt gael eu torri allan o'r synagog. 43 Dewisach oedd ganddynt glod gan bobl na chlod gan Dduw. 44 Cyhoeddodd Iesu: "Y mae'r sawl sy'n credu ynof fi yn credu nid ynof fi ond yn yr un a'm hanfonodd i. 45 Ac y mae'r sawl sy'n fy ngweld i yn gweld yr un a'm hanfonodd i. 46 Yr wyf fi wedi dod i'r byd yn oleuni, ac felly nid yw neb sy'n credu ynof fi yn aros yn y tywyllwch. 47 Os yw rhywun yn clywed fy ngeiriau i ac yn gwrthod eu cadw, nid myfi sy'n ei farnu, oherwydd ni ddeuthum i farnu'r byd ond i achub y byd. 48 Y mae gan y sawl sy'n fy ngwrthod i, ac yn peidio � derbyn fy ngeiriau, un sydd yn ei farnu. Bydd y gair hwnnw a leferais i yn ei farnu yn y dydd olaf. 49 Oherwydd nid ohonof fy hunan y lleferais, ond y Tad ei hun, hwnnw a'm hanfonodd i, sydd wedi rhoi gorchymyn i mi beth a ddywedaf a beth a lefaraf. 50 A gwn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol. Yr hyn yr wyf fi'n ei lefaru, felly, rwy'n ei lefaru yn union fel y mae'r Tad wedi dweud wrthyf."