Welsh

Joshua

19

1 I Simeon y disgynnodd yr ail goelbren, i lwyth Simeon yn �l eu tylwythau; yr oedd eu hetifeddiaeth hwy yng nghanol etifeddiaeth Jwda. 2 Cawsant yn etifeddiaeth: Beerseba, Seba, Molada, 3 Hasar�sual, Bala, Esem, 4 Eltolad, Bethul, Horma, 5 Siclag, Beth-marcaboth, Hasar�usa, 6 Beth-lebaoth a Saruhen: tair ar ddeg o drefi a'u pentrefi. 7 Ain, Rimmon, Ether ac Asan: pedair tref a'u pentrefi; 8 hefyd yr holl bentrefi o amgylch y trefi hyn, hyd at Baalath�beer, Ramath-negef. Dyma etifeddiaeth llwyth Simeon yn �l eu tylwythau. 9 Daeth peth o randir Jwda yn etifeddiaeth i Simeon, am fod rhan llwyth Jwda yn ormod iddynt; felly etifeddodd Simeon gyfran yng nghanol etifeddiaeth Jwda. 10 Disgynnodd y trydydd coelbren i lwyth Sabulon yn �l eu tylwythau; yr oedd terfyn eu hetifeddiaeth hwy'n ymestyn hyd Sarid, 11 ac yna i fyny tua'r gorllewin at Marala, gan gyffwrdd � Dabbeseth ac �'r nant gyferbyn � Jocneam. 12 Yr oedd y terfyn yn troi'n �l o Sarid tua'r dwyrain a chodiad haul, ac yna'n mynd i fyny at Cisloth�tabor, ac ymlaen at Daberath ac i fyny i Jaffia. 13 Oddi yno �i yn ei flaen tua'r dwyrain i Gath-heffer ac Itta�casin, nes cyrraedd Rimon a throi tua Nea. 14 Yr oedd y terfyn yn troi i'r gogledd o Hannathon, nes cyrraedd dyffryn Jifftahel, 15 gan gynnwys Cattath, Nahalal, Simron, Idala a Bethlehem: deuddeg o drefi a'u pentrefi. 16 Dyma etifeddiaeth llwyth Sabulon yn �l eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi. 17 I Issachar y disgynnodd y pedwerydd coelbren, i lwyth Issachar yn �l eu tylwythau. 18 Yn eu tiriogaeth hwy yr oedd Jesreel, Cesuloth, Sunem, 19 Haffraim, Sihon, Anaharath, 20 Rabbith, Cision, Abes, 21 Remeth, En-gannim, En�hada a Beth-passes. 22 Yr oedd y terfyn yn cyffwrdd � Tabor, Sahasima a Beth�semes, ac yn cyrraedd yr Iorddonen: un ar bymtheg o drefi a'u pentrefi. 23 Dyma etifeddiaeth llwyth Issachar yn �l eu tylwythau, yn drefi a'u pentrefi. 24 Disgynnodd y pumed coelbren i lwyth Aser yn �l eu tylwythau. 25 Yn eu tiriogaeth hwy yr oedd Helcath, Hali, Beten, Achsaff, 26 Alammelech, Amad a Misal; yn y gorllewin yr oedd eu terfyn yn cyffwrdd � Charmel a Sihor Libnath. 27 Yr oedd yn troi'n �l tua'r dwyrain at Beth-dagon, ac yna'n cyffwrdd � Sabulon a dyffryn Jifftahel, ac yn mynd tua'r gogledd at Beth�emec a Neiel, heibio i Cabwl, 28 Ebron, Rehob, Hammon a Cana hyd at Sidon Fawr. 29 Yr oedd y terfyn yn troi yn Rama ac yn cyrraedd dinas gaerog Tyrus, ac yna'n troi tua Hosa nes cyrraedd Mahalab, Achsib, 30 Acco, Affec a Rehob: dwy ar hugain o drefi a'u pentrefi. 31 Dyma etifeddiaeth llwyth Aser yn �l eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi. 32 I lwyth Nafftali y disgynnodd y chweched coelbren, i lwyth Nafftali yn �l eu tylwythau. 33 i eu terfyn hwy o Heleff, o'r dderwen yn Saanannim heibio i Adami-neceb a Jabneel i Laccum, nes cyrraedd yr Iorddonen. 34 Yr oedd y terfyn yn troi tua'r gorllewin yn Asnoth�tabor ac yn mynd oddi yno i Huccoc, gan gyffwrdd � Sabulon i'r de, ac Aser i'r gorllewin, a Jwda ger yr Iorddonen i'r dwyrain. 35 Eu dinasoedd caerog oedd Sidim, Ser, Hammath, Raccath, Cinnereth, 36 Adama, Rama, Hasor, 37 Cedes, Edrei, En-hasor, 38 Iron, Migdal�el, Horem, Beth-anath a Beth�semes: pedair ar bymtheg o drefi a'u pentrefi. 39 Dyma etifeddiaeth llwyth Nafftali yn �l eu tylwythau, yn drefi a'u pentrefi. 40 Disgynnodd y seithfed coelbren i lwyth Dan yn �l eu tylwythau. 41 Yn eu tiriogaeth hwy yr oedd Sora, Estaol, Ir-semes, 42 Saalabbin, Ajalon, Ithla, 43 Elon, Timna, Ecron, 44 Eltece, Gibbethon, Baalath, 45 Jehud, Bene�berac, Gath-rimmon, 46 Meiarcon, a Raccon, a hefyd y tir gyferbyn � Jopa. 47 Pan gollodd y Daniaid eu tiriogaeth, aethant i fyny ac ymladd yn erbyn Lesem a'i chipio; trawsant hi � min cleddyf, a'i meddiannu ac ymsefydlu yno, gan alw Lesem yn Dan ar �l eu tad. 48 Dyma etifeddiaeth llwyth Dan yn �l eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi. 49 Wedi iddynt orffen rhannu'r wlad yn �l ei therfynau, rhoddodd yr Israeliaid etifeddiaeth yn eu mysg i Josua fab Nun. 50 Yn unol � gorchymyn yr ARGLWYDD, rhoesant iddo'r ddinas y gofynnodd amdani, sef Timnath�sera ym mynydd-dir Effraim; ac wedi iddo'i hailadeiladu, bu fyw yno. 51 Dyma'r etifeddiaethau a rannodd yr offeiriad Eleasar, a Josua fab Nun a'r pennau�teuluoedd, trwy goelbren, i lwythau Israel yn Seilo gerbron yr ARGLWYDD, yn nrws pabell y cyfarfod. A gorffenasant rannu'r wlad.