1 Daeth pennau-teuluoedd y Lefiaid at yr offeiriad Eleasar, at Josua fab Nun, ac at bennau�teuluoedd llwythau'r Israeliaid, 2 a dweud wrthynt yn Seilo yng ngwlad Canaan, "Gorchmynnodd yr ARGLWYDD drwy Moses roi dinasoedd i ni i fyw ynddynt, a hefyd eu porfeydd ar gyfer ein hanifeiliaid." 3 Yna, yn �l gorchymyn yr ARGLWYDD, rhoddodd yr Israeliaid o'u hetifeddiaeth hwy y dinasoedd a nodir isod a'u porfeydd i'r Lefiaid. 4 Pan ddisgynnodd y coelbren ar deuluoedd y Cohathiaid, cafodd y Lefiaid a hanoedd o Aaron yr offeiriad dair dinas ar ddeg trwy'r coelbren gan lwythau Jwda, Simeon a Benjamin. 5 Cafodd gweddill y Cohathiaid ddeg dinas trwy'r coelbren gan deuluoedd llwyth Effraim, llwyth Dan, a hanner llwyth Manasse. 6 Cafodd y Gersoniaid dair dinas ar ddeg yn Basan trwy'r coelbren gan deuluoedd llwyth Issachar, llwyth Aser, llwyth Nafftali a hanner llwyth Manasse. 7 Cafodd y Merariaid ddeuddeg dinas, yn �l eu teuluoedd, gan lwythau Reuben, Gad a Sabulon. 8 Rhoddodd yr Israeliaid y dinasoedd hyn a'u porfeydd i'r Lefiaid trwy'r coelbren, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 9 Rhoesant y dinasoedd a enwir yma gan lwythau Jwda a Simeon 10 i'r Lefiaid o deuluoedd y Cohathiaid a hanoedd o Aaron, gan mai arnynt hwy y disgynnodd y coelbren cyntaf. 11 Rhoesant iddynt Ciriath-arba (Arba oedd tad Anac), sef Hebron ym mynydd�dir Jwda, a'r porfeydd o'i hamgylch. 12 Ond rhoesant dir y ddinas a'i phentrefi yn etifeddiaeth i Caleb fab Jeffunne. 13 I ddisgynyddion Aaron yr offeiriad rhoesant Hebron, dinas noddfa i leiddiaid, hefyd Libna, 14 Jattir, Estemoa, 15 Holon, Debir, 16 Ain, Jutta a Beth-semes, bob un �'i phorfeydd: naw dinas gan y ddau lwyth hynny. 17 Ac o lwyth Benjamin rhoesant Gibeon, Geba, 18 Anathoth, ac Almon, bob un �'i phorfeydd: pedair dinas. 19 Cafodd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, dair dinas ar ddeg a'u porfeydd. 20 Gan lwyth Effraim y cafodd gweddill y Lefiaid o linach Cohath eu dinasoedd trwy goelbren, yn �l teuluoedd y Cohathiaid. 21 Rhoesant Sichem, dinas noddfa i leiddiaid ym mynydd�dir Effraim, hefyd Geser, 22 Cibsaim a Beth-horon, bob un �'i phorfeydd: pedair dinas. 23 O lwyth Dan yr oedd Eltece, Gibbethon, 24 Ajalon a Gath�rimmon, bob un �'i phorfeydd: pedair dinas. 25 O hanner llwyth Manasse yr oedd Taanach a Gath-rimmon a'u porfeydd: dwy ddinas. 26 Cafodd gweddill teuluoedd y Cohathiaid ddeg dinas i gyd, a'u porfeydd. 27 Gan hanner llwyth Manasse cafodd y Gersoniaid o blith teuluoedd y Lefiaid Golan, dinas noddfa i leiddiaid yn Basan, a hefyd Beestera, bob un �'i phorfeydd: dwy ddinas. 28 O lwyth Issachar cafwyd Cison, Daberath, 29 Jarmuth ac En�gannim, bob un �'i phorfeydd: pedair dinas. 30 O lwyth Aser cafwyd Misal, Abdon, 31 Helcath a Rehob, bob un �'i phorfeydd: pedair dinas. 32 O lwyth Nafftali cafwyd Cedes, dinas noddfa i leiddiaid yn Galilea, a hefyd Hammoth-dor a Cartan, bob un �'i phorfeydd: tair dinas. 33 Yr oedd gan y Gersoniaid, yn �l eu teuluoedd, dair dinas ar ddeg i gyd, a'u porfeydd. 34 Gan lwyth Sabulon cafodd gweddill y Lefiaid a hanoedd o Merari, yn �l eu teuluoedd, Jocneam, Carta, 35 Dimna a Nahalal, bob un �'i phorfeydd: pedair dinas. 36 O lwyth Reuben cafwyd Beser, Jahas, 37 Cedemoth a Meffaath, bob un �'i phorfeydd: pedair dinas. 38 O lwyth Gad cafwyd Ramoth, dinas noddfa i leiddiaid, yn Gilead, hefyd Mahanaim, 39 Hesbon a Jaser, bob un �'i phorfeydd: pedair dinas i gyd. 40 Nifer y dinasoedd a gafodd y Merariaid, sef gweddill teuluoedd y Lefiaid, oedd deuddeg dinas i gyd, trwy'r coelbren yn �l eu teuluoedd. 41 Yr oedd nifer dinasoedd y Lefiaid oddi mewn i diriogaeth yr Israeliaid yn wyth a deugain o ddinasoedd a'u porfeydd. 42 Yr oedd gan bob un o'r dinasoedd hyn ei phorfeydd o'i hamgylch; dyna'r drefn gyda phob un o'r dinasoedd hyn. 43 Rhoddodd yr ARGLWYDD i Israel yr holl wlad a addawodd i'w hynafiaid. Wedi iddynt ei meddiannu ac ymsefydlu ynddi, 44 rhoddodd yr ARGLWYDD ddiogelwch iddynt ar bob tu, yn union fel yr addawodd i'w hynafiaid; ni allodd yr un o'u gelynion eu gwrthsefyll, oherwydd rhoddodd yr ARGLWYDD hwy oll yn eu dwylo. 45 Ni fethodd un o'r holl bethau da a addawodd yr ARGLWYDD i du375? Israel; daeth y cwbl i ben.